Mae Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, wedi cyhoeddi ei Chabinet newydd.

Mae hi wedi cadarnhau mai Huw Irranca-Davies yw ei Dirprwy, ar ôl iddyn nhw gyd-sefyll ar docyn undod, ac ef hefyd fydd yr Ysgrifennydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

Bydd Mark Drakeford, y cyn-Brif Weinidog, yn camu i’w rôl flaenorol hi yn Ysgrifennydd Iechyd, a hynny dros dro, gan gamu i’r swydd roedd yntau ynddi hefyd rhwng 2013 a 2016.

Mae hi wedi cyfiawnhau’r penodiad hwnnw gan ddweud y bydd Mark Drakeford “yn dod â’i wybodaeth a’i brofiad helaeth er mwyn parhau i weithio tuag at wella tryloywder a gweithredu”.

Bydd Eluned Morgan hithau’n parhau i fod â chyfrifoldeb dros y Gymraeg.

Elisabeth Jones yw’r Darpar Gwnsler Cyffredinol, a hithau wedi bod yn Brif Ymgynghorydd Cyfreithiol y Cynulliad ac wedyn y Senedd rhwng 2012 a 2019, ond dydy hi ddim yn Aelod o’r Senedd.

Hi yw’r ail berson nad yw’n Aelod o’r Senedd i fod yn y swydd, ar ôl y bargyfreithiwr Theodore Huckle (2011-16).

Bydd yn rhaid i’r Senedd ystyried cynnig ar gyfer Cwnsler Cyffredinol parhaol ar ôl egwyl yr haf.

Does dim lle yn y Cabinet, serch hynny, i Jeremy Miles, Lesley Griffiths, Mark Antoniw na Julie James – y pedwar oedd wedi ymddiswyddo yn nyddiau olaf Vaughan Gething wrth y llyw.

Arweiniodd ymddiswyddiadau’r pedwar at ymddiswyddiad Vaughan Gething.

Penodiadau eraill

Mae Eluned Morgan wedi llenwi’r swyddi eraill yn ei Chabinet fel a ganlyn:

Ysgrifennydd Cyllid, y Cyfansoddiad a’r Swyddfa Gabinet: Rebecca Evans

Ysgrifennydd Addysg: Lynne Neagle

Ysgrifennydd Tai, Llywodraeth Leol a Chynllunio: Jayne Bryant

Ysgrifennydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Mark Drakeford

Ysgrifennydd yr Economi, Trafnidiaeth a gogledd Cymru: Ken Skates

Ysgrifennydd Diwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, Trefnydd a Phrif Chwip: Jane Hutt

Gweinidog Gofal Cymdeithasol: Dawn Bowden

Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Jack Sargeant

Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar: Sarah Murphy

Bydd rhagor o gyhoeddiadau fis nesaf, a hynny ar ôl i Lywodraeth Cymru “wrando ar y cyhoedd”, medd Eluned Morgan.

Diben yr ymarfer, meddai, yw “penderfynu ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru a strwythur y llywodraeth am y deunaw mis nesaf”.

“Bydd y penodiadau dw i’n eu cyhoeddi heddiw yn darparu sefydlogrwydd a pharhad dros yr haf o ran y tîm gweinidogol,” meddai.

“Bydd rhagor o gyhoeddiadau ynghylch dyrannu portffolios ym mis Medi, yn dilyn ymarfer gwrando dros yr haf â’r cyhoedd yng Nghymru.”

‘Barnu ar sail canlyniadau’

“Mae’r sioe o ad-drefnu’n para diwrnod, a bydd y llywodraeth newydd hon yn cael ei barnu ar sail eu canlyniadau,” meddai Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd.

“Yr hyn sydd ei angen ar Gymru yw llywodraeth all fod yn llais i Gymru gyfan, ac a all gyflwyno’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r gwasanaethau cyhoeddus mae Cymru’n eu haeddu.

“Ar ôl misoedd o anhrefn yn Llywodraeth Cymru, bydd Cymru’n gwylio.

“Yr hyn y gallwn ni fod yn sicr ohono fe yw fod Mark Drakeford yn dychwelyd i’r Cabinet, ac yntau’n bensaer 20m.y.a., yn golygu bod 20m.y.a. yma i aros yng Nghymru, fydd yn siomi modurwyr a busnesau ledled Cymru.

“Yr unig ffordd o ddileu terfyn cyflymder ffôl Llafur o 20m.y.a. yw pleidleisio dros y Ceidwadwyr Cymreig.”

‘Mwy o ansicrwydd a dim syniadau newydd’

Mae Plaid Cymru wedi ymateb yn chwyrn i’r penodiadau.

“Tra nad oedd Aelodau Plaid Cymru o’r Senedd wedi pleidleisio drosti, ddoe mi wnes i ddymuno’n dda i’r Prif Weinidog newydd wrth geisio mynd i’r afael â materion mae Llafur wedi methu mynd i’r afael â nhw hyd yma,” meddai’r arweinydd Rhun ap Iorwerth.

“Ond mae’n destun pryder mai’r hyn welwn ni eto heddiw ydi tystiolaeth mai’r hyn mae Eluned Morgan yn ei olygu ydi ’dim newid’.

“Dydi hi ddim wedi disgrifio’i gweledigaeth ei hun, mae hi wedi cadw’r Cabinet fel ag yr oedd o, fwy neu lai, a hyd yn oed lle cafodd ei gorfodi i wneud newid, wrth iddi adael Iechyd i dderbyn y brif swydd, penodiad dros dro yn unig rydyn ni’n ei gael.

“Ar adeg o argyfwng i Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, y peth diwethaf sydd ei angen arnom ydi Gweinidog Iechyd dros dro, fydd ond yn ychwanegu at yr ansicrwydd sy’n wynebu ein gwasanaeth iechyd.

“Pan oedd o yn y swydd yn flaenorol, ddaru Mark Drakeford lywyddu dros gynnydd o 11% yn rhai oedd yn aros am driniaeth, a chafodd Bwrdd Iechyd mwyaf Cymru ei roi o dan fesurau arbennig.

“Mae Cymru’n haeddu gwell na Llywodraeth sy’n aros yn yr unfan ac sy’n betrus.

“Ymhen llai na dwy flynedd, bydd gan bobol Cymru y cyfle i ethol llywodraeth newydd fydd yn sefyll i fyny i Keir Starmer ac yn rhoi tegwch ac uchelgais yn ôl ar agenda Cymru.”

‘Siomedig’

Dywed Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, fod y penodiadau’n “siomedig”.

“Dyma set siomedig iawn o benodiadau i’r Cabinet gan y Prif Weinidog newydd, sy’n tynnu sylw at ddiffyg uchelgais Llafur Cymru,” meddai.

“Yn bersonol, dw i wedi fy siomi na welaf Weinidog Babanod, Plant a Phobol Ifanc y mae mawr ei angen er mwyn ein helpu ni i fynd i’r afael â thlodi plant.

“Ers dros ugain mlynedd rŵan, rydyn ni yma yng Nghymru wedi ein gorfodi i odde’r un hen ddull pwyllog gan gyfres o lywodraethau Llafur Cymru sydd wedi methu’n barhaus â chyrraedd y nod.

“Mae pobol Cymru’n haeddu mwy na’r hyn mae Llywodraeth Cymru wedi ei gynnig iddyn nhw sef, yn drist iawn, set o wleidyddion wedi’u hailgylchu sy’n rhoi cynnig ar yr un hen syniadau nad oedden nhw wedi gweithio bryd hynny ac na fyddan nhw’n gweithio rŵan.”