Mae Cyngor Sir wedi rhoi bil gwerth miliynau o bunnoedd i berchnogion tai gwag yng Nghaerdydd ers iddyn nhw gyflwyno mesurau newydd er mwyn ceisio dod â mwy o eiddo yn ôl i ddefnydd.

Penderfynodd Cyngor Caerdydd gynyddu premiwm y dreth gyngor ar eiddo gwag hirdymor ym mis Mawrth.

Ers hynny, mae eiddo sydd wedi bod yn wag ers dros flwyddyn yn wynebu premiwm o 200%, tra bo eiddo sydd wedi bod yn wag ers dros ddwy flynedd yn wynebu premiymau o 300%, a’r rhai sydd wedi bod yn wag ers dros dair blynedd yn wynebu premiwm o 400%.

Categorïau’r premiwm

Dywed Cyngor Caerdydd eu bod nhw wedi codi cyfanswm o £2.9m ar eiddo yn y categori tâl premiwm ers mis Ebrill.

Ond maen nhw’n dweud eu bod nhw’n disgwyl i hyn ostwng, gan na fydd pob eiddo’n aros yn y categori premiwm ar gyfer cyfnod bilio eleni.

“Cyflwynodd y Cyngor gyfradd premiwm treth gyngor gyntaf (50%) yn 2019 i annog unigolion i ddod ag eiddo gwag hirdymor yn ôl i feddiannaeth,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor.

“Cynyddodd y premiwm i 100% y llynedd.

“Er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng tai yng Nghaerdydd, lle mae diffyg tai fforddiadwy o ansawdd da, cafodd codiadau pellach eu cyflwyno yn gynharach eleni.”

Fel dinasoedd eraill ledled y Deyrnas Unedig, mae Caerdydd yn wynebu argyfwng tai difrifol, gyda nifer sylweddol o bobol ar y rhestr aros am dai cyngor.

Mae ffigurau gafodd eu cyhoeddi’n ddiweddar gan yr awdurdod lleol yn dangos bod 1,028 o bobol sengl mewn llety dros dro a llety brys ar hyn o bryd.

Mae 122 o deuluoedd yn byw mewn gwestai, a 595 o deuluoedd mewn darpariaeth dros dro safonol.

Cafodd y penderfyniad ei wneud i gynyddu premiwm y dreth gyngor ar eiddo gwag hirdymor y llynedd, yn rhannol oherwydd y gred nad oedd y premiwm gafodd ei godi yn 2023 yn ddigon i annog pobol i ddod â chartrefi yn ôl i ddefnydd.

Mae ffigurau Cyngor Caerdydd, gafodd eu cyhoeddi ym mis Mawrth, yn dangos bod nifer yr eiddo gwag hirdymor y codwyd premiwm treth gyngor arnyn nhw wedi gostwng o 882 ar ddechrau Ebrill diwethaf i 808 ar Ionawr 16 eleni.

Roedd mwy na hanner yr eiddo hyn wedi bod yn wag ers dros ddwy flynedd, a 252 ohonyn nhw wedi bod yn wag ers dros dair blynedd.

Cynnydd

“Gall nifer yr eiddo y codir y premiwm arnyn nhw newid yn ddyddiol wrth i eiddo gael eu gwerthu ac wrth i unigolion symud, ond rydym eisoes wedi ein calonogi gan y cynnydd sy’n cael ei wneud i ddod â chartrefi yn ôl i ddefnydd,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd.

“Ym mis Mawrth eleni, cafodd cyfradd premiwm ei chodi ar 872 o eiddo gwag hirdymor, tra bod y ffigwr hwn wedi gostwng i 853 ar ddiwedd mis Mai.

“Rydym yn disgwyl i nifer yr eiddo y codir cyfraddau premiwm arnyn nhw barhau i ostwng dros amser.

“Y cyfanswm gwerth sydd wedi’i bilio ers mis Ebrill ar gyfer eiddo yn y categori tâl premiwm yw £2.9m, ond rydym yn disgwyl i’r ffigwr hwn ostwng, gan na fydd pob un o’r eiddo hyn yn aros yn y categori premiwm ar gyfer cyfnod bilio eleni tan Mawrth 31, 2025.”

Yn ogystal â darparu cartrefi i deuluoedd, nod y cynllun yw mynd i’r afael â’r problemau y gall eiddo gwag eu denu weithiau.

Pan gafodd y cynnydd yn y premiwm ei gymeradwyo eleni, dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid yng Nghaerdydd, po hiraf roedd eiddo yn parhau i fod allan o ddefnydd, y mwyaf y byddan nhw’n “mynd yn falltod ar ein cymunedau”.

Ychwanegodd y gallen nhw, yn y pen draw, fod yn ffocws ar gyfer tipio anghyfreithlon, fandaliaeth a gweithgarwch troseddol arall.

Eithriadau

Mae eithriadau’n berthnasol i rai perchnogion eiddo, er enghraifft os nad oes gan yr eiddo ddodrefn.

Mae gwefan y Cyngor yn nodi bod modd eithrio rhywun rhag taliadau treth gyngor am hyd at chwe mis os yw hyn yn berthnasol, ond pan ddaw’r cyfnod hwn i ben y bydd perchnogion yn gyfrifol am dalu’r swm llawn.

Er mwyn bod yn eiddo heb ddodrefn, yr unig ddodrefn mae modd ei gael yw carpedi, llenni a gosodiadau.

Os caiff eiddo ei brynu ac mae eisoes yn wag a heb ddodrefn, dim ond y rhan sy’n weddill o’r eithriad chwe mis mae modd ei hawlio.

Er enghraifft, os yw’r eiddo eisoes wedi bod yn wag a heb ei ddodrefnu am dri mis, dim ond am hyd at dri mis mae modd hawlio eithriad.