Mae Plac Porffor wedi cael ei ddadorchuddio er cof am Bernice Rubens, y Gymraes gyntaf i ennill Gwobr Booker.

Hi yw’r ail berson ar bymtheg i dderbyn yr anrhydedd, sy’n nodi cyfraniadau menywod i’r genedl.

Cafodd ei geni yn Sblot yng Nghaerdydd ar Orffennaf 26, 1923, yn ferch i fewnfudwyr Iddewig.

Roedd teulu ei mam wedi ffoi o Wlad Pwyl – gyda dim ond eu peiriant gwnïo, mae’n debyg – a chyrhaeddodd ei thad o Lithwania ac yntau wedi bwriadu mynd i Efrog Newydd cyn glanio yng Nghaerdydd â’i ddwy ffidil.

Cafodd Bernice Rubens ei haddysg yn nifer o ysgolion y brifddinas, cyn mynd yn ei blaen i astudio Saesneg yng Ngholeg y Brifysgol yno.

Daeth yn athrawes ac yn awdur a chyfarwyddwr rhaglenni dogfen, cyn iddi ysgrifennu ei nofel gyntaf yn 1960 yn 37 oed, wedi iddi gael dwy ferch.

Ysgrifennodd hi 24 o nofelau, a’u themau’n amrywio o deulu i Iddewiaeth.

Mae The Elected Member, enillydd Gwobr Ffuglen Booker yn 1970, yn canolbwyntio ar ymdrechion teulu Iddewig yn Nwyrain Llundain.

Roedd hi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Booker eto yn 1978, gyda’i nofel A Five Year Sentence.

 

Cysylltiadau parhaus â Chaerdydd

Yn ôl Sue Essex, cadeirydd Placiau Porffor Cymru, parhau wnaeth cysylltiadau Bernice Rubens â Chaerdydd ar ôl iddi adael.

“Roedd ei theulu’n berchen ar dŷ yn ardal y Rhath tan iddo gael ei brynu gan y perchennog presennol, a dyna lle y’i magwyd hi,” meddai.

“Hyd yma, does dim byd wedi’i wneud i nodi ei champ sylweddol a thrawiadol iawn fel y Gymraes gyntaf, a’r person cyntaf o Gymru, i ennill Gwobr Booker.

“Rwy’n hapus iawn ein bod wedi gallu gwneud yn iawn am hyn wrth osod plac ar gyn-gartref ei theulu heddiw.”

Dywed Eryl Powell, perchennog presennol cartref yr awdur, ei bod hi wrth ei bodd ar ôl i’w chais “i ddathlu’r fenyw eithriadol hon” gael ei dderbyn.

“Rwy’n gobeithio y bydd y plac yn atgoffa pobol o’r cyfraniad diwylliannol a chymdeithasol pwysig wnaeth Bernice, merch i ffoadur Iddewig, i Gymru ac i lenyddiaeth,” meddai.

Ymateb y teulu

“Mae teulu Rubens teulu yn falch dros ben fod Bernice Rubens yn cael ei hanrhydeddu fel hyn gan Blaciau Porffor Cymru,” meddai Janet Rubens, aelod o’r teulu.

“Treuliodd Bernice ei blynyddoedd ffurfiannol yng Nghaerdydd ac mae ei phrofiadau yma wedi ysbrydoli nifer o’i gweithiau, gan gynnwys The Elected Member, enillodd Wobr Booker.

“Hi oedd y fenyw gyntaf i ennill y Booker, a daeth ar y rhestr fer eto wedyn gyda’i nofel A Five Year Sentence, a bu hefyd yn feirniad ar un o banelau’r Wobr.

“Rydym wrth ein bodd ei bod hi wedi’i chydnabod fel hyn, ac yn ddiolchgar iawn i Eryl Powell am gychwyn a hybu’r syniad o osod Plac Porffor iddi.”

Mae The Elected Member yn waith “arwyddocaol iawn”, yn ôl Dr Cai Parry-Jones, sydd wedi ymchwilio i waith Bernice Rubens yn rhan o’i ddoethuriaeth ar hanes Iddewon Cymru, gafodd ei gyhoeddi fel llyfr gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2017.

“Nid yn unig oherwydd mai hi oedd y fenyw gyntaf o Gymru i dderbyn y wobr lenyddol fawreddog hon, ond hi hefyd yw’r unig berson o Gymru i’w hennill hyd yn hyn,” meddai am ei phwysigrwydd i Gymru.

‘Cyfraniad rhyfeddol i hanes llenyddol Cymru’

“Roedd Bernice Rubens yn un o nofelwyr mwyaf swynol ac amryddawn yr ugeinfed ganrif, ac rwyf wrth fy modd yn gweld ei chyflawniadau yn cael eu dathlu heddiw,” meddai Jane Hutt, Trefnydd a Phrif Chwip Llywodraeth Cymru.

“Mae’n iawn bod ei chyfraniad rhyfeddol i hanes llenyddol yn cael ei gydnabod, felly mae’n cael ei chofio am ei dawn ac yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau o awduron benywaidd Cymru.”