Mae disgwyl i Eluned Morgan gael ei chadarnhau’n Brif Weinidog Cymru heddiw (dydd Mawrth, Awst 6).

Mae’r Senedd wedi cael ei had-alw er mwyn cadarnhau’r penodiad, yn dilyn ymddiswyddiad ffurfiol Vaughan Gething ar ôl pedwar mis yn unig yn y swydd.

Gall Aelodau’r Senedd fwrw eu pleidlais o bell, gyda rhai ohonyn nhw dramor ar hyn o bryd.

Pe bai’n cael ei hethol yn ffurfiol, Eluned Morgan fydd Prif Weinidog benywaidd cyntaf Cymru.

Cyfnod dadleuol wrth y llyw

Yn dilyn sawl helynt yn ystod ei gyfnod wrth y llyw – gan gynnwys diswyddo’r gweinidog Hannah Blythyn a derbyn rhodd o £200,000 i’w ymgyrch arweinyddol gan gwmni dyn gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol – roedd yr ysgrifen ar y mur i Vaughan Gething.

Fe ddaeth dan gryn bwysau ar ôl i bedwar o’i weinidogion ymddiswyddo o’r Cabinet, gan ddweud eu bod nhw wedi colli ffydd ynddo fel arweinydd.

Cyn hynny, roedd disgwyl iddo fe aros yn ei swydd tan fis Medi.

Eluned Morgan oedd yr unig ymgeisydd i’w olynu, a chyflwynodd hi ei hymgyrch i redeg ochr yn ochr â Huw Irranca-Davies, fydd yn dod yn Ddirprwy Brif Weinidog.

Y drefn bleidleisio

Yn ystod y bleidlais, bydd pob Aelod o’r Senedd yn datgan enw yn eu tro.

Mae disgwyl i enw Rhun ap Iorwerth gael ei gyflwyno gan Blaid Cymru i herio Eluned Morgan, a gallai’r Ceidwadwyr hefyd gyflwyno enw Andrew RT Davies.

A hithau’n unig Aelod ei phlaid yn y Senedd, mae disgwyl i Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, atal ei phleidlais.

Ond mae gan Lafur fwy o aelodau na’r un blaid arall yn y Senedd, felly oni bai bod aelodau’r blaid honno’n gwrthwynebu Eluned Morgan, y disgwyl yw mai hi fydd Prif Weinidog nesaf Cymru.