Mae Age Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr i fod yn rhan o brosiect newydd cyffrous. Rydyn ni’n chwilio am bobl i fod yn Llysgenhadon Hawliau Dynol.
Rydyn ni eisiau cychwyn mudiad lle gall pobl hŷn deimlo’n hyderus wrth drafod hawliau dynol – a sut y gallant fynnu eu hawliau.
Bydd ein Llysgenhadon yn cynnal cyfarfodydd yn eu cymunedau lleol er mwyn cynnig gwybodaeth, a chychwyn sgyrsiau am hawliau dynol.
Ein neges allweddol yw bod hawliau dynol yn hawliau gydol oes. Mae hawliau dynol yn rhan annatod o’n bywydau, gan effeithio ar ble rydym yn byw a sut rydym yn treulio ein hamser. Mae gennym oll yr hawl i fyw gydag urddas, i wneud ein penderfyniadau ein hun, ac i ddisgwyl bod ein barn yn cael ei barchu.
Byddwn yn cynnig hyfforddiant i’n Llysgenhadon, ac yn darparu’r deunydd fydd angen arnoch i gynnal eich cyfarfodydd. Gobeithiwn fydd ein gwirfoddolwyr yn mwynhau hwyluso’r sesiynau hyn. Gobeithiwn fydd y cyfarfodydd yn gyfle i chi ddatblygu eich sgiliau a chwrdd â phobl newydd.
Dywedodd un o’n gwirfoddolwyr ei bod hi wedi dewis dod yn Llysgennad oherwydd ei fod yn “hawdd cymryd ein hawliau dynol yn ganiataol, ac mae’n hawdd camddeall beth yw ein hawliau dynol. Ond mae nifer o bobl wedi brwydro er mwyn i ni gael yr hawliau hyn, ac mae angen i ni eu hamddiffyn ar bob cyfrif.”
Meddai hi, “Fel aelod o gymuned ethnig leiafrifol mae hawliau dynol yn fy ngalluogi i i fyw fy mywyd gydag urddas a pharch. Mae hawliau dynol yn rhoi cyfle i mi fod yn rhan o’r gymuned a’r wlad, a chyfrannu tuag atynt gyda chydraddoldeb a thegwch. Rydw i’n teimlo felly ei fod yn bwysig i atgoffa pawb o’r hawliau hyn er mwyn i ni fedru eu hamddiffyn nhw am byth”.
Os hoffech chi fod yn Llysgennad, cysylltwch â ni drwy e-bostio humanrights@agecymru.org.uk.