Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru’n addo neilltuo £10m i recriwtio arolygwyr carthion newydd i gynnal arolygiadau di-rybudd, pe baen nhw’n ennill yr etholiad cyffredinol.

Daw’r cyhoeddiad fel rhan o addewid i dorri i lawr ar yr achosion o ollwng carthion gan gwmnïau dŵr.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n awyddus i gyflogi o leiaf 100 o arolygwyr i gyd, ac y bydden nhw’n gweithio i reoleiddiwr dŵr newydd, sef yr Awdurdod Dŵr Glân, gan sicrhau nad oes modd celu achosion o lygredd.

Byddai’r Awdurdod yn disodli’r rheoleiddiwr Ofwat.

Yn ôl y cynlluniau, byddai gan yr arolygwyr yr hawl i gael mynediad i’r safle drwy orfodaeth pe bai’r cwmnïau’n gwrthod rhoi mynediad iddyn nhw.

Tangyllido

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn feirniadol o Lywodraeth Lafur Cymru am dangyllido a pheidio â rhoi digon o adnoddau i Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n wynebu rhagor o doriadau i swyddi o ganlyniad i doriadau i’r adrannau materion gwledig a newid hinsawdd.

Bu’n rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru dorri 500 o swyddi yn 2017, yn sgil toriadau gan Lywodraeth Cymru.

‘Sgandal genedlaethol’

“Mae cyflwr ein hafonydd yng Nghymru’n sgandal genedlaethol, ac mae pobol wedi’u ffieiddio fod y Ceidwadwyr wedi gadael i gwmnïau dŵr farcio’u gwaith cartref eu hunain a chael gollwng carthion yn ein hafonydd, traethau a llynnoedd ers cyhyd,” meddai Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

“Yn y cyfamser, mae gweinidogion Llafur Cymru wedi diberfeddu Cyfoeth Naturiol Cymru i’r pwynt lle nad yw bellach yn medru gwneud y gwaith sy’n ddisgwyliedig.

“Bydd ton newydd o swyddogion atal carthion yn sicrhau na all yr un cwmni dŵr lygru ein hafonydd, llynnoedd ac arfordiroedd gwerthfawr.

“Drwy gynyddu profion, gallwn ni fynd i’r afael, o’r diwedd, â’r cwmnïau hyn sy’n llygru ac yn gwneud elw ac sy’n llwyr ddiystyru ein hamgylchedd.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn bwriadu diddymu Ofwat a’i ddisodli gan reoleiddiwr â dannedd go iawn, a bydd neilltuo rhagor o arian ar gyfer gorfodi’n helpu i roi’r bywyd sydd ei angen ar ein dyfroedd er mwyn cael eu gwarchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a rhoi terfyn ar y sgandal warthus hon.”