Mae penodiad Craig Bellamy fel rheolwr newydd tîm pêl-droed Cymru yn “gychwyn taith allai fod yn daith go gyffrous,” yn ôl y sylwebydd pêl-droed a’r barnwr Nic Parry.

Daeth y cyhoeddiad gan y Gymdeithas Bêl Droed bore ma’ (Dydd Mawrth, 9 Gorffennaf), mai Craig Bellamy fydd yn olynu Rob Page, gafodd ei ddiswyddo fis diwethaf yn dilyn cyfres o ganlyniadau siomedig.

Er mai dyma’r tro cyntaf i Craig Bellamy gael ei benodi’n rheolwr, nid yw’r cyhoeddiad yn un syfrdanol am ei fod eisoes wedi ceisio am y rôl yn 2017 wedi ymadawiad Chris Coleman ac wedi bod mewn trafodaethau gyda’r Gymdeithas Bêl Droed yr wythnos ddiwethaf.

“Personoliaeth ddeublyg”

Wrth siarad â golwg360, dywed Nic Parry fod y cyhoeddiad yn “gychwyn taith allai fod yn daith go gyffrous, yn o heriol a gallai fynd un ffordd neu’r llall yn bennaf oherwydd cymeriad y dyn [Chris Bellamy].”

Does dim amheuaeth nad yw cymeriad Chris Bellamy yn un “diddorol”, meddai.

“Mae ganddo ddwy sialens; un ydi ei gymeriad ei hun, oherwydd mae ganddo bersonoliaeth ddeublyg.

“Mae wedi cael ei helyntion yn y gorffennol ac wedi ffraeo gydag enwau mawr y gêm bêl-droed ond, ar y llaw arall, mae blynyddoedd wedi pasio ac mae wedi dangos cymeriad personol cryf yn rhoi arian sylweddol i elusennau yn Affrica.”

“Mae’n rhaid gwneud yn siŵr ei fod yn rheoli’r ochr bositif honno a ddim yn disgyn i dywyllwch yr ochr mwy negyddol sydd wedi bod yno flynyddoedd nôl,” meddai Nic Parry.

Gellir dadlau mai’r sialens arall yw ei fod yn ymuno â’r swydd mewn cyfnod eithaf heriol i dîm pêl-droed Cymru.

“Mae’n ymuno mewn cyfnod pan mae pwll o chwaraewyr wirioneddol ddawnus Cymru yn llai na mae wedi bod ers amser maith.

“Wedyn mae’r her yna yn ei wynebu o hefyd,” meddai.

Edrych y tu hwnt i Gymru

Teimla Nic Parry nad oedd hi’n angenrheidiol i Gymro ymgymryd â’r swydd.

Roedd y Gymdeithas Bêl Droed wedi ystyried ffigurau y tu hwnt i Gymru ar gyfer y rôl, fel mae gwledydd eraill yn gwneud.

Roedd yna drafodaethau gyda chyn-seren Arsenal, Thierry Henry, rheolwr Georgia, Willy Sagnol, a rheolwr Oxford United, Des Buckingham.

“Does dim rheswm na ddylai Cymru fod mor eangfrydig â’r gwledydd hynny,” meddai Nic Parry.

Beth am Osian Roberts?

Roedd y Gymdeithas Bêl Droed hefyd wedi dangos diddordeb yn y Cymro Osian Roberts a oedd wedi bod yn fantais fawr i Chris Coleman yn ystod ymgyrch yr Ewros 2016.

Roedd cryn drafodaethau ar lawr gwlad yn y dyddiau cynnar o gydweithio posibl rhwng Osian Roberts a Craig Bellamy.

Meddai Nic Parry mai ei ddyhead oedd gweld “Osian Roberts yn rheolwr gyda Craig Bellamy a’u bod yn cydweithio gyda’i gilydd.

“Dyna wnes i ddarogan o’r cychwyn cyntaf.”

Ond cyhoeddodd Osian Roberts gychwyn y mis nad oedd am gael ei ystyried ar gyfer y rôl oherwydd ei ymrwymiadau â chlwb Como yn Yr Eidal wedi iddo eu harwain o Serie B i Serie A y tymor diwethaf.

“Mi fuasai Craig Bellamy wedi gallu elwa o gael rhywun o’r profiad yna a’r llonyddwch i fod yn bartner iddo.

“Yn y cyfamser, dw i’n meddwl y bydd yn cael llawer iawn o help gan y capten Ben Davies yn arbennig,” meddai Nic Parry.

Angerdd

Mae ymateb y cefnogwyr yn gyffredinol wedi bod yn hynod bositif ac mae’r Wal Goch yn amlwg yn ysu am yr angerdd.

“Mae angerdd yn cyfri i’r Wal Goch a chewch chi ddim chwaraewr, rheolwr na phersonoliaeth fwy angerddol na Craig Bellamy.”