Gallai rhieni yng Nghymru arbed miloedd o bunnau’r flwyddyn drwy annog eu plant i ddod o hyd i’r bargeinion technolegol gorau ar y We.

Wrth brynu pethau ‘newydd’ fel ffonau symudol neu danysgrifiadau teledu, mae tros hanner y rhieni (55%) yn cyfaddef bod eu plant yn gwybod mwy na nhw, yn ôl arolwg gan gwmni ffonau T-mobile.

Er hynny, dim ond 44% o rieni sy’n ceisio cyngor eu plant ac mae tadau’n llai tebygol fyth o wneud hynny.

Erbyn diwedd gwyliau’r Haf, fe fydd rhieni wedi gwario £269.80c yn ychwanegol ar bob un o’u plant gydag un rhiant ym mhob chwech yn amcangyfrif gwario gymaint â £500 ar bob plentyn.

Y gwariant mwyaf cyffredin ymysg rhieni yw diwrnodau allan, gemau, DVDs a chryno ddisgiau.