Yn ardal Y Bala a Phenllyn, roedd papur newydd Y Cyfnod yn arfer bod yn “rhan bwysig o ddiwylliant” nifer o bobol leol.
Diolch i raglen Grymuso Gwynedd, mae criw lleol dan arweiniad menter Pum Plwy Penllyn wedi mentro eleni, nid yn unig i atgyfodi’r papur, ond hefyd i sefydlu gwefan fro newydd o’r enw Tegid360.
Bellach mae’r ddau blatfform yn lle i straeon lleol gan bobol leol, yn lle i hyrwyddo digwyddiadau a busnesau lleol, ac yn gofnod cymdeithasol pwysig ar gyfer yr ardal.
Gwyliwch y fideo i glywed mwy am y datblygiadau:
Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu’n rhannol trwy raglen Grymuso Gwynedd, sef un o raglenni Menter Môn sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth ariannol hefyd gan y Gwasanaethau Adfer Niwclear (NRS) ar ran yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA).