Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd yn dweud bod ymgyrch etholiadol y Ceidwadwyr hyd yma’n dangos eu bod nhw “allan o gyswllt efo pobol”.

Yn ôl Mabon ap Gwynfor, fu’n siarad â golwg360, mae eu hymgyrch yn “jôc” sy’n dwyn sen ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

O gyhoeddi dyddiad yr etholiad yn y glaw tu allan i Downing Street i ymweliad â Belfast a safle’r Titanic, y llong suddodd yn 1912, ac o ofyn i griw o weithwyr ym Mro Morgannwg am wylio cystadleuaeth bêl-droed yr Ewros – er nad yw Cymru wedi cymhwyso – i nodi bod mynd heb deledu Sky yn aberth iddo yn blentyn, mae’r blaid wedi bod dan y lach sawl gwaith ar ddechrau eu hymgyrch.

A doedd eu hymweliad â thrac rasio Silverstone, lleoliad sawl ‘car crash’, ddim am helpu’r ddelwedd ryw lawer chwaith, na chyfaddefiad Craig Williams, ymgeisydd Maldwyn a Glyndŵr, iddo fetio ar ddyddiad yr etholiad chwaith, ac yntau’n un o’r ychydig rai sydd â’r wybodaeth i allu darogan rhywbeth o’r fath.

“Mae’n jôc, ac maen nhw wedi tyfu’n jôc rŵan,” meddai Mabon ap Gwynfor wrth golwg360.

“A gorau po gynted eu bod yn mynd allan o lywodraeth.

“Mae’n dangos yn amlwg sut mae Rishi Sunak – ac mae rhywun bron a theimlo trueni drosto, achos dydy o ddim yn wleidydd da, a bod y Ceidwadwyr fel plaid allan o gyswllt efo pobol.

“Does ganddyn nhw ddim dealltwriaeth o’r hyn sy’n mynd ymlaen, a dydyn nhw chwaith ddim yn gallu gweinyddu na rheoli’n dda.”

‘Dadrithio’

Wrth siarad â chefnogwr y Ceidwadwyr ar stepen y drws, mae’n “berffaith amlwg eu bod nhw wedi dadrithio, wedi colli hyder ac yn chwerthin ar yr helyntion”, meddai wedyn.

“Maen nhw’n dwyn sen ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mae pobol dw i’n siarad efo nhw yn gyson ar draws gwledydd Ewrop yn chwerthin ar ben y Llywodraeth Brydeinig ar hyn o bryd.

“Mewn gwirionedd, does neb mewn rheolaeth yma.

“Y peth cyntaf sydd angen ei gofio o ran y gefnogaeth Geidwadol yw y bydd nifer o Geidwadwyr yn penderfynu peidio pleidleisio, gan eistedd ar eu dwylo.

“Bydd yna garfan yn mynd i Reform a charfan i Lafur, a bydd carfan yn mynd at bob un o’r pleidiau gan eu bod yn ceisio ffeindio rhywbeth gwahanol.”

Dywed ei bod yn amlwg fod yr hyn mae’r Llywodraeth Geidwadol wedi’i wneud dros y 14 blynedd diwethaf “wedi tanseilio datganoli a thanariannu Cymru”.

‘Uchelgais y tu hwnt i lygredd Llundain’

Beth yw neges Plaid Cymru, felly?

“Mae ein neges ni fel Plaid yn berffaith glir,” meddai.

“Rydym eisiau dangos bod gan Gymru uchelgais y tu hwnt i lygredd Llundain.

“Mae’n rhaid troi at blaid sy’n sefyll i fyny dros Gymru, a Phlaid Cymru yw honno.”

Colofn Dylan Wyn Williams: Prydain Faluriedig

Dylan Wyn Williams

Meddyliwch! Gorfod erfyn ar Ffrancwr i drwsio rhywfaint o Broken Britain!