Mae 73% o drigolion Catalwnia eisiau i’r iaith Gatalaneg fod yn iaith swyddogol yn Ewrop, yn ôl arolwg gan asiantaeth CEO, sydd dan reolaeth Llywodraeth Catalwnia.

Cafodd yr arolwg ei gynnal rhwng Mawrth 12 a Mai 19, cyn etholiadau Ewrop ar Fehefin 9.

O blith y rhai gafodd eu holi, roedd 39% yn gryf o blaid statws swyddogol i’r iaith, a 34% yn rhagor o blaid.

Mae 26% o’r rhai gafodd ei holi yn gwrthwynebu’r syniad, 18% yn anghytuno â’r syniad, ac 8% yn anghytuno’n llwyr.

Mae 61% o siaradwyr Sbaeneg iaith gyntaf o blaid statws swyddogol, tra bod 38% yn gwrthwynebu.

Ar y cyfan, cefnogwyr pleidiau annibyniaeth Junts per Catalunya, Esquerra Republicana, CUP a Comuns-Sumar yw’r rhai sydd o blaid.

Mae 73% o Sosialwyr o blaid hefyd, a 70% o gefnogwyr Plaid y Bobol a Vox, dwy blaid asgell dde, yn wrthwynebus.

Ymgyrch

Fis Medi y llynedd, daeth Llywodraeth Sbaen a phleidiau annibyniaeth Catalwnia ynghyd i geisio statws swyddogol i’r Gatalaneg yn yr Undeb Ewropeaidd, oedd dan lywyddiaeth Sbaen ar y pryd.

Ond roedd cryn wrthwynebiad gan rai gwledydd sy’n aelodau, yn enwedig o ran goblygiadau cyfreithiol, gwleidyddol ac economaidd y fath gam.

Daeth yr ymgyrch i ben yn y pen draw oherwydd yr anghydweld.

Ond ar ôl i Wlad Belg dderbyn llywyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd, ceision nhw atgyfodi’r drafodaeth ond roedd oedi unwaith eto wrth geisio asesu effaith statws swyddogol.

Mae gweinidogion Catalwnia eisoes wedi cynnal trafodaethau â Hwngari, un o’r gwledydd sy’n gefnogol i’r statws swyddogol i Gatalwnia ac sydd am dderbyn y llywyddiaeth y tro nesaf, er mwyn sicrhau bod yr ymgyrch yn parhau.

Er mwyn newid polisi’r Undeb Ewropeaidd ar ieithoedd swyddogol, mae’n rhaid cael cefnogaeth unfrydol y 27 gwlad sy’n aelodau.

Er nad oes gwrthwynebiad chwyrn gan unrhyw wlad, mae pryderon y gallai gwledydd eraill â ieithoedd lleiafrifol, megis y Ffindir neu Lithwania, wrthwynebu’r statws wrth ragweld problemau posib.

Yn ogystal, bydd angen i Gomisiwn Ewrop gynnal dadansoddiad economaidd ac i Gyngor Ewrop lunio adroddiad cyfreithiol.

Defnyddio’r Gatalaneg yn Senedd Ewrop

Waeth beth fydd canlyniad yr ymgyrch tros statws swyddogol, gallai’r Gatalaneg gael ei defnyddio pe bai’r rhan fwyaf o Swyddfa Senedd Ewrop, hynny yw y rhan fwyaf o is-lywyddion, o blaid gwneud hynny.

Ond does gan y Sosialwyr a’r Blaid Werdd – Cynghrair Rydd Ewrop mo’r mwyafrif i wireddu hynny.

Ar hyn o bryd, mae cryn ddyfalu mai pleidiau asgell dde fydd trwch yr Aelodau o Senedd Ewrop o Gatalwnia ar ôl yr etholiad, a dydyn nhw ddim o blaid statws swyddogol i’r iaith.