Bydd y Blaid Werdd yn gwahodd pleidleiswyr yng Nghymru i “droi’n wyrdd” heddiw (dydd Mercher, Mehefin 19), wrth lansio maniffesto sy’n cynnig “gweledigaeth ysbrydoledig a blaengar ar gyfer Cymru sy’n ysu am newid”.

O dan gynlluniau gafodd eu cyhoeddi’r wythnos ddiwethaf i drethu pobol gyfoethog yn fwy llym, byddai’r maniffesto yn sicrhau bod o leiaf £3bn ychwanegol ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yn ôl y blaid.

Byddai’r arian sy’n cael ei godi a’r benthyca i fuddsoddi yn “trawsnewid” iechyd, tai a thrafnidiaeth yng Nghymru, tra’n creu swyddi diogel sy’n talu’n dda, medden nhw.

Beth mae Plaid Werdd Cymru yn ei addo?

Mae’r maniffesto yn ymrwymo i:

  • flaenoriaethu gweithredu ar gyfer adferiad hinsawdd a bioamrywiaeth, creu swyddi gwyrdd newydd, a chefnogi pobol yn economaidd drwy’r newidiadau sydd eu hangen
  • trawsnewidiad Economaidd Gwyrdd i greu miloedd o swyddi wrth symud i fod yn gymdeithas sero net
  • gweithredu ar frys i lanhau ac adfywio ein hafonydd, moroedd a chefn gwlad
  • cydnabod fod y celfyddydau a chwaraeon yn hanfodol i lesiant, gan gadw cyfleusterau chwaraeon, amgueddfeydd, theatrau, llyfrgelloedd ac orielau celf leol ar agor ac yn ffynnu
  • gwneud y system nawdd cymdeithasol yn ddigonol, gyda chynnydd o £40 yr wythnos mewn Credyd Cynhwysol
  • mynd i’r afael â thlodi plant, dileu’r cap ar fudd-daliadau dau blentyn, a darparu prydau ysgol maethlon am ddim i bob plentyn gan gynnwys yn ystod gwyliau’r ysgol.
  • diogelu ac adfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cenedlaethol
  • adeiladu o leiaf 12,000 o gartrefi newydd bob blwyddyn, gydag o leiaf 7,000 ohonyn nhw’n gartrefi cyngor a chymdeithasol
  • cyflwyno rheolaethau rhent, rhoi terfyn ar droi allan heb fai, a sicrhau bod tai yn fforddiadwy i bawb
  • cydweithio â ffermwyr ar system daliadau ar gyfer ffermio mwy cyfeillgar i natur, tra’n cynyddu cyfanswm y cyllid sydd ar gael ar gyfer cymorth
  • cymunedau i elwa ar swyddi newydd, ond hefyd ar incwm lleol o ffynonellau ynni adnewyddadwy lleol. Gallai datganoli Ystâd y Goron sicrhau bod manteision ynni adnewyddadwy ar y môr o fudd i bobol Cymru
  • cadoediad ar unwaith yn Gaza, cefnogaeth i gyflwyniad De Affrica i’r Llys Cyfiawnder Rhyngwladol, rhyddhau pob gwystlon, terfyn ar werthu arfau i Israel, a chydnabyddiaeth lawn i wladwriaeth Palesteina.

Trethu busnesau a’r cyfoethocaf

“Ni fydd geiriau cynnes yn achub ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai Anthony Slaughter, arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru.

“Mae Llafur yn camarwain y cyhoedd drwy honni y bydd eu cynlluniau yn gwneud gwahaniaeth.

“Byddai eu cynlluniau gwario truenus yn gyfystyr â thoriadau’n waeth na llymder o dan glymblaid y Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

“Os ydym am ddod â’n gwasanaethau cyhoeddus yn ôl o’r dibyn, mae angen buddsoddiad arnom.

“Ac ar ôl blynyddoedd o anghydraddoldeb cynyddol, mae’n rhaid i’r arian hwnnw ddod gan yr unigolion a’r cwmnïau cyfoethocaf.”

Bydd y blaid hefyd yn codi llais eto dros gynlluniau i ddatrys y system les.

“Bydd ein cynllun i godi Credyd Cynhwysol o £40 yr wythnos, a’r isafswm cyflog i £15 i bawb dros 16 oed yn brwydro yn erbyn y lefelau gwarthus o dlodi plant sydd gennym yng Nghymru,” meddai Anthony Slaughter wedyn.

“Bydd y Trawsnewidiad Economaidd Gwyrdd yn darparu rhaglen ôl-osod ddigynsail ar gyfer cartrefi i’w gwneud yn gynhesach ac yn rhatach i’w rhedeg.”

Rhaid “gwthio Llafur i fod yn ddewrach”, medd arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru

Rhys Owen

Anthony Slaughter wedi bod yn siarad â golwg360 ar ôl lansio maniffesto’r blaid yn Brighton