Fe fu “cam mawr yn ôl” o ran y cynlluniau i gyflwyno cwotâu rhywedd yn etholiadau’r Senedd yn y dyfodol o ganlyniad i oedi “diangen”.

Fe wnaeth Jane Hutt gadarnhau y gall fod oedi o hyd at bedair blynedd cyn cyflwyno diwygiadau i’r bil rhestrau ymgeiswyr etholiadol, fyddai’n gofyn bod hanner ymgeiswyr y Senedd yn fenywod.

Mewn llythyr at Aelodau’r Senedd, dywedodd Jane Hutt y gallai etholiad 2030 fod yn amser “mwy call” i’w gyflwyno, yn hytrach na’r cynllun gwreiddiol, sef 2026.

Mae Jane Hutt, Prif Chwip a Threfnydd y Senedd, sef rheolwr busnes Llywodraeth Cymru, wedi pwysleisio ei bod hi wedi ymrwymo o hyd i sicrhau bod y Senedd yn fwy cynrychioladol.

Ond mae pryderon wedi’u codi nad oes gan Gymru’r pwerau i basio’r bil, allai wynebu her gyfreithiol, gyda phwerau dros ddeddfwriaeth ynghylch cyfle cyfartal wedi’u cadw gan San Steffan.

‘Annerbyniol’

Roedd Siân Gwenllian o Blaid Cymru wedi’i siomi’n fawr gan yr amserlen newydd ar gyfer y bil, gyda cham cynta’r broses ddeddfwriaethol wedi’i wthio’n ôl o Fehefin 18 i Orffennaf 16.

Roedd hi wedi cwestiynu rhesymau Llywodraeth Cymru am yr oedi cyn cynnal y bleidlais hollbwysig gyntaf, gan ddweud nad yw’r rhesymeg yn “dal dŵr” a rhybuddio bod yr oedi diweddara’n gam enfawr yn ôl.

“Mae holl amserlen y bil yn cael ei wthio’n ôl,” meddai Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon, sy’n cadeirio’r grŵp trawsbleidiol ar fenywod.

“Beth fydd rhedeg y cloc i lawr yn ei olygu?

“Wel, mae yna risg y bydd yn golygu bod gennym ni Senedd fwy, wedi’i hethol mewn ffordd decach, ond bydd perygl gwirioneddol y bydd diffyg cydraddoldeb a diffyg amrywiaeth yn parhau’n nodwedd annerbyniol o Senedd Cymru.

“Bydd gennym ni ddiwygiad anghyflawn pe na bai’r bil ymgeiswyr, sy’n rhan hanfodol o’r jig-so, yn cael ei gyflwyno.”

‘Gwan’

Dywedodd Siân Gwenllian y gallai Llywodraeth Lafur yn y Deyrnas Unedig gyflwyno gorchymyn mewn cyngor, gan roi pwerau i’r Senedd basio’r bil a rhoi’r cynigion y tu hwnt i unrhyw amheuaeth.

Yn ystod y datganiad busnes ddoe (dydd Mawrth, Mehefin 18), roedd hi wedi cyhuddo gweinidogion Cymru o rwyfo’n ôl ar raglen ar gyfer ymrwymiad y Llywodraeth i gyflwyno cwotâu rhywedd.

“Nid dwy Lywodraeth Lafur yn cydweithio law yn llaw dros Gymru ydy hi, ond yn hytrach Lywodraeth Lafur wan Cymru yng Nghymru jest yn derbyn eu cyfarwyddiadau’n ostyngedig gan Lundain,” meddai.

Dywedodd Jane Hutt fod y bil wedi cael dechreuad siomedig, wrth i’r Llywydd Elin Jones farnu na fyddai’r ddeddfwriaeth arfaethedig yn rhan o bwerau cyfreithiol y Senedd.

“Dyma un o’r pethau hanfodol ynghylch sut rydyn ni’n symud bil yn ei flaen lle mae yna broblemau ynghylch ardal niwlog,” meddai.

‘Peryglu’

Dywedodd Jane Hutt, sydd wedi bod yn weinidog ers 25 mlynedd, y gellid cyflwyno cynllun gwirfoddol pe na bai modd cyflwyno cwotâu rhywedd gorfodol mewn da bryd ar gyfer yr etholiad nesaf.

Cyfeiriodd hi at rybudd y Pwyllgor Biliau Diwygio y gallai cwotâu rhywedd arwain at her gyfreithiol, gan arwain o bosib at beryglu canlyniad yr etholiad ym mis Mai 2026.

Fe wnaeth y Ceidwadwr Gareth Davies annog y gweinidog i “ddychwelyd i’r byd real”, gan adleisio galwadau ei blaid ar i’r bil ymgeiswyr gael ei ollwng yn llwyr.

“Dw i wedi ffieiddio’n llwyr gan yr hyn ddywedodd Gareth Davies, wrth ddweud y dylid ’dychwelyd i’r byd real’,” meddai Jane Hutt wrth daro’n ôl yn dilyn sylwadau’r Aelod dros Ddyffryn Clwyd.

“Pam fod angen bil cwotâu rhywedd arnom?

“Oherwydd mae angen gwell cynrychiolaeth i fenywod, ac mae’n rhaid i fi ddweud, gadewch i ni edrych draw fynna, lle mae angen y bil cwotâu rhywedd arnom yn sicr.”

‘Despret’

Cododd Darren Millar, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar y Cyfansoddiad, bryderon ynghylch amseru’r oedi tan ar ôl etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig ar Orffennaf 4.

“Ddylai’r bil yma ddim gael ei ohirio’n unig; dylai gael ei ddileu’n llwyr,” meddai.

“Dylid dewis ymgeiswyr ar sail haeddiant, nid oherwydd eu rhywedd nag unrhyw nodweddion gwarchodedig eraill.

“Mae dileu’r bil yn ystod ymgyrch etholiadol yn awgrymu fod yma ymgais ddespret i osgoi siarad yn ystod yr ymgyrchu am y ffaith na all y Blaid Lafur ddiffinio dynes.”

Mewn llythyr at Aelodau’r Senedd pan gafodd y bil ei gyflwyno ym mis Mawrth, eglurodd Elin Jones ei safbwynt, sef bod y bil yn ymwneud â mater sydd wedi’i gadw ac nad yw o fewn pwerau’r Senedd.

Dywedodd fod ei safbwynt yn seiliedig ar brofion a chyngor cyfreithiol yn hytrach na rhinweddau’r polisi, gan bwysleisio na all y cwestiwn ddim ond cael ei ateb gan y Goruchaf Lys.