Mae trefnydd y portffolio llwyddiannus o ddigwyddiadau crefft gyfoes cenedlaethol, Sarah James MBE, yn lansio digwyddiad newydd sbon yn ei thref enedigol, Aberteifi. Cynhelir Gŵyl Grefft Cymru yng Nghastell Aberteifi dros dri diwrnod rhwng 6 – 8 Medi 2024.
Mae Gŵyl Grefft Cymru yn croesawu pobl o bob oedran ac mae’n cynnig rhaglen gyffrous o weithdai crefft, arddangosiadau, a dosbarthiadau meistr gan rai o wneuthurwyr mwyaf blaenllaw’r DU – gan gynnwys y gwneuthurwr brwshys ac ysgubellau o Sir Gâr Rosa Harradine; y gwehydd llaw cyfoes Llio James; y ceramegydd o Landeilo Kate Glanville; a’r dylunydd gemwaith byd-enwog Ann Catrin Evans.
Bydd Gŵyl Grefft Cymru, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Sir Ceredigion a QEST, yn arddangos gwaith gan ddetholiad a ddewiswyd yn ofalus o ryw naw deg gwneuthurwr eithriadol o bob rhan o Gymru a’r DU ‒ yn cynnwys gwneuthurwyr gemwaith, crochenwyr, gwneuthurwyr dodrefn, artistiaid tecstilau, gwneuthurwyr gwydr a llawer mwy ‒ a phob un yn gwerthu eu cynhyrchion coeth, unigryw yn uniongyrchol i’r cyhoedd.
Dros y penwythnos yn y castell, bydd Pabell Grefft i Blant, a gefnogir gan Ganolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange, Amgueddfa Wlân Cymru, Coleg Sir Gâr a Theatr Byd Bach ‒ cyfle i blant fod yn greadigol a chael llawer o hwyl ar yr un pryd.
Ynghyd â’r gweithgareddau yn ystod y penwythnos, mae Gŵyl Grefft Cymru yn cyflwyno digwyddiadau ategol ar draws y dref, a fydd yn rhedeg am 4 wythnos. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys yr arddangosfa gerameg, Significant Forms, lle bydd Oriel Canfas yn arddangos cerameg Gymreig o safon amgueddfa; a Llwybr Tref yr Ŵyl Grefft mewn chwe lleoliad lle bydd chwe gwneuthurwr datblygol yn cyflwyno gwaith newydd a ysbrydolir gan Gasgliad Amgueddfa Cymru ac a guradir gan Oriel Myrddin.
Meddai Sarah James: “Rydw i wrth fy modd o gael lansio Gŵyl Grefft Cymru yn fy annwyl dref enedigol, Aberteifi. Mae’r digwyddiad yn ddathliad cydweithredol o wneud, a gefnogir gan sefydliadau celf blaenllaw yng Nghymru a thu hwnt. Mae’n gyfle gwych i wneuthurwyr dawnus arddangos, hybu a gwerthu eu gwaith, ac mae’n ddiwrnod allan ardderchog i bobl o bob oedran. Rydw i wir yn edrych ‘mlaen at y digwyddiad yng Nghastell gogoneddus Aberteifi.”
Meddai Meirion Davies, Cyfarwyddwr Castell Aberteifi: “Mae hwn yn gyfle gwych i’r Castell wahodd pobl Aberteifi ac ymwelwyr o bell i fwynhau’r arddangosfa ryfeddol hon. Mae’n briodol gan y byddai llawer o’r gwaith a’r crefftau a gynhyrchir ar gyfer yr ŵyl wedi bod yn rhan annatod o fywyd bob dydd yn hanes y Castell a’r dref: bydd crefftau sydd wedi goroesi treigl amser a darnau o’r safon uchaf yn dathlu gweledigaeth a sgìl pob gwneuthurwr. Mae’n gyffrous iawn.”
I gael gwybodaeth, yn cynnwys manylion yr arddangoswyr, ewch i
https://www.craftfestival.co.uk/cymru
Gwyl Grefft Cymru
6 – 8 Medi 2024
10am-5pm
Tocyn diwrnod i oedolion £7
Tocyn penwythnos 3 diwrnod i oedolion £13
Plant dan 18 oed yng Nghwmni Oedolyn AM DDIM. Gofalwyr AM DDIM