Mae arweinydd a Chabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi goroesi cynnig i’w symud o’u swyddi, ar ôl i Lafur a Phlaid Cymru ddod ynghyd i sicrhau eu bod nhw’n cael aros mewn grym.

Daw hyn er gwaethaf cyflwyno cynllun ailgylchu ffaeledig y Cyngor ar gost o fwy na £50,000-£60,000 dros y gyllideb.

Fe wnaeth y Cynghorydd Jason McLellan, arweinydd y Cyngor, gyhuddo’r blaid Annibynnol o gyflwyno cynnig “gwael, wedi’i yrru gan wleidyddiaeth” i’w symud e ac wyth aelod o’i Gabinet o’u swyddi yn ystod cyfarfod y Cyngor yn Neuadd y Sir yn Rhuthun ddydd Mawrth (Medi 10).

Dywedodd ei fod e’n ymwybodol fod aelodau annibynnol yn ffonio cynghorwyr o bleidiau eraill ac yn addo seddi iddyn nhw mewn cabinet ar ei newydd wedd – pe bai’r bleidlais i sicrhau arweinyddiaeth newydd yn cael ei hennill.

Ond gyda chefnogaeth aelodau’r Blaid Werdd, pleidleisiodd Llafur a Phlaid Cymru’n unfrydol o blaid cadw eu seddi, oedd yn golygu bod y bleidlais wedi cael ei cholli o 25-17, gyda thri chynghorydd yn ymatal ac un yn absennol o’r cyfarfod.

Y ddadl

Fe wnaeth y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, yr arweinydd Annibynnol, agor y ddadl drwy honni bod yr arweinydd a’i Gabinet wedi esgeuluso trigolion Sir Ddinbych drwyddi draw yn nhermau addysg, yr economi, toiledau cyhoeddus a lleihau nifer y llyfrgelloedd.

Ond cynllun ailgylchu ffaeledig oedd prif destun trafod y ddadl, gydag un cynghorydd ar ôl y llall yn beirniadu’r gwasanaeth ac yn cyfeirio at drigolion blin nad oedden nhw wedi cael casglu eu sbwriel yn brydlon ers wythnosau.

“Does dim byd gwleidyddol am hyn, oni bai am y ffaith ein bod ni eisiau codi pryderon ein trigolion yn ein cymunedau,” meddai’r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts.

“Rydym yn rhoi ein trigolion yn gyntaf, nid gwleidyddiaeth, a’r hyn rydyn ni’n teimlo ydy rôl y Cyngor ydy rhoi Sir Ddinbych gyfan yn gyntaf, nid dim ond eu hardal leol eu hunain.

“Nid eich ardal eich hun yn unig sy’n bwysig, ond pob un o’r 96,000 o bobol yn Sir Ddinbych.

“Mae pob un ohonom yn yr ystafell hon wedi derbyn cwynion gan drigolion, yn enwedig dros y 13 neu 14 wythnos ddiwethaf.

“Rydyn ni wedi gweld pobol fregus yn ei chael hi’n anodd.”

‘O Gyngor rhagorol i awdurdod dan arweinyddiaeth swyddog’

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts fod Sir Ddinbych wedi mynd o fod yn Gyngor rhagorol i fod yn awdurdod dan arweinyddiaeth swyddog.

“Rydych chi yng nghanol y storm yn fa’ma,” meddai.

“Rydych chi yng nghanol y cefnfor.

“Mae angen i chi benderfynu p’un a ydych chi am fynd i’r chwith neu’r dde, yn hytrach na chadw i fynd.

“Dw i’n cofio Graham [Boase, y prif weithredwr] yn dweud, ‘Rydyn ni’n rhy ddwfn i mewn. Mae angen i ni gadw i fynd’, a brawddeg Jason fod ‘angen i ni ei gael e (y cynllun ailgylchu) dros y llinell derfyn’, ond rydyn ni rŵan 14 neu 15 wythnos i mewn i’r storm – storm sydd o hyd yn niweidio enw da Cyngor Sir Ddinbych.”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Irving, arweinydd y Grŵp Ceidwadol, nad ydy canfyddiad y cyhoedd ac enw da Cyngor Sir Ddinbych erioed wedi bod mor isel.

Atebodd y Cynghorydd Barry Mellor, yr aelod â chyfrifoldeb dros ailgylchu, drwy awgrymu y dylid rhannu’r bai gyda’r Cabinet blaenorol, oedd wedi cyflwyno’r cynllun ailgylchu ffaeledig mor bell yn ôl â 2018.

“Rydyn ni i gyd yn gwybod,” meddai.

“Rydyn ni wedi clywed na chafodd ei gyflwyno’n berffaith, a phan ydych chi’n edrych ar 47,000 o aelwydydd, dw i ddim yn credu y gallai erioed fod wedi bod yn berffaith wrth ei gyflwyno ar y maint yna.

“Yr hyn rydyn ni’n ei wneud amdano fo – dyna’r peth pwysig.

“Dydyn ni ddim yn rhoi’r gorau iddi.

“Rydyn ni’n parhau.

“Rydyn ni’n parhau â’r frwydr.

“Dydy’r gwasanaeth, dw i’n cyfaddef, ddim lle y bydden ni’n hoffi iddo fo fod, ond mae yna gynllun i fynd â ni yno.

“Rydyn ni’n gwybod nad ydy’r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy yn ariannol nac yn weithredol, ac rydyn ni’n gwybod fod angen i ni symud ymlaen i’r cam nesaf er mwyn cael adferiad, neu normal newydd ar gyfer y gwasanaeth.”

Llwybrau ailgylchu newydd

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor y bydd llwybrau ailgylchu newydd yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf, gan gynnwys manylion ariannol o ran y gost a gorwariant.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan ei fod wedi darparu arweinyddiaeth gref yn ystod cyfnodau digynsail, gan roi’r bai ar y Llywodraeth Geidwadol flaenorol yn San Steffan am beidio ariannu Llywodraeth Lafur Cymru a chynghorau lleol yn iawn.

“Dw i wedi dweud cyn i hyn ddigwydd o dan fy reolaeth i – fe wna i gymryd cyfrifoldeb fod hyn wedi digwydd,” meddai.

“Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n ddiwyd i newid hyn.

“Rydyn ni wedi troi cornel.

“Mae pethau’n gwella – 232 (o gasgliadau wedi’u methu) allan o 46,000 (o aelwydydd) – dydy hi ddim yn dderbyniol i’r 232 hynny; gadewch i ni fod yn glir am hynny, ond dyna i chi bersbectif, a dw i’n credu ein bod ni wedi troi cornel.

“Bydd y grŵp cadeiryddion ac is-gadeiryddion yn manylu ar natur a fformat proses graffu fanwl – proses dw i’n ei chroesawu.

“Rŵan, mae’n rhaid i’r broses honno edrych – ac mi fydd hi – ar oblygiadau’r holl benderfyniadau a wnaed yn ystod holl amserlen a bywyd y prosiect hwn.

“Wrth gwrs, bydd hynny’n cynnwys ei gyflwyno, beth aeth o’i le, beth fedrwn ni ei ddysgu, ond dylai hefyd edrych ar yr holl benderfyniadau a wnaed dros gyfnod o amser.”

‘Blacmêl’

Yn gynharach yn y cyfarfod, fe wnaeth y Cynghorydd Ceidwadol Brian Jones, y cyn-aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros ailgylchu, honni bod Llywodraeth Lafur Cymru “wedi blacmelio” Sir Ddinbych i dderbyn y cynllun ailgylchu newydd.

“Cafodd Cyngor Sir Ddinbych eu blacmeilio gan Lywodraeth Cymru i fynd i lawr y trywydd hwn oherwydd, yn 2018, fe wnaethon nhw gychwyn tynnu arian yn ôl oddi ar Gyngor Sir Ddinbych i redeg y gwasanaeth gwastraff, ac mi wnaethon nhw hynny drwy dorri’r hyn fydd llawer o bobol, yn drigolion ac yn bleidleiswyr, ddim yn ei wybod, sef y grant cymorth refeniw.

“Fe wnaethon nhw gychwyn torri’r grant cymorth refeniw gafodd ei roi i ni i redeg y gwasanaeth gwastraff.”

Fe wnaeth y Cynghorydd Jason McLellan feirniadu datganiad cynharach y Cynghorydd Brian Jones, gan feio San Steffan am y ffaith fod cynghorau’n ei chael hi’n anodd.

“Dw i’n hollol syfrdan ein bod ni wedi clywed gan y cyn-arweinydd ei fod o wedi cael ei flacmelio gan Lywodraeth Lafur,” meddai.

“Doedd o ddim ar unrhyw adeg yn y cyfarfodydd – a dw i heb wylio’r darllediadau, ond dw i wedi darllen cofnodion y cyfarfodydd – wnaeth o ddim ar unrhyw adeg fynegi unrhyw bryder nad oedd yr hyn roedd o’n ei gefnogi ac yn ei annog ac yn dweud ei fod o’n beth da i’w wneud, yn cyd-fynd â sut roedd o’n teimlo go iawn.

“Dyna union ddiffiniad arweinyddiaeth wan.”

Galw ar arweinydd Cyngor Sir a’i Gabinet i ymddiswyddo

Richard Evans, Gohebydd Democratiaeth Leol

Daw’r alwad yn dilyn lansiad “trychinebus” cynllun ailgylchu yn Sir Ddinbych