Mae 68 yn fwy o staff â sgiliau siarad Cymraeg ar Gyngor Blaenau Gwent na’r un adeg y llynedd, yn ôl adroddiad.

Ac mae unarddeg yn fwy o staff yn siaradwyr rhugl nag yn 2022-23.

Ddydd Iau (Mehefin 27), bydd cynghorwyr ar Bwyllgor Craffu Perfformiad Corfforaethol y Cyngor Bwrdeistref Sirol yn derbyn adroddiad blynyddol drafft ar y Gymraeg ar gyfer 2023-24.

Fel holl gyrff llywodraeth a chyhoeddus yng Nghymru, mae gofyn bod Cyngor Blaenau Gwent yn cydymffurfio â’r Safonau Iaith Gymraeg, gafodd eu cyflwyno dan Mesur y Gymraeg 2011.

Rhoddodd hyn statws cyfreithiol cyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg, a’i fwriad yw ei gwneud hi’n haws i bobol ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.

Adroddiad

“Mae’r data’n dangos bod y Cyngor wedi adnabod 45 aelod o staff o blith 2,971 sy’n siaradwyr Cymraeg rhugl; mae hyn yn gynnydd o unarddeg aelod o staff o gymharu â ffigurau 2022-23,” medd yr adroddiad.

“605 yw nifer y staff sydd â sgiliau siarad Cymraeg yn amrywio o ‘rugl’, ‘eithaf da’, ‘cymedrol’, ‘sylfaenol’ i gwrteisi / lefel mynediad.

“Mae hyn yn gynnydd o 68 aelod o staff o gymharu ag adroddiad 2022-23.

“Fel gafodd ei adrodd y llynedd, y Gyfarwyddiaeth Addysg sydd â’r nifer fwyaf o siaradwyr rhugl, gyda 29 aelod o staff.”

Mae’r adroddiad hefyd yn egluro bod gan swyddfa Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, un ymchwiliad ar agor ym Mlaenau Gwent, tra nad oedd y Cyngor ei hun wedi derbyn unrhyw gwynion y llynedd.

“Tra nad yw’r Cyngor wedi derbyn unrhyw gwynion yn uniongyrchol, rydyn ni’n cynorthwyo’n partneriaid yn Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin â chwyn yn ymwneud â diffyg arwyddion Cymraeg yn un o’u parciau.

“Cafodd y gwyn ei hanfon gan aelod o’r cyhoedd yn uniongyrchol at Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.

“Tra bod yr ymddiriedolaeth eisoes wedi cymryd camau i ddatrys y mater, mae’r mater yn dal ar agor gyda Swyddfa’r Comisiynydd, ac rydym yn aros am benderfyniad ynghylch y camau i’w cymryd.”

Camau i’w cymryd

Mae’r adroddiad hefyd yn egluro’r camau nesaf mae’r Cyngor yn gobeithio’u cymryd eleni.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Defnyddio arian o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin i gynyddu gweladwyedd y Gymraeg a Chymreictod ym Mlaenau Gwent
  • Cydweithio’n agos â busnesau lleol a’r tîm adfywio i ddathlu Diwrnod Shwmae/Sumae ar Hydref 15
  • Annog mwy o staff i gwblhau hyfforddiant iaith Gymraeg
  • Creu mwy o gyfleoedd anffurfiol i staff ddysgu a chryfhau eu sgiliau Cymraeg
  • Parhau i adolygu a gwella gweithrediadau mewnol mewn perthynas â’r Gymraeg
  • Cefnogi datblygiad yr Adran Addysg o Ysgol Gymraeg Tredegar

“Rydym yn anelu i barhau i wneud cynnydd mewn perthynas â bodloni ein dyletswyddau Cymraeg, a gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i sicrhau ein bod ni’n cyflwyno’r gwasanaethau gorau posib i’n staff, trigolion, partneriaid a rhanddeiliaid,” medd yr adroddiad.

Gellid ychwanegu sylwadau’r pwyllgor at yr adroddiad, fydd yn mynd gerbron y Cabinet ym mis Medi, ar ôl gwyliau’r haf.