Mae aelodau seneddol yn San Steffan wedi pleidleisio o blaid torri Taliad Tanwydd y Gaeaf.

Roedd y Ceidwadwyr wedi cyflwyno cynnig i geisio atal y toriadau am y tro, ond cafodd ei drechu o 348 o bleidleisiau i 228.

Byddai ei atal wedi helpu oddeutu deng miliwn o bensiynwyr sy’n derbyn y taliad gwerth £200-£300.

Roedd oddeutu 17 aelod seneddol Llafur wedi llofnodi cynnig y Ceidwadwyr, ac yn eu plith roedd chwech o’r saith gollodd y chwip am bleidleisio yn erbyn Araith y Brenin ar ôl i Lafur wrthod dileu’r cap dau blentyn ar fudd-dal plant.

Yn ôl Syr Keir Starmer, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, mae’n rhaid i’w lywodraeth wneud “penderfyniadau anodd” er lles “sefydlogrwydd” yr economi, ond mae’r wrthblaid Geidwadol, undebau ac aelodau’r meinciau cefn yn San Steffan yn galw am dro pedol.

Y taliad

Nod y taliad yw helpu pensiynwyr i dalu biliau tanwydd uwch, ond byddai’r newid i’r drefn yn golygu mai dim ond y rheiny sy’n hawlio Credyd Pensiwn fyddai’n gymwys i dderbyn y taliad.

Cyn hyn, roedd taliadau o £300 ar gael i bawb dros oed pensiwn gwladol.

Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, bydd 400,000 o aelwydydd yng Nghymru’n cael eu heffeithio gan y toriadau.

Cafodd y ffigurau eu datgelu gan Emma Reynolds, Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau San Steffan, wrth iddi ymateb mewn llythyr i Ann Davies, llefarydd gwaith a phensiynau Plaid Cymru sydd hefyd yn Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Gaerfyrddin.

‘Diflastod’

“Bydd toriadau Llafur i daliadau tanwydd y gaeaf yn arwain at ddiflastod y gellid ei osgoi yng nghanol y gaeaf,” meddai Delyth Jewell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd.

“Mae’n bolisi didrugaredd.

“Ddylai e ddim bod wedi cael ei basio.”

Yn ôl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, mae’r bleidlais yn “destun pryder i bensiynwyr ledled Cymru”.

“Bydd pensiynwyr ledled Cymru’n poeni’n fawr ynghylch sut fyddan nhw’n cael deupen llinyn ynghyd y gaeaf hwn gyda’r toriad hwn i Daliad Tanwydd y Gaeaf,” meddai’r dirprwy arweinydd David Chadwick.

“Mae cynifer o bensiynwyr eisoes yn wynebu gaeaf arall o argyfwng costau byw a bydd hyn yn gwneud pethau’n waeth.

“Mae hyn yn arbennig o wir yng Nghymru, sydd â chyfran fawr o hen stoc o dai sydd wedi’u hinsiwleiddio’n wael.

“Mae’r difrod i’n heconomi sydd wedi’i adael gan y Ceidwadwyr yn anfaddeuol, ond nid torri taliadau i bensiynwyr bregus yw’r ffordd o greu’r newid mae’r wlad yn ei haeddu.

“Fe wnaeth aelodau seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol wrthwynebu gweithredoedd y Llywodraeth Lafur heddiw gan sefyll i fyny dros bensiynwyr ledled Cymru sydd bellach mewn perygl o argyfwng costau byw mwy fyth dros y gaeaf.

“Byddwn yn parhau i frwydro’r toriad hwn sut bynnag y gallwn ni, gan ddadlau o blaid y newid gwirioneddol mae pobol eisiau ei weld.”

Lliniaru effeithiau

Yn dilyn y bleidlais, mae Ann Davies, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Gaerfyrddin a llefarydd gwaith a phensiynau ei phlaid, wedi cynnig ffordd o liniaru effeithiau’r toriad.

Pleidleisiodd pob un o aelodau seneddol Plaid Cymru dros gadw’r taliadau.

Er bod Llafur wedi addo “newid” cwta ddeufis yn ôl, meddai, “does dim byd wedi newid”.

Ymhlith yr atebion mae hi wedi’u cynnig mae tariff ynni cymdeithasol ar gyfer y rhai sydd ar incwm isel neu’n byw mewn tlodi tanwydd.

Gallai tariff cymdeithasol gynnig gwarchodaeth ar brisiau drwy ostwng cyfraddau uned, tâl safonol neu ad-daliadau biliau sy’n cael eu cyfrif drwy ddefnyddio fformiwla sy’n ystyried defnydd ynni aelwydydd ac incwm aelwydydd.

Ychwanega y gallai’r llywodraeth gynnwys Taliad Tanwydd y Gaeaf yn rhan o incwm mae modd ei drethu.

Rhybuddia Ann Davies y bydd aelwydydd gwledig yn cael eu heffeithio’n arbennig o wael, a hynny o ganlyniad i effeithlonrwydd ynni gwael a dibyniaeth ar ffynonellau eraill o wres gan nad ydyn nhw wedi’u cysylltu i’r grid nwy.

“Ddeufis yn unig yn ôl yr enillodd Llafur fwyafrif yn yr etholiad cyffredinol ar sail neges o ‘newid’,” meddai.

“Ond yn ystod y deufis hynny, mae Llywodraeth Lafur newydd y Deyrnas Unedig wedi gwrthod dileu’r cap creulon o ddau blentyn ar gyfer derbyn budd-dal plant, ac maen nhw bellach yn ceisio dileu Taliadau Tanwydd y Gaeaf o hyd at £300 ar gyfer miliynau o bensiynwyr ledled y Deyrnas Unedig, drwy eu cyfyngu i’r rhai sy’n derbyn Credyd Pensiwn.

“Does dim byd wedi newid.

“Roedd 68% o aelwydydd yn Sir Gaerfyrddin yn byw mewn tai ag effeithlonrwydd ynni gwael yn 2022 – ac mae 60.4% o aelwydydd yng Nghaerfyrddin yn byw oddi ar y grid nwy, gan ddibynnu’n aml ar olew fel ffynhonnell o wres – ac mae ei bris yn anwadal, ac fe all achosi ansicrwydd i bobol sy’n cyllidebu dros y gaeaf.

“Gall peidio gwresogi cartref arwain at ganlyniadau difrifol.

“Daw cartref oer â pherygl uwch o strôc, afiechyd anadlu, a chwympo neu anafiadau eraill.

“Yn wir, fe wnaeth y Glymblaid Trechu Tlodi Tanwydd amcangyfrif fod 4,950 o farwolaethau gaeafol – y gwahaniaeth rhwng amcangyfrifon a’r ffigwr go iawn – o ganlyniad i fyw mewn cartrefi oer yn ystod gaeaf 2022-23.

“Ac mae gan nifer o bobol hŷn, fwy bregus gostau ynni uwch am resymau iechyd.

“Gydag Age UK yn adrodd fod 200,000 o bobol hŷn eisoes yn ei chael hi’n arbennig o anodd gwresogi eu cartrefi, bydd colli Taliad Tanwydd y Gaeaf yn cael ei deimlo.

“Mae atebion amgen i’r polisi hwn nad ydyn nhw’n gadael miloedd o bobol heb y gefnogaeth maen nhw’n dibynnu arni.

“Mae’n drueni fod y Gweinidog Plismona, Tân ac Atal Troseddau wedi siarad yn wallus yn gynharach yr wythnos hon, gan y byddai croeso i ystyriaeth i opsiynau eraill megis tariff cymdeithasol neu ffyrdd gwahanol o brofi moddion.

“Er enghraifft, gallai’r llywodraeth ddod â Thaliad Tanwydd y Gaeaf o fewn diffiniad incwm mae modd ei drethu, er mwyn sicrhau bod pensiynwyr yn cael yr hyn sydd ei angen arnyn nhw.”

 

Taliad Tanwydd y Gaeaf: ‘Dangoswch asgwrn cefn,’ medd Andrew RT Davies wrth Lafur

Bydd pleidlais ar y cynlluniau i wneud toriadau’n cael ei chynnal yn San Steffan heddiw (dydd Mawrth, Medi 10)