Fforwm Genedlaethol Cymunedoli – dechrau ar ddyfodol disglair

Dros ddau ddiwrnod ym Mhlas Tan y Bwlch daeth gweithwyr o’r maes datblygu cymunedol ynghyd i drafod syniadau a chynllunio ar gyfer y dyfodol

Huw Bebb
gan Huw Bebb

Does dim dwywaith bod Fforwm Genedlaethol Cymunedoli yn un o’r digwyddiadau mwyaf difyr, cyffrous ac ysbrydoledig i mi fod ynddo erioed.

Dros ddau ddiwrnod ym Mhlas Tan y Bwlch daeth gweithwyr o’r maes datblygu cymunedol ynghyd er mwyn trafod syniadau a chynllunio ar gyfer dyfodol datblygu cymunedol yng Nghymru.

Roedd y Fforwm Genedlaethol yn gyfuniad o gyflwyniadau gan arbenigwyr yn y maes, sgyrsiau panel a grwpiau trafod ac rwy’n credu i bob unigolyn oedd yn bresennol elwa’n arw ar y rhain.

Rwyf hefyd yn ffyddiog bod y rhwydweithio a’r penderfyniadau a wnaethpwyd yn ystod y Fforwm Genedlaethol wedi gosod y seiliau ar gyfer camau nesaf datblygu cymunedol yng Nghymru.

Beth yw Cymunedoli a Cymunedoli Cyf?

Cyn i mi fynd ymlaen i drafod y Fforwm yn fanylach, mae’n debyg y byddai’n syniad esbonio beth yn union yw Cymunedoli ac yn wir, Cymunedoli Cyf.

Bathwyd y term cymunedoli – berf ydyw mewn difrif – i gyfleu syniadau ac ymarfer yn ymwneud â grymuso cymunedau. Hanfod cymunedoli yw perchnogaeth a rheolaeth gymunedol ar asedion cymuned fel bod yr incwm a grëir yn cael ei gadw’n lleol. Yn hytrach nag echdynnu incwm o’n cymunedau, fel sydd wedi, ac sy’n dal i ddigwydd, i’r fath raddau yng Nghymru, mae cymunedoli’n golygu incwm cynhaliol. Hynny yw, incwm sydd i raddau helaeth yn aros, yn amlhau ac yn cael ei ail-fuddsoddi’n lleol.

Mae Cymunedoli Cyf. yn gyfrwng rhwydweithio a chydweithio arloesol rhwng mentrau cymunedol Gwynedd. Ym mis Mai 2023 ffurfiolwyd y rhwydwaith yn gwmni a menter gymunedol sy’n dod â hanner cant o fentrau cymunedol at ei gilydd dan y teitl Cymunedoli Cyf. Yn achos sampl o 23 o’r mentrau hyn, mae cyfanswm eu trosiant yn £13.56 miliwn, maent yn cyflogi 215 yn llawn amser, 239 rhan-amser ac mae ganddynt 536 o wirfoddolwyr. Yn ogystal â’u gwerth cymdeithasol, mae gan y 23 menter, rhyngddynt, asedau gwerth £43.2miliwn.

Cymunedoli Cymru

Beth oedd prif amcanion y Fforwm Genedlaethol felly?

Amcan cyntaf y fforwm oedd sefydlu Cymunedoli Cymru fel rhwydwaith cenedlaethol o fentrau cymunedol.

Y syniad, yn y bôn, yw ymestyn y rhwydwaith sydd eisoes wedi’i sefydlu yng Ngwynedd i gwmpasu mentrau cymunedol ledled Cymru.

Y gred yw y bydd tyfu’r rhwydwaith yn rhoi gwell cynrychiolaeth i’r maes yn gyffredinol ac yn golygu y bydd rhagor o arbenigedd ac adnoddau ar gael i fentrau cymunedol yng Nghymru.

Rwy’n falch o ddweud bod y Fforwm wedi mynegi cefnogaeth i’r amcan hwn ac felly gallwch ddisgwyl gweld Cymunedoli Cymru yn mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd nesaf.

Ysbrydoliaeth o Sweden

Ail amcan y Fforwm Genedlaethol oedd sefydlu Senedd y Cymunedau yng Nghymru.

Dyma syniad a allai gael ei ystyried yn afrealistig, ond cafwyd ysbrydoliaeth o Sweden lle mae menter debyg wedi bod yn llwyddiant.

Mudiad Hela Sverige (Sweden Wledig) yw’r mwyaf o’i faint a’r mwyaf datblygedig o sawl mudiad tebyg ar draws Ewrop a’r unig fudiad o’i fath i dderbyn cyllid sylweddol gan y Llywodraeth.

Datblygodd y mudiad yn y 1980au mewn ymateb i ddiboblogi ardaloedd gwledig yng ngogledd Sweden. Ers hynny, mae’r mudiad wedi helpu i ffurfio dros 4,000 o gymdeithasau pentref, gyda 100,000 o bobl yn cymryd rhan uniongyrchol ynddynt. Yn ganolog i hyn oll y mae ‘Senedd Sweden Wledig’, a gynhelir bob dwy flynedd, sy’n cynnwys dros 1,000 o gynrychiolwyr pentrefi, ac sy’n llais uniongyrchol i gymunedau allu dylanwadu ar Lywodraeth.

Yn amlwg, nid mater o efelychu’r hyn sydd wedi digwydd yn Sweden fydd sefydlu Senedd y Cymunedau a bydd yn rhaid darganfod beth yw’r ffordd orau o fynd o’i chwmpas hi yma yng Nghymru. I’r perwyl hwn treuliwyd sesiwn gyfan yn treialu ‘Moc Senedd’ yn y Fforwm Genedlaethol ac eto mynegwyd cefnogaeth i’r amcan o sefydlu Senedd y Cymunedau yng Nghymru.

Cymunedoli Cariad

Un elfen sy’n bwysig i Cymunedoli na thrafodwyd yn y Fforwm Genedlaethol ond sy’n crisialu’r hyn sydd dan sylw yw’r syniad o Gymunedoli Cariad.

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd, yn stondin Cymunedoli Cymru, cynhaliwyd nifer o drafodaethau cyhoeddus ar wahanol agweddau ar gymunedoli gan gynnwys Cymunedoli Ynni, Cymunedoli yr Economi ac ati, ond cafwyd hefyd drafodaeth ar Cymunedoli Cariad.

Meddwl yr ydym am gariad yn ei ystyron eang. Cariad rhwng unigolion, ymysg teuluoedd rhwng cymdogion, ymlith y gymuned ond hefyd gariad at le, at gynefin, at fyd natur, celf, cerddoriaeth, llên a barddoniaeth.

Felly’n ogystal â gwneud yr achos rhesymegol dros gymunedoli fel ffordd ymlaen i drawsnewid ein cymunedau, rydym hefyd yn ychwanegu grym goddrychol cariad at reswm. Mewn geiriau eraill, er mwyn goresgyn apathi, chwerwder, negyddiaeth a chasineb –  defnyddio’r galon yn ogystal â’r pen dros gymunedoli.

Roedd y Fforwm hwn wedi’i ariannu’n rhannol trwy raglen Grymuso Gwynedd, sef un o raglenni Menter Môn sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth ariannol hefyd gan y Gwasanaethau Adfer Niwclear (NRS) ar ran yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA).