Mab i academydd o Aberystwyth sydd y tu ôl i gân rap gynta’r gyflwynwraig enwog Siân Lloyd.

Bwriad David Wyn Williams wrth sgrifennu ‘Rhagolygon y Tywydd’ yw tynnu sylw at y tebygrwydd rhwng sefyllfa’r blaned a’r iaith Gymraeg.

Fe fydd y gân yn cael ei pherfformio yn gig Oxjam Caerdydd ddydd Mercher nesaf yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau i godi arian at elusen Oxfam.

Yn ogystal â phoeni am effaith cynhesu byd eang ar dlodion y byd, mae David Wyn Williams yn poeni am dynged yr iaith.

Canu yn Llundain…

Er nad yw David Wyn Williams erioed wedi cwrdd â Siân Lloyd yn y cnawd, roedd wedi’i gwahodd i noson i godi arian at Ysgol Gymraeg Llundain, pan oedd yn athro yno.

Roedd y canwr yn perfformio caneuon gwerinol llawn ing a siom y noson honno, ym mwyty enwog Bryn Roberts ar Fryn y Briallu.

Doedd Siân Lloyd ddim yn gallu bod yno ar y noson, ond roedd trwbadŵr yn benderfynol o ddefnyddio enwogrwydd y Gymraes er gwell.

“Wnes i e-bostio hi,” cofia David Wyn Williams, “a dweud; Hoffwn petaech chi yn recordio pwt o sgript yn seiliedig ar ddatganiadau Oxjam ac Immanuel Kant.”

Cewch ddarllen weddill yr erthygl yn Golwg, Hydref 22