Mae traean y boblogaeth wedi cael eu gorfodi i ohirio ymddeol oherwydd bod gwerth eu pensiynau wedi cwympo.

Effaith y dirwasgiad sy’n gyfrifol am y penderfyniad yn ôl ymchwil gan gwmni ariannol MGM Advantage.

Ond mae hwnnw hefyd yn dangos fod 48% o bobol heb newid eu cynlluniau o gwbl.

Mae’r adroddiad yn dweud fod tua 35% o bobol dros 55 oed sydd mewn gwaith yn bwriadu gohirio eu cynlluniau i ymddeol wrth aros i’w cronfeydd pensiwn gryfhau.

Os yw’r ymchwil yn gywir, fe fydd tua 23% yn parhau i weithio y tu hwnt i’r oed ymddeol o 65 ac fe ddywedodd 32% o’r rhai a holwyd nad oedden nhw wedi paratoi ar gyfer ymddeol.

“Un o effeithiau mwyaf pryderus y dirwasgiad yw’r effaith y mae’n ei gael ar ymddeol. Mae miloedd o bobol yn gorfod parhau i weithio.

I lawer, nid dewis yw hyn ond rheidrwydd” meddai Craig Fazzini-Jones o MGM Advantage.

Cafodd 2,053 eu holi yn yr arolwg ym mis Mehefin