Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gwahodd pobol y sir i bleidleisio dros eu hoff brosiect ysbrydoledig.
Mae’r 10 prosiect ar y rhestr fer wedi derbyn cymorth gan raglen Cynnal y Cardi – sef cynllun LEADER Ceredigion 2014-2020 sydd wedi cefnogi dros gant o brosiectau dros gyfnod y rhaglen.
Mae’r prosiectau’n amrywio o fentrau cymdeithasol, diwylliannol a chymunedol, ac mae pob un wedi cael effaith gadarnhaol ar y gymuned a datblygu gwledig.
Bydd modd taro pleidlais isod tan 13 Mehefin, ac yna bydd y enillydd Gwobr Ysbrydoli Cynnal y Cardi: Barn y Bobol yn cael ei ddatgelu mewn seremoni wobrwyo a dathliad yn Llanbed ar 14 Mehefin.
Y prosiectau
Dyma ychydig o hanes pob un o’r prosiectau a gyrhaeddodd y rhestr fer:
Pwrpas prosiect Cegin Prydiau Plant gan Jig-so oedd rhoi cefnogaeth a mynediad i brydau bwyd i deuluoedd sy’n byw mewn ardaloedd o dlodi ac amddifadedd yn ystod gwyliau ysgol plant, a gwneud hynny trwy roi hyfforddiant ar goginio prydau maethol ar gyllideb.
Cyfres o berfformiadau byw oedd Clera Ceredigion. Roedd y prosiect perfformio hwn gan Arad Goch yn cydnabod ac yn dathlu treftadaeth y sir yn ogystal â chryfderau a digwyddiadau’r gymuned fodern, trwy rannu chwedlau a straeon lleol a chaneuon traddodiadol ochr yn ochr â straeon a newyddion cyfredol a diweddar.
Sefydlu 8 o ganolfannau gweithgareddau lles oedd nod Arts 4 Wellbeing gyda’r prosiect Cymunedau Caredig. Cafodd pecynnau hyfforddi a grymuso eu cyflwyno i’r cymunedau, oedd yn gymorth i ddatblygu iechyd a lles meddylion a chorfforol pobol, yn ogystal â chryfhau ymwneud pobol â’i gilydd.
Prosiect ôl-Covid oedd Cynnal Llanddewi Brefi, i ddatblygu cyfarpar TG o’r radd flaenaf er mwyn helpu mudiadau a sefydliadau’r ardal i ffynnu a datblygu, yn ôl eu hanghenion. Cafodd y prosiect ei arwain gan Gyngor Cymuned Llanddewi Brefi.
Deilliodd prosiect Dyma Ni o fwlch yn y gefnogaeth i bobl ifanc ag anableddau yng Ngheredigion. Datblygodd RAY Ceredigion a Green Rocket Futures sesiynau blasu ym meysydd garddio, gweithgareddau amgylcheddol awyr agored, coginio, gwaith coed, gwaith helyg, celf a chrefft i ganfod sgiliau a diddordebau’r cyfranogwyr.
Prosiect peilot gan Iechyd a Gofal Gwledig Cymru oedd Gofal Cardi. Gwnaed ymchwil i weld a yw cymunedau gwledig eraill yn gallu defnyddio pecyn cymorth, a ddatblygwyd gan Solva Care, fel sail i efelychu a dyblygu’r model gofal cymunedol llwyddiannus sydd ynddo ar hyn o bryd yn Solva, Sir Benfro
Roedd Menter Mynyddoedd Cambrian – Parc Hydwythdedd Cymunedol a Natur yn brosiect cydweithredu rhwng Sir Gaerfyrddin, Powys a Ceredigion. Roedd yn ymwneud â hyrwyddo cyfleoedd y mae tirwedd, natur, diwylliant a threftadaeth Mynyddoedd Cambrian yn ei gynnig i gefnogi datblygiad cymunedol a helpu i sicrhau rhinweddau arbennig yr ardal.
Fel rhan o gynllun i adnewyddu Neuadd Bentref Aberporth, roedd prosiect peilot Oergell Gymunedol Aberporth yn cefnogi gosod oergell gymunedol, er mwyn cefnogi ystod o bobl helpu i fynd i’r afael â thlodi ac arwahanrwydd yng nghefn gwlad.
Cynorthwyo’r gymuned leol i brynu tafarn y Vale oedd nod Menter Tafarn y Dyffryn. Cynhaliwyd ymgyrch hyrwyddo i rannu stori’r fenter gydweithredol yn ystod y broses o godi arian, a gwnaed astudiaeth dichonoldeb i ddadansoddi’r berthynas gadarnhaol bosibl rhwng y Vale â chynnal yr iaith Gymraeg a’r diwylliant lleol yn Nyffryn Aeron.
Nod prosiect Aberteifi oedd defnyddio technoleg synhwyro Rhyngrwyd y Pethau (Internet of Things) i gynnal amrywiaeth o arbrofion yn yr ardal. Roedd y rhain yn cynnwys mesur nifer yr ymwelwyr â siopau; synwyryddion mewn mannau llwytho/anabl; monitro lefel dŵr yr afon ar gyfer rhybuddio am amddiffynfeydd llifogydd, a mwy.
Cefndir
Mae LEADER yn ymagwedd leol at ddatblygu gwledig. Ei nod yw darparu gweithgareddau sy’n cefnogi cefn gwlad a chymunedau gwledig, gan annog rheolaeth gynaliadwy o amaethyddiaeth a’r amgylchedd. Mae’r cynllun wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.