Pencampwr Gwir Flas 09/10 yw Deiniol ap Dafydd, perchennog Blas ar Fwydyn Llanrwst. Mae’r busnes wedi tyfu o un siop i grŵp o fentrau sy’n cynnwys sawl siop, bwyty, gwin, twristiaeth a’r sector cyhoeddus. Mae Golwg 360 wedi bod yn ei holi …
Aelod o dîm ydw i ym musnes Blas ar Fwyd
Mae Blas ar Fwyd Cyf yn cyflogi rhyw ddeugain o bobl ac mae gan bawb yn y tîm yn gyfrifol am eu swyddi eu hunain. Pan dw i’n mynd i un o’r siopau, dw i yna fel cyd-weithiwr yn barod i helpu, ac nid fel pennaeth yn goruchwylio neu’n cymryd drosodd.
Profiad dysgu yn y ddinas fawr
Ges i brofiad amhrisiadwy wrth fod yn rhan o ddiwydiant bwyd a hamdden Llundain – yn chwysu gweithio mewn amryw o sefydliadau gwahanol bob diwrnod am flynyddoedd cyn mynd ymlaen i redeg canolfan hamdden ac adloniant. Roedd yn ffordd wych o fagu hyder ac yn hanfodol o ran fy ngalluogi i ddechrau busnes fy hun
.
Creu cyfle yng nghefn gwlad Cymru
Roedd dychwelyd i Lanrwst yn yr 80au yn newid mawr – doedd yna ddim swyddi arlwyo ar gyfyl y lle. Ro’n i hefyd wedi dod i arfer ag amrywiaeth eang o fwydydd cain yn Llundain nad oedd ar gael yng ngogledd Cymru bryd hynny. Felly fe gychwynnon ni Blas ar Fwyd yn 1988, gan wneud pob ymdrech dan yr haul i ddod â’r cynnyrch gorau i Lanrwst – heb gymorth unrhyw wefan! Erbyn hyn, ydan ni’n dosbarthu i fusnesau di-ri, y cyntaf i gyrchu caws o Dde i Ogledd Cymru ac yn cyrchu bwyd o Gymru.
Daliwch eich tir
Taswn i wedi cael ceiniog am bob person a fu’n amau llwyddiant y busnes, mi faswn i’n feiolinwyr erbyn hyn! Roedd fy nghyfrifydd yn siglo’i ben wrth sbïo ar ffigyrau’r flwyddyn gynta’ ond doedd o byth yn fy mhoeni i oherwydd ro’n i’n benderfynol o lwyddo. Mae rhai ymwelwyr yn dal i amau hir oes y busnes ond ydan ni dal yma un ar hugain o flynyddoedd wedyn, gyda deli, siop win, bwyty a gwasanaeth arlwyo a bellach y delicatessen fwyaf yng Nghymru a Lloegr y tu allan i Lundain.
Mae’r archfarchnad yn cymryd drosodd
Mae yna gannoedd o siopau Tesco erbyn hyn sy’n niweidiol dros ben i’r diwydiant bwyd annibynnol ac yn rhwygo’r gymuned leol. Tra bod gan Loegr rywfaint o reolaeth i’w gwarchod erbyn hyn, does dim o’r fath yng Nghymru gwaetha’r modd. Dw i’n gobeithio pan ddaw’r amser y bydd gan bobol Llanrwst yr hunan-barch a’r cyfrifoldeb i sefyll yn gryf yn erbyn hyn.
Mae’r gyfrinach yn y colslo
Mae colslo yn fwyd nodweddiadol i ddelicatessen ac mewn ffordd mae ei gynnwys yn brawf o ansawdd y siop. Dim ond dwy ffatri oedd yn ei wneud bryd hynny a, gyda’r broses dosbarthu, mi fyddai wedi dyddio rhai wythnosau cyn cyrraedd cwsmeriaid Blas ar Fwyd. I’r diben yma, mi benderfynon ni agor cegin gan wneud saladau a chacennau – ac, wrth gwrs, ein colslo ein hunain yn ffres.
Amrywiaeth sy’n rhoi blas ar fywyd
Cynnyrch Cymreig safonol sy’n cael blaenoriaeth yn Blas ar Fwyd ac mae Halen Môn a’i fath yn maeddu llawer o gynnyrch gwledydd eraill. Ond, yn sicr, dw i yn hoff o flasu a hyrwyddo bwydydd tramor o ansawdd – dw i wedi cael addysg dda ym mwydydd y byd diolch i’m rhieni, oedd yn arfer smyglo pob math o ddanteithion yn ôl i Gymru yn y 60au mewn bocsys cornfflêcs!
Cymru, cystal â neb
Pan o’n i yn Efrog Newydd yn ddiweddar, mi ges i gipolwg yn rhai o ddelis enwog Manhattan, ac roedd yn galondid i sylweddoli ein bod ni cystal â nhw. Ydan ni wedi dechrau rhoi’r darnau at ei gilydd erbyn hyn yn niwydiant bwyd Cymru, ac yn cynnig cynhyrchwyr artisan a chynnyrch o ansawdd yn ogystal â chynhwysion crai da.
Yr hwntws a’r gogs?
Mae Llanrwst yn reit fywiog rŵan o ran y diwydiant bwyd ond mae yna lawer mwy o botensial eto i Ddyffryn Conwy i gymharu â chynhyrchwyr gwych Ynys Môn neu’r hyn sydd ar gael gan yr hwntws yn Sir Gâr a Cheredigion.
Llun (Hawlfraint y Goron)