Fydd y chwaraewr rheng ôl Jac Morgan ddim yn chwarae yng ngemau rygbi Cymru dros yr haf oherwydd anaf i linyn y gâr.

Y bachwr Dewi Lake fydd yn arwain y tîm yn ei absenoldeb, gyda Gareth Thomas a Henry Thomas yn cadw cwmni iddo yn y rheng flaen.

Matthew Screech a Ben Carter fydd yn yr ail reng, tra bod Taine Plumtree, James Botham ac Aaron Wainwright yn y rheng ôl.

Mae’r mewnwr Ellis Bevan wedi’i enwi yn y tîm am y tro cyntaf, wrth i ddynion Warren Gatland herio De Affrica yn Twickenham ddydd Sadwrn (Mehefin 22), ac fe fydd Sam Costelow yn dechrau yn safle’r maswr.

Mason Grady ac Owen Watkin fydd yn y canol, gyda Liam Williams a Rio Dyer ar yr esgyll a Cameron Winnett yn gefnwr.

‘Cefnau yn erbyn y wal’

“Mae ein cefnau ni yn erbyn y wal rywfaint yr wythnos hon, ond rydyn ni wedi cyffroi’n fawr ynghylch yr her ddydd Sadwrn,” meddai Warren Gatland.

“Bydd wynebu pencampwyr y byd yn Twickenham yn achlysur gwych, ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at y cyfle i fynd allan yno a pherfformio.

“Mae gennym ni wythnos fawr o’n blaenau gyda’r garfan ifanc hon, ond dw i a’r hyfforddwyr wedi bod yn hapus iawn ynghylch yr ymdrech maen nhw wedi’i gwneud.

“Mae cryn dipyn o botensial yn y garfan hon, a bydd y pum wythnos nesaf yn eithriadol o bwysig i ni yn nhermau’r ffaith ein bod ni eisiau datblygu’r tîm hwn.”

Tîm Cymru

15. Cameron Winnett, 14. Liam Williams, 13. Owen Watkin, 12. Mason Grady, 11. Rio Dyer, 10. Sam Costelow, 9. Ellis Bevan; 1. Gareth Thomas, 2. Dewi Lake, 3. Henry Thomas, 4. Matthew Screech, 5. Ben Carter, 6. Taine Plumtree, 7. James Botham, 8. Aaron Wainwright

Eilyddion

16. Evan Lloyd, 17. Kemsley Mathias,
18. Keiron Assiratti, 19. James Ratti, 
20. Mackenzie Martin,
21. Gareth Davies,
22. Eddie James,
23. Jacob Beetham

 

Tîm De Affrica

15. Aphelele Fassi, 14. Edwill van der Merwe, 13. Jesse Kriel, 12. Andre Estherhuizen, 11. Makazole Mapimpi, 10. Jordan Hendrikse, 9. Faf de Klerk; 1. Ox Nche, 2. Malcolm Marx, 3. Vincent Koch, 4. Eben Etzebeth, 5. Franco Mostert, 6. Kwagga Smith, 7. Pieter-Steph du Toit, 8. Evan Roos.

Eilyddion

16. Bongi Mbonambi, 17. Ntuthuko Mchunu, 18. Frans Malherbe, 19. Salmaan Moerat, 20. Ben-Jason Dixon, 21. Grant Williams, 22. Sacha Feinberg-Mngomezulu, 23. Damian de Allende.