Mae arweinydd Cyngor Sir y Fflint wedi ymddiswyddo ar unwaith, yn dilyn adlach tros newidiadau i ba mor aml fydd biniau’n cael eu casglu.

Cafodd penderfyniad Ian Roberts o’r Blaid Lafur ei gyhoeddi gan yr awdurdod lleol, ac yntau wedi bod yn y swydd ychydig dros bum mlynedd.

Roedd sïon ar led am y drefn newydd yn ystod cyfarfod llawn tensiwn yr wythnos hon, pan gafodd cais i atal cynlluniau dadleuol gan y weinyddiaeth Lafur i gasglu sbwriel biniau du bob tair wythnos eu gwrthod.

Daeth hynny wrth i wrthwynebwyr feirniadu’r newid o gasgliadau bob pythefnos yn hallt, ar ôl galw’r cynlluniau hynny i mewn i graffu arnyn nhw ymhellach.

Bygythiadau

Yn ystod y ddadl, fe wnaeth y Cynghorydd Ian Roberts feirniadu adlach y cyhoedd yn erbyn y penderfyniad, gydag uwch swyddog yn derbyn bygythiadau i’w fywyd a chynghorwyr yn cael eu sarhau’n eiriol ar y stryd.

Mae lle i gredu bod neges dorfol ar WhatsApp wedi cael ei hanfon at aelodau Llafur yn ddiweddarach yn y cyfarfod, yn rhoi gwybod iddyn nhw am ei fwriad i ymddiswyddo.

Cafodd cynrychiolydd ward Castell y Fflint ei weld wedyn yn rhoi nodyn i Neal Cockerton, Prif Weithredwr y Cyngor, cyn gadael yr ystafell.

Dywed yr awdurdod y bydd y dirprwyon Dave Hughes a Christine Jones yn ymgymryd â’i rôl am y tro, yn dilyn dechrau gwyliau’r haf.

Bwlch ariannol

Daw hyn oll ar adeg pan fo’r sefydliad yn wynebu bwlch cyllidebol disgwyliedig o £37.7m yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Mewn datganiad yn cadarnhau ymddiswyddiad y Cynghorydd Ian Roberts, dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor y “daeth cadarnhad fod arweinydd Cyngor Sir y Fflint wedi camu o’r neilltu ar unwaith”.

“Mewn llythyr ymddiswyddo at Neal Cockerton, y Prif Weithredwr, dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts y bu’n anrhydedd cael gwasanaethu fel arweinydd Cyngor Sir y Fflint.

“Bydd yn parhau i wasanaethu fel cynghorydd dros ward Castell y Fflint.

“Mae disgwyl i drefniadau dros dro olygu bod dirprwy arweinyddion yn cydweithio’n agos wrth rannu swydd.”

Deiseb

Fe wnaeth dros 3,300 o bobol lofnodi deiseb yn erbyn newidiadau i gasgliadau sbwriel ar drothwy cyfarfod Pwyllgor Craffu ar yr Amgylchedd a’r Economi yr wythnos hon.

Daeth hynny yn dilyn pryderon gafodd eu codi y byddai’r sefyllfa’n gweld tomenni sbwriel yn cael eu gadael yn y stryd ac yn achosi ogleuon ac yn denu llygod mawr.

Cyn hyn, fe wnaeth swyddogion argymell symud i gasgliadau misol, mewn ymgais i wella cyfraddau ailgylchu yn y sir, ar ôl cael eu bygwth â dirwy o £1.2m gan Lywodraeth Cymru am fethu targedau dro ar ôl tro.

Cyflwynodd y Cynghorydd Ian Roberts welliant hwyr mewn cyfarfod o’r Cabinet yn gynharach yn y mis i newid amlder y casgliadau i bob tair wythnos er mwyn ceisio cyfaddawdu.

Wrth ymdrin yn ystod y cyfarfod craffu ag ymateb y cyhoedd, dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts fod “peth o’r iaith sydd wedi cael ei defnyddio yn y ddadl hon yn destun pryder mawr iawn i mi, ac mae’r storom ar y cyfryngau cymdeithasol o ganlyniad i hyn yn fy mhoeni hefyd”.

“Mae rhai cynghorwyr wedi cael eu sarhau’n eiriol yn y stryd ac ar y cyfryngau cymdeithasol, a dydyn nhw ddim bellach yn teimlo’n gyfforddus wrth fynd allan yn eu cymunedau eu hunain,” meddai.

“Mae hyn yn gwbl annerbyniol.”

Dywed fod swyddog wedi derbyn bygythiad i’w fywyd yn rhan o’r ddadl ddigwyddodd.

“Fel aelodau ledled y siambr hon, ddylen ni ddim bod yn procio’r tân yma,” meddai.

“Dydy’r cynnig hwn ddim yn newid byd.”

Ymddiswyddiad

Cafodd y Cynghorydd Ian Roberts ei benodi’n arweinydd y Cyngor fis Ebrill 2019 yn wreiddiol, gan olynu Aaron Shotton.

Wrth siarad ar ôl ei ethol yn arweinydd, siaradodd y Cynghorydd Ian Roberts am yr angen am undod.

Ond daw ei benderfyniad i ymddiswyddo ddeufis yn unig ar ôl i bum aelod Llafur adael i ffurfio’u grŵp eu hunain, yn dilyn honiadau bod eu safbwyntiau’n cael eu hanwybyddu.

Wrth ymateb i’w ymadawiad, galwodd aelodau o grŵp Llais y Bobol Sir y Fflint am “newid y drefn yn sylweddol” ar ôl codi amheuon am allu’r weinyddiaeth bresennol.

“Mae gennym ni bryderon difrifol am lefel gallu’r Cabinet Llafur, ac yn credu bod yn rhaid mai newid llwyr ddylai fod yn eitem busnes cynta’r arweinydd newydd.

“Yn yr un modd, all yr arweinydd newydd ddim bod yn rhywun y mae eu holion bysedd ar drychinebau’r misoedd diwethaf – o gytundeb Aura i gasgliadau sbwriel, i wrthod dechrau’r gwaith ar Gynllun Datblygu Lleol ar unwaith.

“Heb newidiadau mawr, all arweinydd nesaf Llafur yn Sir y Fflint ddim disgwyl ei chael hi’n hawdd.

“Tra ein bod ni wedi anghydweld ag arweinyddiaeth Ian Roberts o’r Cyngor, rydym yn cydnabod ei wasanaeth ac yn dymuno’n dda iddo wrth iddo symud yn ei flaen.”

Llafur

Roedd penderfyniad y grŵp i adael Llafur wedi eu gadael nhw’n brin o fwyafrif, gyda 27 cynghorydd ar yr awdurdod o 67 aelod.

Mae’n golygu bod y blaid yn ddibynnol ar gefnogaeth aelodau o’r grŵp annibynnol Eryr i wneud penderfyniadau ar hyn o bryd.

Yn y cyfamser, mae cynghorwyr y Democratiaid Rhyddfrydol wedi croesawu ymddiswyddiad y Cynghorydd Ian Roberts, ar ôl disgrifio’r penderfyniad ynghylch sbwriel yn “siambls”.

“Roedd cynllun gweithredu Sir y Fflint ei hun i gynyddu ailgylchu yn seiliedig ar addysg a gorfodaeth,” meddai’r Cynghorydd David Coggins Cogan.

“Yn hytrach, fe wnaeth Llafur yn Sir y Fflint chwalu’n llwyr yn sgil ymyrraeth Llywodraeth Cymru, ac mae trigolion Sir y Fflint bellach yn talu’r pris gyda chasgliadau bob tair wythnos.

“Mae’r arweinydd yn iawn i ymddiswyddo ar ôl y fath broses benderfyniadau oedd yn siambls ac wedi’i gwneud yn anghywir.”

Roedd yr ymgais gan gynghorwyr yr wrthblaid i anfon y penderfyniad dros sbwriel i gyfarfod llawn y Cyngor yn bleidlais gyfartal, chwech yr un.

Fe wnaeth David Evans, cadeirydd Llafur y pwyllgor, ddefnyddio’i bleidlais dyngedfennol er mwyn sicrhau na fyddai’n cael ei gyfeirio’n ôl.

Bydd y symudiad tuag at gasgliadau bob tair wythnos bellach yn mynd yn ei flaen, gydag amserlenni i’w cyhoeddi maes o law.

Mae’r Cynghorydd Ian Roberts a’r grŵp Llafur wedi derbyn cais am sylw am ei ymddiswyddiad.