Bydd hyfforddwr y Celtic Crusaders, John Dixon yn gadael y clwb wedi gêm olaf o’r tymor yn erbyn Castleford yfory.
Fe gafodd Dixon ei benodi’n hyfforddwr y Croesgadwyr yn 2006 gyda’r nod o sicrhau statws y Super League i’r clwb.
Enillodd y clwb ddyrchafiad o ail adran y Gynghrair Genedlaethol yn nhymor 2006-7 a. sicrhau statws Super League ar gyfer tymor 2009. Ond maen nhw wedi cael tymor siomedig.
Problem arall oedd bod chwech o’u chwaraewyr tramor wedi cael eu hanfon o’r wlad am fod heb y fisas cywir i chwarae rygbi yng ngwledydd Prydain.
‘Blwyddyn anodd’
“Rwy’n siomedig fy mod yn gadael, ond rwy’n parchu penderfyniad y cadeirydd i wneud newidiadau”, meddai John Dixon.
“Rwy’n cydnabod bod y flwyddyn gyntaf yn y Super League wedi bod yn anodd. Hoffwn ddymuno pob llwyddiant i’r clwb yn y dyfodol”
“Credaf fod strwythur datblygu yn ei le i helpu sicrhau cynaladwyedd tymor hir y clwb a rygbi’r cynghrair yng Nghymru”
Sylwadau’r clwb
“Rwyf am ddiolch i John am ei gyfraniad gwych dros y pedair blynedd diwethaf”, meddai Leighton Samuel, cadeirydd y clwb. “Mae wedi cyfrannu’n helaeth i sicrhau bod y clwb wedi cyrraedd y Super League”
Mae’r Celtic Crusaders wedi dweud y bydd yna gyhoeddiad ynglŷn ag olynydd John Dixon yn y dyfodol agos.