Yn ôl arweinydd undeb, mae’n bosib bod adroddiadau am gyhuddiadau o gam-drin plant yn y wasg yn rhan o’r rheswm pam fod nifer athrawon gwrywaidd yn lleihau.

Roedd Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, Elaine Edwards, yn ymateb i ystadegau sy’n dangos fod llai a llai o ddynion yn dysgu, yn arbennig mewn ysgolion cynradd.

“Efallai nad yw’r cyfrifoldeb o orfod gweithio gyda phlant bach yn swydd ddeniadol i ddynion,” meddai.

Yn ôl y ffigurau mae canran yr athrawon gwrywaidd mewn ysgolion cynradd wedi syrthio o 16.6% i 15.7% rhwng 1999-2000 a 2008-09.

Mae hynny’n llai nag un ym mhob chwech, o’i gymharu ag ychydig yn fwy nag un ym mhob tri yn y sector uwchradd.

“Mae dynion yn tueddu i fynd at addysg uwchradd am eu bod nhw’n cael eu denu at y pwnc yr oedden nhw’n ei astudio yn y coleg ac y maen nhw’n mo’yn arbenigo ynddo,” meddai Elaine Edwards.

“Fe allai hynny fod am eu bod nhw’n gweld gyrfa fwy clir yn y sector uwchradd. Mae mwy o gyfle i gael dyrchafiad i fod yn bennaeth adran neu bennaeth blwyddyn. Does dim llwybr mor glir o ran gyrfa yn y sector cynradd.”