Mae miloedd o blant sydd ar y strydoedd yn cael eu cam-drin yn rhywiol a hynny wedi’i drefnu gan bedoffiliaid, rhybuddiodd elusen heddiw.

Dywedodd Barnardo’s bod y broblem yn un “gudd” wrth i blant a phobol ifanc fregus – nifer ohonyn nhw wedi ffoi o adref – gael eu targedu gan ddynion.

Does gan y rhan fwya’ o awdurdodau lleol ddim gwasanaeth i blant o’r fath, meddai, gan honni bod 100,000 o blant yn mynd ar goll bob blwyddyn yng ngwledydd Prydain.

Cynnig lloches

Mae’r elusen yn honni bod y pedoffiliaid yn aml yn cynnig lloches a chyfeillgarwch i’r plant, ac yn rhoi anrhegion a bwyd iddyn nhw, cyn eu gorfodi i gael rhyw.

Yna mae’r plant yn cael eu trosglwyddo o dref i dref ble bydd pedoffiliaid eraill yn eu cam-drin, meddai’r adroddiad Whose Child Now?.

Dywedodd yr elusen bod mwy nag 1,000 o blant yn Llundain yn unig yn cael eu defnyddio’n rhywiol, ond nad oedd unrhyw ffigyrau ynglŷn â maint y broblem ar draws gwledydd Prydain.

‘Allan o olwg y cyhoedd’

“Rydym ni wedi gweithio gyda dros 1,000 o blant sydd wedi eu cam-drin yn rhywiol ond dim ond mewn 20 o’r 209 awdurdod lleol yr oedd hynny,” meddai Martin Narey, Prif Weithredwr Barnardo’s.

“D’yn ni ddim yn gwybod beth yw gwir faint y broblem. Ond rydyn ni yn gwybod ei bod yn effeithio ar filoedd o blant, allan o olwg y cyhoedd.”

Dywedodd bod y pedoffiliaid fel arfer yn targedu plant oedd wedi dianc o gartref ac ar eu pennau eu hunain ar y strydoedd.

“Maen nhw’n cael eu codi gan y dynion yma sy’n ymddangos yn garedig i ddechrau, ond yn y pen draw yn eu gorfodi nhw i gael rhyw am arian pitw.”