Roedd Michael Rees yn hollol hapus yn ei waith yn dechnegydd gwyddoniaeth mewn ysgol uwchradd … ond yn gwybod y gallai wneud mwy.
Roedd yn gweld yr athrawon yn ysbrydoli plant yn eu pynciau ac roedd yntau am wneud yr un peth.
O fewn dwy flynedd, diolch i’r Brifysgol Agored, mae wedi gwireddu ei freuddwyd a chamu i fod yn athro yn y sector addysg uwchradd.
Mae bellach yn addysgu gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn mwynhau pob munud. “Rwy’n teimlo’n gryf iawn tros fioleg, tros wyddoniaeth, ac mae cael y cyfle i rannu hwnna gyda’r genhedlaeth nesa’ yn fraint enfawr,” meddai.
Doedd dim rhaid iddo aberthu chwaith; diolch i gynllun hyfforddi unigryw Llwybr Cyflogedig y Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) gan y Brifysgol Agored yng Nghymru, roedd yn gallu parhau i weithio a chael cyflog ac ennill ei TAR a Statws Athro Cymwysedig ar yr un pryd.
Mae’r Brifysgol Agored yn cynnig rhaglen TAR ledled Cymru a hi yw’r unig brifysgol yng Nghymru i gynnig y llwybrau arloesol rhan-amser a chyflogedig (mewn swydd). Dyw TAR traddodiadol ddim yn bosib i lawer o bobl, felly mae’r llwybrau TAR cyflogedig a rhan-amser yn caniatáu i ragor o bobl ennill cyflog wrth ddysgu a chyflawni eu breuddwyd o ddod yn athrawon.
Trwy’r ddau lwybr, gall myfyrwyr gydbwyso eu hastudiaethau gydag ymrwymiadau fel gweithio, gofalu a rhianta. Mae cymorth ariannol ar gael gan y Brifysgol Agored yng Nghymru, i helpu gyda ffïoedd a chyllido a chostau byw sy’n ymwneud ag astudio, a thrwy grantiau Llywodraeth Cymru.
Michael yw un o’r grŵp cyntaf o athrawon i gymhwyso drwy raglen TAR Cymru y Brifysgol Agored sydd wedi ei anelu at ei gwneud yn hawdd i bobl gamu ymlaen a chyflawni eu dyhead i fod yn athro, heb orfod rhoi’r gorau i’w gwaith neu newid eu bywydau yn llwyr.
Fe fu’r broses yn esmwyth iawn, meddai Michael, gyda holl brofiad y Brifysgol Agored yn gefn iddo – mae yna 15,500 o fyfyrwyr ar lyfrau’r brifysgol yng Nghymru ac mae ganddyn nhw fwy na 50 mlynedd o brofiad o arloesi gyda dysgu o bell.
Yn ogystal â chyswllt cyson gyda thiwtoriaid y Brifysgol Agored a myfyrwyr eraill, roedd gan Michael hefyd fentor personol yn ei ysgol a chyfle i ennill profiad ymarferol o ddysgu.
“Oedd e byth yn teimlo ’mod i ar ben fy hun,” meddai. “Oedd y cyswllt yna, oedd wastad llaw i roi cymorth os oedd eisie. Rydw i wedi datblygu’n bersonol a nawr rydw i’n athro, mae hwnna’n rhywbeth fi yn browd iawn ohono.”
Gallwch chithau lwyddo fel Michael
Mae’r rhaglen TAR Cymru ar gael i’w hastudio yn Gymraeg neu Saesneg ar gyfer darpar-athrawon cynradd ac uwchradd ond mae yna alw arbennig am ddarpar-athrawon fel Michael, sydd eisiau dysgu mewn ysgolion uwchradd a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn y Brifysgol Agored, gallwch ddewis i fod yn athro uwchradd mewn Cymraeg, gwyddoniaeth, mathemateg, Saesneg, Saesneg gyda drama neu astudiaethau’r cyfryngau ac, wedi Hydref 2023, dylunio a thechnoleg a chyfrifiadura/TGCh.
Mae yna 105 o bobl eisoes wedi manteisio ar gyrsiau unigryw’r Brifysgol Agored a llawer ohonyn nhw bellach wedi cael swyddi addysgu mewn ysgolion.
Mae yna ddwy ffordd o ddilyn yn ôl eu traed nhw a Michael a chael y fantais o gymryd cwrs sy’n gallu ffitio’n berffaith i’ch patrwm gwaith a’ch ffordd o fyw.
Cyflogedig: Os ydych eisoes yn gweithio mewn ysgol, yn dechnegydd neu yn gynorthwy-ydd dosbarth, er enghraifft, gallwch chithau ddilyn y trywydd cyflogedig ac astudio wrth barhau yn eich swydd. Gall eich ysgol ddod yn bartner yn y cynllun ac anfon llythyr yn cefnogi eich cais.
Hyd yn oed os nad ydych yn gweithio mewn ysgol, gallwch hyfforddi i fod yn athro mewn rhai pynciau penodol lle mae angen arbennig am athrawon a gall y Brifysgol Agored eich helpu i ddod o hyd i ysgol i’ch noddi. Yn y ddau achos bydd grant hyfforddi gan Lywodraeth Cymru yn talu am gostau eich cwrs.
Rhan-amser: Y dewis arall yw dilyn cwrs rhan-amser. Gall hynny olygu astudio ar adegau sy’n gyfleus i chi, o amgylch eich cyfrifoldebau gwaith neu eich patrwm byw, yn magu teulu er enghraifft. Mewn rhai achosion, mae modd gwneud cais am fenthyciad myfyrwyr neu grant cynnal i’ch helpu.
“Mae ymchwil yn dangos bod rhaglen TAR Cymru yn ehangu mynediad ac amrywiaeth y proffesiwn addysgu ac rydyn ni’n wirioneddol falch o fod yn rhan o hynny,” meddai Richard Hatwood, Pennaeth Ysgol Gynradd yr Holl Saint yng Ngresffordd, Wrecsam.
Yn ogystal â sicrhau bod ei ysgol yn cefnogi’r cynllun mae ef hefyd yn Is Gadeirydd Pwyllgor Partneriaeth ITE y Brifysgol Agored. “Mae’r Bartneriaeth yn flaengar yn eu ffordd o weithio ac yn cynnig cyfleoedd dysgu sy’n cyfoethogi cymdeithas,” meddai.
Noson Agored – cyfle i gael blas
Fe fydd nos Fercher, 15 Chwefror, 7.00 pm yn noson fawr i unrhyw un sy’n breuddwydio am y cyfle i fod yn athro.
Dyna pryd y bydd modd cael blas go iawn o’r profiad o hyfforddi trwy lwybrau cyflogedig a rhan-amser y Brifysgol Agored – yr unig brifysgol yng Nghymru sy’n cynnig y cyfleoedd hynny.
Gallwch gofrestru ar gyfer y noson agored ar-lein i glywed sut y gallech chithau ddod yn athro a dysgu o brofiad myfyrwyr presennol, graddedigion a thîm y Brifysgol Agored.
Yn ystod y sesiwn ar Microsoft Teams, bydd cyfle hefyd i chi ofyn cwestiynau.
Gallwch hefyd ddysgu rhagor am gyrsiau TAR y Brifysgol agored ar y wefan, gyda manylion am y gofynion, y cwrs ei hun, sut a phryd i wneud cais.
Os oes gennych ymholiadau, dyma’r e-bost:
TAR-Cymru@open.ac.uk
Noson Agored: nos Fercher,
15 Chwefror, 7.00pm