Wrth i gytundeb Lisbon ddod gam yn nes heddiw, a fydd yn arwain at swydd o arlywydd i’r Undeb Ewropeaidd, mae’n ymddangos yn llai tebygol mai Tony Blair fydd yr arlywydd hwnnw.

Daeth i’r amlwg fod gobeithion y cyn-brif weinidog yn prysur bylu, er gwaethaf cefnogaeth ddi-baid Gordon Brown.

Mae trafodaethau anffurfiol arweinwyr UE ym Mrwsel ddydd Iau wedi cadarnhau gwrthwynebiadau amlwg i Blair fel Arlywydd.

Prif sail y gwrthwynebiadau hyn mae’n debyg yw diffyg ymrwymiad Prydain i’r Undeb Ewropeaidd. Eisoes, mae Stryd Downing wedi awgrymu fod posibilrwydd nad Blair fydd yr Arlywydd.

Dywedodd un cynrychiolydd dienw wrth wasanaeth newyddion PA:

“Dyw Tony Blair ddim wedi ymgeisio am y swydd eto. Pan mae Arlywydd Gweriniaeth Czech Vaclav Klaus wedi arwyddo Cytundeb Lisbon – dyna pryd fydd y swydd yn dod yn realiti – a dyna phryd y cawn ni wybod pwy sy’n cefnogi Arlywyddiaeth Blair hefyd.”