Mae menywod ledled y wlad yn chwilio am lofnod eu perthnasau ar Ddeiseb Heddwch 1923 sydd ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol…

 

Mae stori Apêl Heddwch Merched Cymru 1923 – 1924 yn rhyfeddol, ac mae’r hanes yn codi chwilfrydedd merched Cymru unwaith eto, ganrif yn ddiweddarach.

Ers i glawr y Ddeiseb Heddwch, ‘Yr Apêl’, gael ei ddarganfod yn archifau’r Deml Heddwch yng Nghaerdydd yn 2017, mae ymgyrchwyr heddwch, haneswyr ac academyddion wedi bod yn ymchwilio iddi.