Mae’r haf wedi cyrraedd yn swyddogol, a law yn llaw ag ef daw llu o weithgareddau a digwyddiadau drwy gydol y gwyliau ar safleoedd arbennig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Wrth inni groesawu haf yn llawn chwaraeon, yn ddi-os bydd modd i chi a’r teulu (y rhai bach a’r rhai mwy!) ddarganfod caerau mewn gwersyll hyfforddi marchogion yr Oesoedd Canol yng Nghastell a Gardd y Waun neu geisio ennill lle ar y podiwm yng ngemau gwych Gerddi Dyffryn!
De Cymru
Gardd Goetir Colby, Sir Benfro
Daw’r ardd goetir gudd hon yn fyw yn ystod yr haf, gan droi’n faes chwarae naturiol enfawr. Yn ogystal ag archwilio’r gerddi a chwilio am bryfetach yn y dolydd, beth am gymryd rhan yn un o’n digwyddiadau arbennig, yn cynnwys sesiynau saethyddiaeth a pherfformiadau gan Syrcas NoFit State!
Dinefwr, Sir Gaerfyrddin
Mewn man chwarae sy’n newydd sbon danlli ar gyfer 2024 – sef yr Iard Dderw – cewch roi rhwydd hynt i’ch dychymyg. Chwarae â dŵr, chwarae cuddio, gwneud gwâl, archwilio twneli – mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd!
Gerddi Dyffryn, Bro Morgannwg
Bydd Gemau Gerddi Dyffryn yn siŵr o fod yn uchafbwynt i haf eich teulu. O neidio dros glwydi i saethyddiaeth, bydd modd i aelodau eich teulu fwynhau rhywfaint o gystadlu cyfeillgar a chael tynnu eu llun ar bodiwm yr enillydd.
Tŷ Tredegar, Casnewydd
Mae tîm Tŷ Tredegar angen eich help! Dewch i adnabod yr anifeiliaid egsotig a arferai fyw yn y tŷ a chwiliwch am y rhai sydd wedi dianc ac sy’n achosi anhrefn lwyr! Helpwch trwy gymryd rhan mewn gemau a heriau i ddysgu am y gwahanol gynefinoedd sy’n cynnal ein bywyd gwyllt lleol.
Canolbarth Cymru
Castell a Gardd Powis, Y Trallwng
Ewch i’r Lawnt Fawr dan y terasau Eidalaidd crand i herio eich cyfeillion a’ch teulu i gymryd rhan mewn gwahanol chwaraeon. Ai chi yw pencampwr pêl foli eich teulu? Beth am neidio dros glwydi neu golff giamocs? Ar ôl llosgi rhywfaint o egni, ewch i’r Gwyllt i chwilio am y dreigiau pren cyfeillgar sy’n cysgu’n braf.
Llanerchaeron, Ceredigion
Cewch hwyl a sbri diddiwedd yn y gerddi a’r fila Sioraidd ysblennydd. Chwiliwch am y man chwarae gwair neu rhowch gynnig ar odro buwch ffug maint llawn! Ceir cyfleoedd lu i chwarae â thywod a dŵr, felly cofiwch ddod â dillad sbâr gyda chi rhag ofn ichi faeddu.
Gogledd Cymru
Gardd Bodnant, Conwy
Bydd ‘Prys a’r Pryfed’ gan Aardman yn dod i’r ardd fotanegol yr haf hwn. Dilynwch y llwybr i chwilio am Prys a’i gyfeillion, sydd wedi mynd ar antur fawr. Lawrlwythwch yr ap arbennig i fynd yn fach fel pryf a gweld y byd trwy lygaid trychfilyn wrth chwilio am Prys ar hyd y Llwybr Pryfed.
Castell a Gardd y Waun, Wrecsam
Uchafbwynt Haf o Hwyl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw gwersyll hyfforddi marchogion yr Oesoedd Canol. Mae’n addas i aelodau bach a mawr y teulu, a bydd yr heriau’n cynnwys dringo, balansio a gwau trwy rwystrau, yn ogystal â heriau cudd yn y bêls a’r ddrysfa.
Neuadd a Gardd Erddig, Wrecsam
Ceir toreth o ddigwyddiadau yn Erddig dros yr haf. Bydd y storïwr poblogaidd Jake Evans yn dod draw i adrodd hanesion am antur a gall darpar artistiaid ddwyn ysbrydoliaeth o’r tŷ wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau llin-argraffu neu Ddydd Gwener Celfyddyd Gain lle caiff yr holl deulu greu gwaith celf unigryw a mynd ag ef adref.
Castell a Gardd Penrhyn, Gwynedd
Os byddwch angen llosgi rhywfaint o egni, Castell Penrhyn yw’r lle perffaith i redeg yn rhydd. Gwibiwch o amgylch y parcdir, ymgollwch yn y ddau fan chwarae naturiol neu ymlaciwch trwy wisgo amdanoch a mynd am bicnic yn y ddôl lle ceir golygfeydd godidog o Eryri.
Tŷ a Gardd Plas Newydd, Ynys Môn
Gwirioni ar gerddoriaeth? Wel, ewch i Blas Newydd. Yn ogystal â gweithgareddau creadigol i’r holl deulu dros yr haf, ar 6 Medi gall ymwelwyr fwynhau dawnsio yn y Digwyddiad Anthemau Dawns fel rhan o ‘Proms yn y Parc’. Cofiwch archebu tocynnau ymlaen llaw, oherwydd bydd y digwyddiad hwn yn siŵr o fod yn boblogaidd
I ddod o hyd I ragor o bethau cyffrous i’w gwneud yn eich ardal chi
https://www.nationaltrust.org.uk/cy/visit/wales/family-friendly