Astudiwch i ddod yn athro ac ennill cyflog wrth ddysgu gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru

I Sioned Roberts, hapusrwydd ydy gweld ei disgyblion yn dangos cynnydd ac yn llwyddo … yn union fel y gwnaeth hi wrth fachu’r cyfle perffaith i ddod yn athrawes. (Gwyliwch Sioned yn egluro ei phrofiad)

Heb orfod rhoi’r gorau i’r swydd oedd ganddi eisoes fel athrawes heb gymhwyso, fe lwyddodd Sioned i astudio’r TAR, i gael profiad addysgu gwerthfawr ac ennill Statws Athrawes Gymwysiedig.

Hynny, diolch i gynllun hyfforddi unigryw Llwybr Cyflogedig y Dystysgrif i Raddedigion (TAR) gan y Brifysgol Agored yng Nghymru.

Yn y Brifysgol Agored yng Nghymru, gallwch ddewis o ddau lwybr TAR arloesol – y llwybr rhan-amser a’r llwybr cyflogedig. Mae’r ddau lwybr yn cyfuno astudio ar-lein gyda phrofiad ymarferol o fewn ysgolion, mewn fformat sy’n gweithio i chi. Mae’r llwybr cyflogedig yn ddelfrydol os ydych eisoes yn gweithio mewn ysgol nad yw’n rôl addysgu, ac mae’r llwybr rhan-amser yn wych os ydych am astudio i ddod yn athro ond yn methu â rhoi’r gorau i’ch gwaith, rhianta neu ymrwymiadau eraill.

A hithau eisoes yn gweithio yn Ysgol y Creuddyn ger Llandudno, roedd y cynllun TAR Cyflogedig yn caniatáu iddi barhau â’i swydd, gan dderbyn yr hyfforddiant ar-lein – yr ateb perffaith, meddai, o ran gyrfa a bywyd personol.

“Roedd o’n golygu fy mod i’n gallu aros yn y swydd a dal i gael incwm yn hytrach na chymryd blwyddyn allan a bod heb gyflog,” meddai.

Mae yn Ysgol y Creuddyn o hyd, ond bellach yn Bennaeth Drama yno ac yn defnyddio’i diddordeb mewn theatr i ddod â’r Gymraeg yn fyw i ddisgyblion a’u hysbrydoli ynghylch eu diwylliant.

Fe ddaeth un enghraifft o hynny wrth astudio hanes Tryweryn a hithau’n cael y bobl ifanc i actio rhannau trigolion Capel Celyn, ar un llaw, a chynghorwyr Lerpwl, ar y llall.

“Mae’r iaith yn bwysig i fi, i ysbrydoli’r genhedlaeth nesa’ yn yr iaith Gymraeg,” meddai Sioned wedyn gan egluro iddi wneud darn o ymchwil yn ystod y cwrs TAR i astudio gallu’r ddrama i hybu’r Gymraeg.

Ei chyngor hi i bobl eraill sy’n ystyried creu dyfodol newydd trwy fynd yn athrawon ydy mynd amdani. Mae’n swydd werthfawr, meddai, gyda llwyddiant disgyblion yn wobr werth ei chael.

Mae’r Brifysgol Agored yn cynnig rhaglen TAR ledled Cymru a hi yw’r unig brifysgol yng Nghymru i gynnig y llwybrau arloesol rhan-amser a chyflogedig. Dyw TAR traddodiadol ddim yn bosib i lawer o bobl, felly mae’r llwybrau TAR cyflogedig a rhan-amser yn caniatáu i ragor o bobl ennill cyflog wrth ddysgu a chyflawni eu breuddwyd o ddod yn athrawon.

Trwy’r ddau lwybr, gall myfyrwyr gydbwyso eu hastudiaethau ag ymrwymiadau fel gweithio, gofalu a magu plant. I’r rhai ar y llwybr rhan-amser, mae cymorth ariannol ar gael gan y Brifysgol Agored yng Nghymru i helpu gyda ffioedd a chyllid a chostau byw sy’n gysylltiedig ag astudio, a thrwy grantiau Llywodraeth Cymru. I fyfyrwyr ar y llwybr cyflogedig, bydd grant hyfforddi gan Lywodraeth Cymru yn talu costau eich cwrs.

Ers i raglen TAR y Brifysgol Agored yng Nghymru ddechrau yn 2020, mae 301 o athrawon newydd wedi cymwyso a rhan helaeth ohonyn nhw bellach mewn swyddi dysgu llawn amser.

Roedd Sioned wrth ei bodd gyda’r broses o ddysgu ar-lein a chael cefnogaeth gyson staff y Brifysgol sydd â phrofiad o fwy na 50 mlynedd o arloesi gyda dysgu o bell.

Yn ogystal â chyswllt cyson gyda thiwtoriaid y Brifysgol Agored, myfyrwyr eraill a thiwtor personol yn ei hysgol, fe gafodd Sioned gyfle i ennill profiad o weithio mewn ysgol arall hefyd – ysgol fwy na’r Creuddyn.

“Ro’n i’n gweld pethau’n cael eu gwneud mewn ffordd wahanol,” meddai. “Roedd hynny’n rhoi mwy o opsiynau i fi wrth fynd yn ôl. Wnes i ddysgu lot o’r profiad yna.”

Gallwch chithau lwyddo fel Sioned

Mae’r rhaglen TAR Cymru ar gael i’w hastudio yn Gymraeg neu Saesneg ar gyfer darpar-athrawon cynradd ac uwchradd ond mae yna alw arbennig am ddarpar-athrawon fel Sioned, sydd eisiau dysgu mewn ysgolion uwchradd a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn y Brifysgol Agored, gallwch ddewis i fod yn athro uwchradd mewn Cymraeg, Gwyddoniaeth, Mathemateg, Saesneg, Saesneg gyda Drama neu Astudiaethau’r Cyfryngau (rhan amser yn unig), Dylunio a Thechnoleg a Chyfrifiaduraeth/TGCh.

Mae’r rhaglen wedi ei chynllunio’n benodol ar gyfer dysgu yng Nghymru a’r Cwricwlwm Cymreig, yn cael ei hachredu gan y Cyngor Gweithlu Addysg a’i monitro gan Estyn. Bellach, mae’n bosib astudio TAR gyda gradd C mewn TGAU, yn ogystal â gradd anrhydedd. Ewch i wefan y Brifysgol Agored yng Nghymru  am ragor o fanylion am ofynion mynediad.

Mae yna ddwy ffordd o ddilyn yn ôl eu traed Sioned a’r 300 arall a chael y fantais o gymryd cwrs sy’n gallu ffitio’n berffaith i’ch patrwm gwaith a’ch ffordd o fyw.

Llwybr Cyflogedig: Os ydych eisoes yn gweithio mewn ysgol, gynradd neu ysgol uwchradd mewn rôl nad yw’n addysgu, fel technegydd neu yn gynorthwy-ydd dosbarth, er enghraifft, gallwch chithau ddilyn y trywydd cyflogedig ac astudio wrth barhau yn eich swydd. Gall eich ysgol ddod yn bartner yn y cynllun ac anfon llythyr yn cefnogi eich cais.

Hyd yn oed os nad ydych yn gweithio mewn ysgol uwchradd, gallwch hyfforddi i fod yn athro mewn rhai pynciau penodol lle mae angen arbennig am athrawon a gall y Brifysgol Agored eich helpu i ddod o hyd i ysgol i’ch noddi.

Llwybr Rhan-amser: Y dewis arall yw dilyn cwrs rhan-amser. Gall hynny olygu astudio ar adegau sy’n gyfleus i chi, o amgylch eich cyfrifoldebau gwaith neu eich patrwm byw, yn magu teulu er enghraifft. Mewn rhai achosion, mae modd gwneud cais am fenthyciad myfyrwyr neu grant cynnal i’ch helpu.

Un ysgol sydd wedi manteisio ar y cyfle i gydweithio gyda’r Brifysgol Agored ydy Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin.

“Cynigia’r cydweithio gyda’r Brifysgol Agored gyfleoedd i ni gynyddu ein capasiti o ran staffio, ac mae hyn wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn y pynciau prin, er enghraifft gwyddoniaeth” meddai Rhian Carruthers, Pennaeth Cynorthwyol yn Ysgol.

“Er ei fod yn gwrs ‘o bell’, mae perthynas weithio dda iawn wedi datblygu rhyngom ni a’r Bartneriaeth, felly nid yw’n teimlo’n ‘bell’ o gwbl! Caiff ein myfyrwyr y gorau o ddau fyd – arweiniad a chefnogaeth gan y brifysgol ar eu gwaith academaidd, a’r cyfle i brofi sut beth yw bod yn athro dros gyfnod estynedig, gan wreiddio yn yr ysgol dan law mentor a Chydlynydd profiadol.

“Rydyn ni’n falch iawn o fod yn ysgol arweiniol, ac yn ffyddiog iawn y bydd y rhaglen hon yn gallu agor drysau i nifer fawr na chawsant y cyfle i ymuno â’r proffesiwn cyn hyn.”

 

Noson Agored – yr awr fawr

Fe allai awr ar nos Lun, 26 Chwefror eleni fod yn allweddol i unrhyw un sy’n breuddwydio am y cyfle i fod yn athro.

Ar-lein, rhwng 7 ac 8 y noson honno fe fydd cyfle i gael blas go iawn o’r profiad o hyfforddi trwy lwybrau cyflogedig a rhan-amser y Brifysgol Agored – yr unig brifysgol yng Nghymru sy’n cynnig y cyfleoedd hynny.

Gallwch gofrestru ar gyfer y noson agored ar-lein i glywed sut y gallech chithau ddod yn athro a dysgu o brofiad myfyrwyr presennol, graddedigion a thîm y Brifysgol Agored.

Yn ystod y sesiwn ar Microsoft Teams, bydd cyfle hefyd i chi ofyn cwestiynau.

Cofrestrwch nawr.

Gallwch hefyd ddysgu rhagor am gyrsiau TAR y Brifysgol agored ar y wefan, gyda manylion am y gofynion, y cwrs ei hun, sut a phryd i wneud cais.