Gall gobeithion y byd i ddod allan o’r dirwasgiad fod mewn peryg os yw llywodraethau yn rhoi stop ar wario yn rhy fuan meddai’r Prif Weinidog.

Mewn trafodaethau yn Llundain gyda gweinidogion cyllid o wledydd yr G20, anogodd Gordon Brown nhw i barhau i gydweithio gyda’r rhaglenni gwario cyhoeddus a thoriadau treth i geisio dod allan o’r dirwasgiad yn 2009.

Dim ond drwy gydweithrediad ac ymyrraeth llywodraethau’r G20 y llynedd yn nhrafodaethau Washington y mae’r adferiad presennol i’w weld heddiw, meddai Gordon Brown.

Byddai tynnu’n ôl nawr yn peryglu ac yn tanseilio adferiad, meddai.

Pwysleisiodd fod Prydain wedi derbyn llai na hanner y $5 triliwn o gymorth ychwanegol yr oedd yr Unol Dalaethau wedi addo’i roi.

Dywedodd y byddai unrhyw ymdrech i leihau diffygion ariannol drwy dorri’n ôl ar wario cyhoeddus yn “gamgymeriad.”

Ychwanegodd ei bod yn angenrheidiol i wledydd gyd-drefnu strategaeth i ddod allan o’r dirwasgiad, ond na ddylai’r strategaeth hynny ddod i rym tan fod adferiad pendant yn digwydd.