Mae Addysg Oedolion Cymru yn ceisio ehangu ei ddarpariaeth Iaith Gymraeg a Dwyieithrwydd, drwy recriwtio tiwtoriaid dwyieithog i addysgu mewn amrywiaeth eang o feysydd pwnc.
Mae Addysg Oedolion Cymru (AOC), y sefydliad cenedlaethol yng Nghymru ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned, wedi ymrwymo i ehangu cyfranogiad, hyrwyddo dinasyddiaeth weithgar a datblygu sgiliau ar gyfer dysgwyr a thiwtoriaid. Mae’r ymrwymiad yma yn ceisio chwarae rhan weithredol i gyrraedd Cymraeg 2050, sef cefnogi cynllun Llywodraeth Cymru i weld nifer y bobl sy’n medru mwynhau siarad a defnyddio’r iaith Gymraeg yn cyrraedd miliwn erbyn 2050.
Mae AOC yn annog addysgu dwyieithog yn yr ystafell ddosbarth ac ar draws y cwricwlwm. Gall hyn olygu cyfarch ac esbonio rhai agweddau o’r cwrs yn Gymraeg, neu gael sgyrsiau gyda’r dysgwyr am y pynciau a gynigir. Un o’r cyrsiau hyn yw ‘Yr Iaith Gymraeg a Thirwedd’, ac mae un dysgwr Dolly Yang newydd gwblhau’r cwrs pedair wythnos dan arweiniad James Berry, Hyrwyddwr Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog AOC.
Dywed Dolly wrthym:
“Rwyf yn un o’r myfyrwyr ar y cwrs ‘Yr Iaith Gymraeg a Thirwedd’ gyda James Berry. Mae’r dosbarth newydd orffen ein cwrs 4 wythnos, ac rydym wir wedi ei fwynhau, cymaint, fel dosbarth rydym wedi perswadio James i redeg dosbarth arall am Hanes yr Iaith Gymraeg, er mwyn medru parhau i ddysgu mwy am hyn gydag ef.”
“Dechreuais ddysgu Cymraeg tua ugain mlynedd yn ôl, ond ni allwn barhau oherwydd fy ymrwymiadau academaidd eraill. Ond, mae dosbarth James wedi ailgynnau fy niddordeb yn yr iaith Gymraeg, ac rwy’n awyddus i gymryd y pwnc hwn mwy o ddifrif. Diolch yn fawr iawn i Addysg Oedolion Cymru, am gynnig cyrsiau sy’n rhoi mwy o ddyfnder er mwyn i ddysgwyr gael y cyfle i astudio eu pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg.”
Mae Dolly ymhlith y miloedd o bobl o bob rhan o Gymru sy’n dysgu gydag Addysg Oedolion Cymru yn flynyddol. Mae cefnogaeth ei thiwtor i annog defnydd o’r Gymraeg yn y dosbarth, waeth pa mor fawr neu fach, yn rhan o’r daith i ddysgwyr wrth anelu at y nod Cymraeg 2050. Wrth i AOC geisio adlewyrchu sefyllfa ddwyieithog y Gymru fodern a chwarae ei ran i gyrraedd y targed cenedlaethol o 1 miliwn o siaradwyr, mae yna angen cynyddol i recriwtio mwy o diwtoriaid sy’n gallu darparu pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Fel yr ychwanega James Berry:
“Mae AOC yn chwilio am diwtoriaid sy’n medru addysgu pynciau ar draws ystod y ddarpariaeth ledled Cymru. O gelfyddydau hamdden a breiniol i gymwysterau addysg a chwnsela, yn ogystal â llythrennedd a rhifedd. Y mwyaf eang yw medr ein tiwtoriaid, y mwyaf y gallwn ei gynnig o ran amrywiaeth cyrsiau. Mae AOC yn sefydliad sy’n rhoi gweithwyr wrth wraidd ei holl benderfyniadau. Mae ei natur ddemocrataidd a’i hegwyddorion sylfaenol yn golygu bod llais pawb yn cael ei glywed yn y broses o wneud penderfyniadau.”
“Ymfalchïa AOC yn y ffaith ei fod yn cefnogi tiwtoriaid i ddatblygu yn y maes addysgol drwy gyrsiau mewnol, DPP a mentora. Datblygodd AOC fframwaith cefnogol ar gyfer ei holl diwtoriaid. Nid yw medru siarad Cymraeg yn golygu nad yw’n bosibl i chi fod yn diwtor i ni. Os ydych yn dymuno, bydd AOC yn rhoi cymorth a chefnogaeth i chi fedru dechrau eich taith dysgu iaith drwy ein partneriaeth gyda Dysgu Cymraeg a DPP mewnol. Nod AOC yw cefnogi ei holl diwtoriaid i ychwanegu’r dimensiwn ‘Cymraeg’ wrth iddynt gyflwyno’u pwnc.”
Mae AOC angen tiwtoriaid sy’n angerddol am addysgu, sy’n gallu ysbrydoli eraill, ac sy’n gyfforddus yn cyflwyno dosbarthiadau i oedolion drwy gyfrwng y Gymraeg, Saesneg neu’n ddwyieithog, naill ai yn yr ystafell ddosbarth neu ar-lein. Fel sefydliad, byddem wrth ein bodd pe byddech yn cysylltu os ydych yn diwtor yn hyddysg yn yr iaith Gymraeg gyda maes pwnc arbenigol. Os oes gennych ddiddordeb ac eisiau derbyn mwy o wybodaeth, cysylltwch gyda James Berry, ein Hyrwyddwr Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog yn james.berry@addysgoedolion.cymru. Bydd James yn croesawu’r cyfle i drafod y cyfleoedd posibl yn fanylach gyda chi.
I ddarganfod mwy am Addysg Oedolion Cymru, ewch i’n gwefan yn addysgoedolion.cymru