
‘Dylan a Nansi’ – Mali O’Donnell a Siôn Emyr (Hawlfaint – Kristina Banholzer)
Mae Bara Caws yn edrych ymlaen yn fawr at deithio ein cynhyrchiad nesaf, Cariad yn Oes y Gin gan Chris Harris.
Comedi dywyll am brofiadau pâr ifanc, bohemaidd a gwrthryfelgar wrth iddynt geisio bywyd newydd, anturus ydy Cariad yn Oes y Gin. Dilynwn eu taith o’u cartrefi yng nghefn gwlad Cymru i ganol St. Giles yn ‘underbelly’ Llundain fawr.
Fel cwmni mae Bara Caws yn awyddus i sicrhau bod dramodwyr o bob math yn cael cyfle i ddweud eu dweud, a rhyw 3 mlynedd yn ôl fe lansiwyd prosiect Sgen ti Syniad? yn galw am sioeau i 1 – 2 actor.
Bu i’r cwmni weithio ar 3 drama fer yn ystod cyfnod clo Cofid-19, gafodd eu ffilmio i’w dangos yn rhithiol, a Cariad yn Oes y Gin yw’r gyntaf i gael ei datblygu ar gyfer ei theithio.
Mae Chris Harris yn lais newydd i Bara Caws, ac mae ei ymroddiad a’i frwdfrydedd heb eu hail.
Mae hefyd wedi rhoi cyfle i ni gomisiynu Mari Mathias i gyfansoddi cerddoriaeth yn arbennig ar gyfer y sioe, ac mae Cêt Haf, un o’n coreograffwyr mwyaf cyffrous, hefyd yn rhan o’r cyfanwaith greadigol.
Mae arddull hon yn debyg i rhyw fath o ‘anterliwt’. Mae’n ddoniol, yn drasig, yn egnïol iawn, a’n cynnwys cerddoriaeth fyw – y cymysgedd perffaith ar gyfer un o sioeau cymunedol Bara Caws.
Mae cast ardderchog i’n cynhyrchiad yn Siôn Emyr a Mali O’Donnell, gyda Betsan Llwyd yn cyfarwyddo.
Mi fydd y cynhyrchiad arbennig hwn yn teithio o amgylch cymunedau Cymru rhwng 28 Chwefror a 25 Mawrth. Mae manylion y daith ar gael, a sut i archebu tocynnau, i’w gweld ar wefan a chyfryngau cymdeithasol Bara Caws.
(Llun: Kristina Banholzer)