O lwybrau llawn cymeriadau’r Nadolig ac addurniadau hudolus i weithdai crefft a storiâu gan Siôn Corn, mae digonedd o hwyl yr Ŵyl yn aros i deuluoedd ar safleoedd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru eleni. Gall teuluoedd ymuno am anturiaethau gaeafol sy’n berffaith ar gyfer pob aelod, gan gynnwys trysorau cudd i’w darganfod, coed Nadolig hardd, a llwybrau barugog i’w crwydro – mae rhywbeth arbennig i bawb y tymor hwn!
Castell y Waun, Wrecsam
Ymgollwch yn hudoliaeth y Nadolig yng Nghastell y Waun. Wrth i chi grwydro drwy’r Ystafelloedd Swyddogol wedi’u haddurno’n hardd, chwiliwch am y ddraig ffyrnig sy’n gwarchod trysorau cudd. Profwch y Groto o Chwith gan roi eitemau hanfodol i’r rhai sydd mewn angen, neu mwynhewch frecwast Cymreig neu swper Nadoligaidd yng nghwmni Siôn Corn. Wedi hynny, ewch am dro i ganfod y sêr sy’n cuddio yn y gerddi barugog, neu ymunwch â’n Ceidwaid mewn gweithdy i greu eich carw pren.
Erddig, WrecsamDros y Nadolig, bydd Tŷ Erddig wedi’i addurno’n hardd gyda phriodweddau traddodiadol. Chwilotwch ystafelloedd sy’n dod â’r gerdd “Twas the Night Before Christmas” yn fyw. Gall plant fwynhau llwybr arbennig i chwilio am lygod a wnaed â llaw, byrddau llawn danteithion melys, a hosanau’n hongian wrth y tân. Ymunwch â brecwast gyda Siôn Corn, a mwynhewch sesiynau stori a gweithgareddau crefft yr Ŵyl.
Castell Penrhyn, BangorCamwch i fyd o ryfeddod gaeafol yng Nghastell Penrhyn, ble bydd goleuadau pefriol yn y Neuadd Fawr wedi’i haddurno’n hardd yn creu awyrgylch cysurus. Chwilotwch ein hystafelloedd gyda’u haddurniadau Nadoligaidd traddodiadol a modern, a mwynhewch sesiynau crefftau’r Ŵyl i’r teulu cyfan. Peidiwch ag anghofio’r cyfle i ymlwybro drwy’r gerddi barugog i dynnu eich llun teuluol Nadoligaidd.
Plas Newydd a’r Ardd, Ynys Môn Gwisgwch eich esgidiau dawnsio ar gyfer y disgo distaw Nadoligaidd yn yr Ystafell Gerdd. Dewiswch eich sianel gerddoriaeth—o gerddoriaeth bop y ‘90au i glasuron yr Ŵyl—a dawnsiwch drwy’r dydd! Ar ôl y disgo, ewch i nôl diod Nadoligaidd a mins pei cyn mynd am dro gaeafol hyfryd drwy’r ardd.
Castell a Gardd Powis, Y Trallwng Ymgollwch mewn Nadolig Dickensaidd, ble mae ysbryd ‘A Christmas Carol’ yn dod yn fyw. Ymlwybrwch drwy’r neuaddau â’u haddurniadau hardd, a mwynhewch brecwast hudol gyda Siôn Corn. Mae’n werth ymweld gyda’r nos hefyd, wrth i arddangosfa o oleuadau Nadolig swyno ymwelwyr yn y Cwrt rhwng 13 a 23 Rhagfyr.
Llanerchaeron, Ceredigion Bydd y fila Sioraidd yn Llanerchaeron yn agor ei drysau am dridiau llawn hud ar gyfer y Ffair Nadolig ar 6 i 8 o Ragfyr. Chwiliwch am roddion ymysg y gwaith crefft a’r bwyd lleol, cyn mynd i fewn i’r tŷ i ymhyfrydu yn yr addurniadau wedi eu ysbrydoli gan y cathod sy’n gwneud eu cartref yno.
Gerddi Dyffryn, Caerdydd
Ymunwch yn hwyl yr Ŵyl yng Ngerddi Dyffryn wrth i chi addurno dynion eira yng Ngornel y Dyn Eira cyn rhoi tro ar gemau cyffrous fel ‘Kerplunk’ anferth. Crwydrwch ymhellach i Gornel y Torrwr Cnau, ym mhle gallwch blymio i fyd theatr bypedau a herio eich ffrindiau mewn gêm sgitls. Yng nghysur y tŷ, cewch fwynhau’r addurniadau Nadolig—cadwch olwg am sanau wedi’u gwau a “lle tân” hynod a wnaed o lyfrau. Dewch â’r rhai bach ynghyd ar gyfer “Amser Stori Siôn Corn” i wrando ar storïau swynol sy’n tanio eu dychymyg.
Ty Tredegar, CasnewyddDadlapiwch 500 mlynedd o’r Nadolig wrth i Dŷ Tredegar ddod yn fyw gyda llond lle o deganau, gwledda a hanes. O 6 Rhagfyr, bydd addurniadau a goleuadau hudolus yn creu awyrgylch arbennig. Ar benwythnosau Nadoligaidd, 14-15 a 21-22 Rhagfyr, bydd Scrooge yn dychwely i fwrw ei lygad beirniadol ar y dathliadau, tra bod Siôn Corn yn swyno ymwelwyr. Ymunwch am agoriadau hwyr rhwng 13 a 23 Rhagfyr, pan fydd Tŷ Tredegar ar agor rhwng 12pm ac 8pm.
Dinefwr, Sir GaerfyrddinBydd Dinefwr yn cychwyn cyfnod y Nadolig gyda’u Ffair Nadolig blynyddol o Dachwedd 22 i 24, lle bydd stondinwyr crefftus ac adloniant yr Ŵyl yn eich disgwyl. Darganfyddwch Goeden Nadolig ‘Creaduriaid Dinefwr’ yn Nhŷ Newton, a mwynhewch siocled poeth neu win cynnes wrth ymweld. Bydd cyfle i gwrdd â Siôn Corn yn ei groto ar ddyddiau Sul rhwng 1 a 15 o Ragfyr, a bydd cyfle i fwynhau carolau cymunedol ar Ragfyr 19. Peidiwch â cholli traddodiad y Fari Lwyd ar Ragfyr 31 ac Ionawr 3.
Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd, Dinbych-y-pysgodDewch i ddarganfod dylanwad y Tuduriaid ar ein dathliadau Nadolig. Archwiliwch y tŷ a’i draddodiadau, a gall y rhai bach gwrdd ag Arglwydd Anhrefn a dderbyn tegan Tuduraidd am ddim tra bo stoc ar gael.
Bydd yn rhaid talu’r tâl mynediad arferol (mynediad am ddim i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac i blant dan 5 oed). Edrychwch ar y wefan i gael manylion am ddigwyddiadau Angelo (https://www.nationaltrust.org.uk/cy/visit/wales/christmas.