Mae enwau’r dwsin o brosiectau newydd i dderbyn cyllid o gronfa Grymuso Gwynedd wedi’u cyhoeddi.
Bellach, mae dros 30 o gymdogaethau o bob cwr o’r sir yn cael cefnogaeth i redeg prosiect fyddai’n gwella’r gymdeithas leol mewn rhyw ffordd – o Bennal i ddinas Bangor; o Benrhyn Llŷn i Benllyn.
Mae’r rhaglen yn helpu cymunedau i ddatrys heriau trwy gydweithio i gynnig cymorth ariannol ac ymarferol i ddatblygu prosiectau lleol.
Gweithredu yn Llwyngwril
Yr her sy’n wynebu cymuned Llwyngwril yw bod nifer o fewnfudwyr di-Gymraeg yn byw yn y pentref, a’r weledigaeth gan y Ganolfan yn y pentre ydy dod â gwahanol grwpiau at ei gilydd a phontio cenedlaethau drwy ddathlu hanes a hunaniaeth Gymreig yr ardal.
Bydd cyhoeddi llyfr yn llawn lluniau a hanesion nid yn unig yn cynyddu’r ymdeimlad o falchder yn lleol trwy ddathlu hanes unigryw’r ardal, ond bydd pobol yn dod ynghyd i gydweithio a chyd-drafod yn rhan o’r broses.
Datblygu ym Mhwllheli
Datblygu cyfleusterau gwell ar gyfer chwaraeon a defnydd cymunedol ydy gweledigaeth tymor hir Clwb Pêl-droed Pwllheli.
Yn y lle cyntaf, bydd y gronfa’n cynorthwyo’r clwb i wella ei drefniadau rheoli a hyrwyddo’r hyn sy’n cael ei gynnig eisoes, ac o adeiladu ar y seiliau cadarn hynny bydd modd symud ymlaen i gynyddu cyfleoedd i gael mynediad at wasanaethau, hamdden a gweithgareddau cymunedol, cyfleoedd gwirfoddoli a hyfforddiant, a gwella iechyd a lles trigolion yr ardal.
Creu yng Nghaernarfon
Bydd gŵyl amgylcheddol newydd ardal Caernarfon yn meithrin diddordeb a chodi hyder ac awydd pobl i gyfrannu at amryw o weithgareddau yn yr ardal. Bydd Gŵyl Cynhaeaf Arall yn rhoi llwyfan i drafodaethau, dangos esiamplau o brosiectau lle mae cyfleoedd i wirfoddoli, ac yn rhannu gwybodaeth am fentrau a busnesau amgylcheddol a chymunedol lleol – y cyfan trwy’r cyd-destun Cymreig.
Yna… pwy ag ŵyr? Efallai y bydd y profiad yn ysbrydoli datblygu gwyliau eraill tebyg mewn gwahanol rannau o Gymru.
Y prosiectau
- Cofio’r Cant – Neuadd Goffa Cricieth
- Mapio Dwfn Nantlle – Yr Orsaf
- The Welsh Whisperers – Theatr y Ddraig
- Theatr Derek Williams
- Datblygiad yr Eagles – Menter Llanuwchllyn
- Prosiect Tai Llanaelhaern – Antur Aelhaearn
- Datblygu Hwb Cymunedol – Neuadd Groeslon
- Datblygu Fic Bethesda – Tabernacl Cyf
- Gŵyl Dewi Bangor – Menter Iaith Bangor
- Hunaniaeth Amgueddfa Forwrol Llŷn
- Menter Rabar – Cyngor Cymuned Llanengan
- Papur newydd a gwefan fro – Pum Plwy Penllyn
- HWB Cefnogi Cymuned – Y Dref Werdd
- Ar y Dibyn – Maes Ni
- Siop Menter y Glan
- Ymgynghoriad Creadigol y Tŵr
- Datblygu Capel Pencaenewydd
- Dyfodol Llewyrchus i Noddfa
- Prosiect Bwyd Porthi Dre
- Gwyrfai Gwyrdd – Cyngor Cymuned Waunfawr Caeathro
- Cae Pob Tywydd Y Felinheli – Clwb Chwaraeon Seilo Cyf.
- Caru Coed y Brenin
- Datblygu Hafod Ceiri
- Budd Cymunedol Llwybr Llechi Eryri
- Agor Drysau i’r Dyfodol – Cyfeillion Croesor
- Gŵyl Cynhaeaf Arall – Gŵyl Arall / Pedwar a Chwech
- Adfywiad Tŷ Siamas
- Hwb Cymunedol Clwb Pêl-droed Pwllheli
- Y Wagan – Menter y Plu
- Paratoi at ddyfodol cynaliadwy – Grŵp Hamdden Ardudwy a Harlech
- Bangor Maritime Heritage – Bangor PLUS
- Prosiect Hanes Llwyngwril – Y Ganolfan Llwyngwril
- Partneriaeth Dyffryn Peris – Caban CIC
Mae’r prosiectau hyn wedi’u hariannu trwy un o raglenni Menter Môn, sef Grymuso Gwynedd, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth ariannol hefyd gan y Gwasanaethau Adfer Niwclear (NRS) ar ran yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA).