Dydy’r system ‘cyntaf i’r felin’ ar gyfer etholiadau “ddim yn addas” ar lefel Brydeinig, yn ôl cyn-Gwnsler Cyffredinol Cymru.

Wrth siarad â golwg360 yn swyddfa’r Blaid Lafur ger Maes yr Eisteddfod ym Mhontypridd, dywed Mick Antoniw fod rhaid ailfeddwl sut mae gwleidyddiaeth yn gweithio, wrth ymateb i’r helynt ar strydoedd gwledydd Prydain ac ar-lein.

Dywed fod system newydd d’Hondt, sydd ar fin cael ei chyflwyno yng Nghymru ac sy’n fwy cynrychioladol, yn bwysig er lles democratiaeth.

“Mae pobol wedi cwyno gan ddweud bod y system etholiadol rydym yn mynd i’w mabwysiadu yma yng Nghymru yn beryglus, gan ei bod yn mynd i adael Reform i mewn,” meddai.

“Ond dw i ddim yn credu mai’r ateb yw creu system etholiadol sydd yn cadw’r bobol yma rhag cael eu cynrychioli.”

Y cyntaf i’r felin

Ar lefel Brydeinig, system y cyntaf i’r felin sy’n cael ei defnyddio.

Ond mae pobol yn beirniadu’r system honno am fod yn annemocrataidd ac am beidio â bod yn gynrychioladol.

Roedd canlyniad etholiad cyffredinol 2024 yn adlewyrchu hyn, gyda’r Blaid Lafur yn ennill bron i ddwywaith yn fwy o seddi na’r gwrthbleidiau eraill efo’i gilydd, ond hynny efo 33.7% o’r bleidlais.

Dywed Mick Antoniw fod y system wedi bod yn cyfrannu at erydu democratiaeth dros y degawdau diwethaf.

“O ganlyniad i hyn, mae pobol yn teimlo nad ydyn nhw’n cael eu cynrychioli,” meddai.

“A hefyd, mae’n wir i nifer nad yw eu pleidlais yn cyfri.

“O’m safbwynt i, mae’n wych ein bod ni wedi cael Llywodraeth Lafur mor fawr yn ennill dwy ran o dair o’r seddi, ond yn y tymor hir dydy’r system etholiadol ddim yn gallu cynnal diwydiant sy’n ddemocrataidd.

“Yn anffodus, mae pobol sydd ar chwith a’r dde wedyn yn teimlo’n amherthnasol yn wleidyddol.”

Cyfryngau cymdeithasol yn “arf gwleidyddol”

Mae Mick Antoniw yn bryderus am y dyfodol o ran y cyfryngau cymdeithasol, yn dilyn twf yr asgell dde eithafol, yn enwedig ar X (Twitter gynt), a’u troseddu torfol yr wythnos ddiwethaf.

Dywed fod y cyfryngau cymdeithasol, megis ‘X’ – sydd yn eiddo’r biliwnydd Elon Musk – yn cael eu defnyddio fel “arf gwleidyddol” ar lefel ryngwladol gan bobol fel Musk, a gwledydd fel Rwsia.

“Mae’n fy siomi faint o’r cynnwys sydd yn cael ei roi drwy’r algorithm sydd yn dde eithafol ei natur,” meddai.

“Mae yna symudiad cydgysylltiedig ar yr asgell dde sydd yn cael ei alluogi gan y cyfryngau cymdeithasol.

“Mae e’n beryglus iawn i ddyfodol democratiaeth.

“Mae rhaid cael fframwaith rheoleiddiol i wneud yn siŵr bod yna barch ar-lein.”

Mae Elon Musk wedi bod yn ymateb i Syr Keir Starmer, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, ar ‘X’ yn ei gyhuddo o anwybyddu mewnfudo.

Oni bai ei fod yn awyddus i wybod beth sy’n digwydd yn Wcráin, dywed Mick Antoniw ei bod hi’n debygol y byddai wedi dileu ei gyfrif X erbyn hyn.