Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad heddiw (dydd Gwener, Mehefin 21), yn dilyn arolygiad o Uned Famolaeth Ysbyty Athrofaol Cymru, gaiff ei redeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, sy’n dweud bod angen gwneud rhagor o welliannau.
Cwblhaodd arolygwyr yr arolygiad dirybudd o wasanaethau mamolaeth yr ysbyty dros gyfnod o dri diwrnod dilynol ym mis Mawrth, gan adolygu wardiau amrywiol, gan gynnwys yr ystafelloedd geni, y ganolfan geni, wardiau mamolaeth sy’n darparu gofal cynenedigol a gofal ôl-enedigol, a’r theatrau llawfeddygol.
Yn gyffredinol, roedd gwelliannau wedi cael eu gwneud ers yr arolygiad blaenorol fis Mawrth y llynedd i sicrhau bod yr uned yn darparu gofal diogel ac effeithiol.
Cafodd arolygwyr wybod fod morâl y staff wedi gwella yn dilyn cynnydd mewn adnoddau, a phan gawson nhw eu holi, dywedodd y cleifion eu bod yn hapus â lefel y gofal sy’n cael ei ddarparu.
Ond doedd dim sicrwydd fod y prosesau a’r systemau ar waith yn ddigonol, ac mae’r arolygwyr wedi gofyn am sicrwydd ar unwaith mewn perthynas â’r gweithdrefnau atal a rheoli heintiau, dogfennaeth rheoli meddyginiaethau anghyson, a mesurau diogelwch annigonol ar y wardiau.
Agweddau positif
Mae’r staff yn darparu gofal caredig a pharchus, ac yn gweithio’n dda fel tîm i gynnig profiad cadarnhaol i’r menywod a’r bobol sy’n rhoi genedigaeth, a’r profiad hwnnw wedi’i deilwra at yr unigolyn ac yn canolbwyntio ar eu hanghenion, medd yr arolygwyr.
Pan gawson nhw eu holi, dywedodd y menywod a’r bobol oedd yn rhoi genedigaeth eu bod nhw wedi cael profiad ‘da iawn’ neu ‘dda’.
Nododd yr arolygwyr fod gan yr uned amrywiaeth eang o fentrau arferion da i gefnogi anghenion unigol cleifion, gan gynnwys cymorth iechyd meddwl arbenigol, ymwybyddiaeth o amrywiaeth a chynhwysiant drwy ddulliau cyfathrebu gwahanol, a gofal profedigaeth wedi’i deilwra at yr unigolyn.
Mae mentrau i wella profiad cleifion Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol wedi’u hymgorffori a’u datblygu ymhellach.
Pryderon
Cafodd nifer o bryderon eu nodi, a’r rheiny’n ymwneud â diffyg cydymffurfio o ran diogelwch cleifion.
Fe wnaeth arolygwyr ofyn am sicrwydd ar unwaith mewn perthynas â’r mesurau diogelwch a ar waith i sicrhau bod babanod yn cael eu cadw’n ddiogel, gwiriadau dyddiol o’r cyfarpar achub bywyd, y broses o reoli cyffuriau gaiff eu rheoli, a’r risgiau cynyddol o haint, gan gynnwys sicrhau bod partneriaid geni yn gwisgo dillad meddygol cyn mynd i mewn i’r theatr.
Roedd rhai gwelliannau wedi’u gwneud yn ardal y ward ar gyfer Ysgogi’r Cyfnod Esgor ers yr arolygiad blaenorol fis Mawrth diwethaf.
Mae arweinydd newydd wedi’i benodi ar gyfer Ysgogi’r Cyfnod Esgor, ac mae’r lefelau staffio wedi cael eu newid er mwyn gallu rhoi mwy o gymorth i fenywod yn yr ardal hon.
Roedd y tîm arolygu yn falch o weld bod ystafelloedd ochr wedi cael eu hychwanegu ers yr arolygiad diwethaf, a’r rheiny’n cynnig preifatrwydd i fenywod a’u partneriaid geni.
Yn ystod yr arolygiad, roedd nifer o bryderon am ddiogelwch yn ymwneud ag amgylchedd ffisegol yr uned.
Adroddodd y staff am broblemau parhaus yn ymwneud â dŵr yn gollwng o’r to gwastad, a bwcedi o ddŵr glaw yn y coridorau, gan gynnwys y theatrau.
Roedd rhywfaint o dystiolaeth fod y problemau parhaus hyn wedi cael eu huwchgyfeirio, a bod asesiadau risg wedi cael eu cynnal yn eu cylch.
Mae strwythur rheoli cymharol newydd ar waith, ac roedd y rheolwyr yn ymddangos yn hawdd mynd atyn nhw ac yn weladwy yn yr uned.
Mae adborth gan staff yn awgrymu bod morâl a phrosesau cyfathrebu wedi gwella, ond dywedodd rhai o’r staff eu bod nhw’n teimlo bod heriau o ran lefelau staffio yn ei gwneud hi’n anodd iddyn nhw gyflawni eu dyletswyddau yn iawn.
‘Rhaid mynd i’r afael â’r pryderon’
“Roedd yn gadarnhaol gweld bod gwelliannau wedi’u gwneud ers ein harolygiad blaenorol, gyda sawl enghraifft o arfer da,” meddai Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
“Rhaid mynd i’r afael â’r pryderon gafodd eu nodi er mwyn sicrhau bod ansawdd y gofal gaiff ei ddarparu i fenywod a phobol sy’n rhoi genedigaeth yn parhau i wella.
“Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro er mwyn sicrhau y caiff cynnydd amserol ei wneud yn erbyn ein canfyddiadau.”