Anturiaethau i’r Teulu y Pasg hwn gydag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

Castell Powys

Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd, felly os ydych chi’n gobeithio manteisio ar y diwrnodau cynhesach, brafiach y Pasg hwn, yna dewch draw i safleoedd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.

 

Gydag amrywiaeth o lwybrau anturus yn dwyn y thema Pasg, sy’n dathlu natur, hanes a harddwch, pa bynnag safle y byddwch chi’n ymweld ag ef, rydych chi’n siŵr o gadw’ch anturiaethwyr bach yn brysur am oriau.Noder: Prisiau mynediad arferol yn daladwy (am ddim i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol), a £3 fesul llwybr sy’n cynnwys taflen llwybr y Pasg, clustiau cwningen, ac wy siocled neu fegan neu ‘Rhydd Rhag Siocled’.

 

Gogledd Cymru

 

Tŷ a Gardd Plas Newydd | 23 Mawrth – 1 Ebrill

Ymunwch â’r disgo gwenyn, rhowch eich sgiliau hopian dan brawf, a chynlluniwch ddillad sy’n taflu cysgod dros y glöyn byw prydferthaf – tybed sawl gweithgaredd hwyliog y gallwch chi ei gwblhau wrth i chi ddilyn y llwybr y Pasg anturus hwn i ennill eich gwobr felys?

 

Castell Penrhyn a’r Ardd | 23 Mawrth – 1 Ebrill 

Dewch i chwilota am fywyd gwyllt y Pasg hwn wrth i chi edrych i fyny fry ac yn isel iawn am greaduriaid y coetir a’r llyffant helyg enfawr sy’n byw yn yr Ardd Orsiog. Cwblhewch ddeg her wahanol ar hyd y ffordd er mwyn ennill eich wy siocled.

 

Gardd Bodnant | 29 Mawrth – 1 Ebrill

 Dilynwch y cliwiau i ddysgu mwy am y trychfilod sy’n byw yn y lle arbennig hwn. A allwch chi neidio fel sioncyn y gwair neu helpu gwenynen i ddod o hyd i’r blodyn cywir? Rydych yn siŵr o fod wrth eich bodd yma gyda’ch teulu wrth i chi gwblhau’r gweithgareddau’r Pasg a fydd yn arwain at eich gwobr.

 

Castell a Gardd y Waun | 25 Mawrth – 7 Ebrill

A oes gennych chi’r sgiliau i ddod yn farchog yng Nghastell y Waun? Rhowch eich sgiliau targedu dan brawf, cymerwch ran mewn ras ferfa, adeiladwch ac amddiffynnwch eich castell eich hun, a chwblhewch yr her olaf i orffen eich cyrch ac ennill eich gwobr siocled.

 

Plas yn Rhiw, Penrhyn Llŷn | 29 Mawrth – 1 Ebrill

Crwydrwch drwy’r coetir a’r ardd hon drwy ddilyn llwybr wy Pasg yn dwyn y thema natur. Dilynwch y cliwiau a chwblhewch yr heriau a fydd yn eich addysgu am y gwahanol adar sy’n byw yn y lle hwn.

 

Canolbarth Cymru

 

Castell a Gardd Powis | 23 Mawrth – 5 Ebrill

 Ymunwch â’r llwybr wy Pasg cyffrous hwn a chewch ddysgu am gylchredau bywyd saith anifail gwahanol. Osgowch y gweoedd pryf cop ar hyd y Llwybr Ywen, helpwch wenynen i gasglu ei phaill, a dilynwch hyd oes llyffant – a ydych chi’n ddigon dewr i drochi’ch dwylo mewn grifft llyffant, tybed?

 

Llanerchaeron | 20 Mawrth – 8 Ebrill

 Wrth i’r gwanwyn ddeffro’r ystad draddodiadol hon, paratowch i hopian a sgipio eich ffordd drwy weithgareddau natur hwyliog a fydd yn arwain at eich gwobr o wy Pasg. O gwrs rhwystrau i helfa cwningen gudd, sawl un allwch chi eu cwblhau?

 

De Cymru

 

Gardd Goedwig Colby | 29 Mawrth – 1 Ebrill

Mae yna ddyffryn coediog, cudd yn llawn rhyfeddodau yng Ngardd Goedwig Colby y Pasg hwn. Dewch i weld y llannerch sy’n edrych i fyny tua’r wybren, adeiladwch ffau yng nghysgod y coed, neidiwch ar draws y cerrig camu enfawr, neu dilynwch lwybr wy Pasg sy’n dathlu uchafbwyntiau’r ardd yn ystod y gwanwyn.

 

Dinefwr | 23 Mawrth – 1 Ebrill

Ymunwch â llwybr wy Pasg sy’n dathlu diwylliant cyfoethog Dinefwr drwy chwarae creadigol, celf, a pherfformiad. Dewch draw i greu darn o gelf enfawr ar y lawnt, ymweld â’r orsaf gerddoriaeth, adeiladu ffau, a chreu eich portread Dinefwr eich hun wrth i chi wisgo’ch het greadigol a defnyddio gwahanol offer.

 

Gerddi Dyffryn | 23 Mawrth – 2 Ebrill

Dewch draw i wneud atgofion oes wrth i chi ymuno â helfa Wy Pasg a gwneud eich ffordd at wobr felys. Rhowch eich sgiliau targedu dan brawf wrth i chi daflu moron i mewn i geg y gwningen, chwarae gêm o kerplunk wyau yn ddigynnwrf, ac wynebu’ch cystadleuydd mewn ras wy ar lwy gyda rhwystrau.

 

Tŷ Tredegar | 25 Mawrth – 1 Ebrill

 Trowch eich llaw at gemau’r ffair, chwiliwch am y peillwyr sy’n cuddio yn yr ardd, dilynwch y ddrysfa sydd wedi’i gosod ar y lawnt, ac ewch benben â’ch cystadleuwyr mewn ras gwningen – cewch oriau o hwyl gyda’r teulu oll wrth i chi ymlwybro ar hyd y llwybr wy Pasg yn Nhredegar y gwanwyn hwn.

 

Croesawu’r gwanwyn

Gwisgwch eich esgidiau crwydro a dathlwch ddechrau’r gwanwyn yn y casgliad anhygoel o erddi a pharciau sydd dan ofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru. O derasau Eidalaidd a gerddi muriog i goedgerddi ac ystadau gwledig, mae yna dros 500 o flynyddoedd o hanes Cymru yn aros amdanoch chi.

Rhwng mis Mawrth a mis Mai, cewch fwynhau sioeau hyfryd o gennin Pedr lliwgar, clychau’r gog cain, a blodau bendigedig, a hynny i gyfeiliant swynol yr adar.

 

I ddod o hyd I ragor o bethau cyffrous i’w gwneud yn eich ardal chi

https://www.nationaltrust.org.uk/cy/visit/wales/family-friendly