Mae athrawon yn Sir y Fflint, ac mewn rhannau eraill o Gymru, yn parhau i gael eu hannog i gynnwys yr awyr agored yn y ffordd maen nhw’n dysgu.

Mae Llywodraeth Cymru’n argymell dysgu yn yr amgylchedd naturiol fel dull allweddol o gyflwyno’r Cwricwlwm, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae Tîm Ymgynghorol y Gymraeg Cyngor Sir y Fflint a Chyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gydweithio er mwyn annog athrawon i gynnwys awyr agored Cymru yn y dulliau o addysgu.

Bu athrawon o ugain ysgol gynradd cyfrwng Saesneg yn cymryd rhan mewn gweithgareddau syml a hwyliog oedd yn annog gwaith tîm a chyfathrebu yn y Gymraeg

Cafodd y cwrs ei drefnu law yn llaw gan Dîm Iechyd, Addysg ac Adnoddau Naturiol Cyfoeth Naturiol Cymru a Thîm Ymgynghorol y Gymraeg Sir y Fflint yn Nhalacre.

Mae’r digwyddiad yn adeiladu ar ddwy flynedd o hyfforddiant llwyddiannus, lle ategodd yr athrawon fod defnyddio’r Gymraeg yn yr awyr agored yn ffordd hynod effeithiol a difyr o gynyddu gallu dysgwyr yn y Gymraeg.

Eleni, cafodd elfen newydd ei hychwanegu at y cwrs, a chafodd mynychwyr blaenorol eu gwahodd ar y cwrs er mwyn ymestyn eu geirfa Gymraeg.

Yn ogystal, roedd cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau newydd sy’n annog dysgwyr, nid yn unig i siarad am yr amgylchedd naturiol yn Gymraeg ond hefyd i ddarllen ac ysgrifennu amdano.

‘Ymrwymiad cryf i’r Gymraeg’

Yn ôl Laura Randall, ar ran Tîm Gwelliant Ysgolion Sir Fflint, mae’r “awyr agored yn cynnig digonedd o gyfleodd dysgu i’n plant ddefnyddio eu sgiliau iaith wrth gael hwyl yn yr awyr iach”.

“Mae gan Sir y Fflint ymrwymiad cryf i’r Gymraeg,” meddai.

“Rydym yn cefnogi dysgwyr i wella eu sgiliau Cymraeg a rhoi’r hyder iddyn nhw ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.”

Dywed Ffion Hughes, Cynghorydd Arbenigol Cyfoeth Naturiol Cymru: Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, mai’r “amgylchedd naturiol yw’r lleoliad perffaith i hyrwyddo dysgu, dealltwriaeth a chyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg”.

“Mae’n darparu amgylchedd hamddenol, hwyliog a chyffrous i’w archwilio, ac yn cynnig amgylchedd dysgu gwahanol i’r ystafell ddosbarth sy’n rhoi profiadau newydd i blant i gefnogi eu cyrhaeddiad mewn iaith a llythrennedd,” meddai.

“Mae cyfle gwirioneddol i ymgorffori dysgu iaith o fewn amgylchedd awyr agored wrth i ysgolion weithredu’r Cwricwlwm i Gymru.

“Mae’n hanfodol bod gan ein pobol ifanc Cymraeg eu hiaith yr iaith i allu trafod ein hamgylchedd naturiol, ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr ennill y sgiliau amgylcheddol hynny yn y Gymraeg.

“Mae dysgu yn yr amgylchedd naturiol yn cael ei argymell gan Lywodraeth Cymru fel dull allweddol o gyflwyno’r cwricwlwm.

“Mae hefyd yn rhoi’r cyfle i blant gysylltu â byd natur, cael buddion iechyd a lles sylweddol a sefydlu ymddygiadau sy’n ffafrio’r amgylchedd sy’n helpu i liniaru’r argyfyngau hinsawdd a natur.”

Yr ysgolion oedd wedi cymryd rhan ar y cwrs yw:

  • Ysgol Bryn Pennant
  • Ysgol Gwynedd
  • Ysgol Ven. Edward Morgan
  • Ysgol Penarlag
  • Ysgol Southdown
  • Ysgol Merllyn
  • Ysgol Abermorddu
  • Ysgol Westwood
  • Ysgol Santes Fair, Y Fflint
  • Ffedarasiwn yr Hafod – Safle Y Waun
  • Ysgol Gwynedd
  • Y Llan
  • Ysgol Brychdyn
  • Ysgol Ewloe Green
  • Ffedarasiwn y Bryniau – Safle Yr Esgob
  • Ysgol Y Foel, Cilcain
  • Ysgol Wood Memorial
  • Ysgol Ty Ffynnon, Shotton
  • Ffedarasiwn Nantlwys – Safle Nercwys
  • Ffedarasiwn POA – Ysgol Trelogan