Map dwfn Dyffryn Nantlle wedi creu’r teimlad “bod pawb yn perthyn i’r ardal”

Un o brosiectau Grymuso Gwynedd yn helpu pobol leol i siapio’r dyfodol ar sail atgofion o’r gorffennol

Mae amrywiaeth o hen hanesion, straeon ac atgofion wedi’u casglu gan bobol Dyffryn Nantlle yn rhan o brosiect ’mapio dwfn’ yn ddiweddar.

Diben map dwfn ydy ceisio casglu amrywiaeth o brofiadau a’u plethu efo’i gilydd mewn ffordd greadigol, i bobol eraill gael teimlad o naws y lle. Mae’n broses o edrych ar yr ardal – ar hen fapiau a disgrifiadau – a chasglu gwybodaeth gan bobol heddiw sy’n adrodd stori sut maen nhw’n perthyn i’r tir a beth yw eu hatgofion.

Gwyliwch y fideo i ddarganfod mwy am y prosiect Mapio Dwfn Nantlle a gafodd ei gynnal gan fenter Yr Orsaf gyda chefnogaeth Grymuso Gwynedd.

 

Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu’n rhannol trwy raglen Grymuso Gwynedd, sef un o raglenni Menter Môn sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth ariannol hefyd gan y Gwasanaethau Adfer Niwclear (NRS) ar ran yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA). Mae hefyd yn un o brosiectau Ymbweru Bro gan gwmni Golwg, a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri.