I’r cannoedd o ddisgyblion Blwyddyn 13 mewn ysgolion ledled Cymru, mae tymor yr Hydref yn golygu mynd ati i lenwi ffurflen UCAS gan nodi eu dewis cwrs a sefydliad.
Wrth gwrs, dyma yw penllanw y misoedd o ymchwilio dewisiadau ar-lein a mynychu digwyddiadau er mwyn sicrhau eu bod yn dewis y Brifysgol yn gweddu eu dyheadau a’u diddordebau. Ond fwy fwy gwelir myfyrwyr aeddfed yn dychwelyd i fyd addysg naill ai i ddatblygu eu sgiliau neu er mwyn newid gyrfa. Beth bynnag fo’r rheswm dros astudio mae’n bwysig dewis y brifysgol gywir.
“Mae’n bwysig gwneud yr ymchwil i mewn i’r hyn a gynigir gan brifysgolion” meddai Bethan Wyn, Rheolydd Addysg Cyfrwng Cymraeg, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. “Mae gan bob prifysgol ei nodweddion unigryw ac mae dewis y lleoliad a’r profiad a gynigir i fyfyrwyr yr un mor bwysig â pha gwrs i’w astudio.
“Mae ymweld â dyddiau agored yn greiddiol oherwydd dyma’r cyfle i weld cyfleusterau’r Brifysgol, y lleoliad ac i siarad yn uniongyrchol gyda staff academaidd a gwasanaethau cefnogol. Mae hynny’n help mawr wrth bwyso a mesur pa fath o brofiad sy’n iawn i chi a pha yrfa ydych am ei chael wedi graddio. Mae nifer o ddyddiau agored wedi’u trefnu ym mis Hydref a Tachwedd felly dyma’r cyfle perffaith i ymweld â ni”.
“Yn y Drindod Dewi Sant mae yna ddewis eang i fyfyrwyr o ran ein cyrsiau a hefyd lleoliadau ein campysau, ond yr hyn sy’n gyffredin iddyn nhw i gyd yw’r pwyslais a roddir ar gynnig profiad da i’n myfyrwyr”.
Gyda champysau yn nhrefi a dinasoedd bywiog Abertawe, Caerdydd, Caerfyrddin, a Llambed, mae’r Drindod Dewi Sant yn cynnig dewis amrywiol o gyrsiau sy’n darparu ar gyfer pob chwaeth a diddordeb. O Fusnes ac Addysg i’r Celfyddydau a Pheirianneg, mae gan y Brifysgol raglen a fydd yn apelio at ystod eang o fyfyrwyr.
Cyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae’r brifysgol yn ddwyieithog lle mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn cyd-fyw yn naturiol. Cynigir nifer o gyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog gyda digon o gefnogaeth i helpu myfyrwyr i lwyddo sy’n cynnwys cyfle i wella’u sgiliau Cymraeg. Mae cymaint o fanteision o allu gweithio a chyfathrebu yn y Gymraeg, a gyda mwy a mwy o gyflogwyr yn tystio bod cyflogi staff dwyieithog yn gwella eu busnes, mae’r Drindod Dewi Sant yn paratoi myfyrwyr i weithio mewn Cymru ddwyieithog. Mae nifer o ysgoloriaethau hefyd ar gael o hyd at £1,000 y flwyddyn drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cymuned gefnogol
Mae’r Brifysgol yn ymfalchïo mewn meithrin cymuned glos a chefnogol sy’n cynnig profiad cartrefol i’w myfyrwyr. Gyda dosbarthiadau llai, ceir digonedd o amser wyneb yn wyneb gyda darlithwyr ac mae hynny’n arwain at brofiad dysgu personol a chefnogol.
Mae gwasanaethau cymorth myfyrwyr yn chwarae rhan ganolog wrth sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiad academaidd llwyddiannus ac wrth eu bodd. Mae ein Hwb Myfyrwyr wedi’i greu i fod yn bwynt cyswllt cyntaf er mwyn darparu gwasanaeth gwybodaeth cynhwysfawr ar bopeth sy’n ymwneud â myfyrwyr.
Mae ein tîm gwasanaethau myfyrwyr proffesiynol a phrofiadol wrth law i roi’r wybodaeth, y cyngor, yr arweiniad a’r cymorth i’n myfyrwyr i wneud y mwyaf o’u hamser yn y Brifysgol – a gwneud eu taith mor esmwyth â phosibl. O gefnogaeth academaidd sy’n rhoi arweiniad ar fodiwlau a sut i gofrestru i wasanaethau myfyrwyr sy’n cynnig cefnogaeth emosiynol ac iechyd meddwl i fyfyrwyr.
Mae’r Brifysgol wedi’i henwi yn 7fed yn y DU ar gyfer cymorth i fyfyrwyr yn The Complete University Guide2025.
Cyflogadwyedd yn flaenoriaeth
Mae cyrsiau’r brifysgol wedi’u cynllunio gyda golwg ar gyflogadwyedd, gan gynnig cyfle i fyfyrwyr ennyn sgiliau ymarferol a phrofiad o’r gweithle.
Ychwanegodd Bethan “Mae nifer fawr o’r cyrsiau yn alwedigaethol ac yn cynnwys y sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr yn y meysydd hynny ond hefyd, mae cyfle i ennyn sgiliau trosglwyddadwy sy’n addas ar gyfer rhychwant o feysydd ac sy’n paratoi ein graddedigion ar gyfer bywyd tu hwnt i’r Brifysgol”.
“Yn ogystal, mae gwasanaethau gyrfa’r brifysgol yn darparu cymorth ychwanegol ar ysgrifennu CV, technegau cyfweld a strategaethau chwilio am swyddi. Ac mae ffocws clir yma ar entrepreneuriaeth a menter gyda nifer o’n graddedigion yn dechrau eu busnesau eu hunain. Mae’r Brifysgol yn 1af yn y DU am y nifer o fusnesau sy’n parhau’n weithredol ar ôl 3 mlynedd!”
Profiad bywiog i fyfyrwyr
Mae campysau’r Brifysgol nid yn unig yn drawiadol i’r llygad ond maent hefyd yn llawn cyfleusterau o’r radd flaenaf ac mae yna amrywiaeth eang o glybiau a chymdeithasau i’w canfod ar gyfer pob diddordeb. Mae Cymdeithas Y GYM GYM yn cynnig cyfle i wneud ffrindiau oes i fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg neu sy’n dysgu’r iaith ac mae Cangen y Brifysgol o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn trefnu Penwythnos y Glas yn arbennig ar gyfer myfyrwyr Cymraeg eu hiaith bob mis Medi sy’n ddechrau da ar gyfer cyfnod llwyddiannus yn y Drindod Dewi Sant.