Mae’r anturiaethwr brwd, Richard Parks, y naturiaethwr Iolo Williams a seren y gyfres Game of Thrones, Iwan Rheon ymysg y rhai sydd wedi rhoi eu cefnogaeth i ymgyrch genedlaethol i ddatblygu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer yr amgylchedd naturiol yng Nghymru.
Mae ymgyrch Natur a Ni yn cael ei arwain gan Cyfoeth Naturiol Cymru – y sefydliad sy’n gwarchod ein hamgylchedd naturiol ar ran Llywodraeth Cymru – ac mae’n dechrau gyda ‘sgwrs genedlaethol’ dros 10 wythnos a lansiwyd ar 17 Chwefror ac sy’n parhau hyd ddiwedd Ebrill.
Mae rhan fawr o’r sgwrs yn digwydd ar-lein – ar www.naturani.cymru – a chafwyd mwy na 40,000 o ymwelwyr i’r wefan yn ystod chwech wythnos gyntaf yr ymgyrch. Gydag ychydig wythnosau o’r ymgyrch yn weddill, mae pobl Cymru unwaith eto’n cael eu hannog i gymryd rhan ac i ddweud eu dweud am ddyfodol ein hamgylchedd naturiol.
Mae’r cyn-chwaraewr rygbi, Richard Parks, sydd bellach yn awdur, yn creu ffilmiau ac yn anturiaethwr, yn llysgennad i raglen Natur a Ni – rôl sydd wedi cynnwys ymweld ag ysgolion a grwpiau cymunedol i annog pobl i gymryd rhan.
“Mae Natur a Ni yn ymgyrch i gynnwys pawb yng Nghymru mewn trafodaeth agored a didwyll am ddyfodol ein hamgylchedd naturiol, ac mae’n galonogol gweld pobl o bob cefndir yn cymryd rhan,” meddai Parks.
“Mae materion megis newid hinsawdd a’r argyfwng natur yn llawer uwch ar restr flaenoriaethau pobl erbyn hyn, ond mae’r newidiadau sydd angen i ni eu gwneud yn mynd i effeithio ar bawb. Dyna pam mae hi mor bwysig i bobl Cymru rannu eu barn ynglŷn â’r ffordd y dylem fynd i’r afael â’r heriau hyn at y dyfodol.
“Rydw wedi dweud wrth bobl yn aml fod natur wedi achub fy mywyd. Ar ôl cael fy ngorfodi i ymddeol o fyd rygbi, roedd mynd allan i’r awyr agored a phrofi’r hyn sydd gan natur i’w gynnig yn drawsnewidiol o safbwynt fy iechyd meddwl. Roedd nifer ohonom yn teimlo’r un fath yn ystod y cyfnod clo, ond mae perthynas pawb gyda natur yn wahanol a dyna pam ein bod ni eisiau casglu ystod eang o safbwyntiau o bob rhan o Gymru.”
Y nod yw annog cymaint o bobl â phosibl i rannu eu barn am eu perthynas gyda’r amgylchedd naturiol. Mae Natur a Ni hefyd yn gofyn pa gamau sydd angen i ni eu cymryd nawr, fel gwlad ac fel unigolion, i ofalu am yr amgylchedd naturiol er budd cenedlaethau’r dyfodol. Mae’n edrych ar feysydd newydd allweddol, gan gynnwys ein systemau bwyd, ynni a chludiant, yn ogystal â gofyn i bawb sy’n cymryd rhan i rannu eu gweledigaeth eu hunain am ddyfodol yr amgylchedd naturiol.
Mae’n hawdd cymryd rhan. Gall pobl ddarllen gwybodaeth am yr argyfyngau hinsawdd a natur, dweud eu dweud trwy lenwi holiadur, neu gofrestru ar gyfer digwyddiadau ar-lein, gan gynnwys dwy weminar ryngweithiol ar 27 a 28 Ebrill. Mae Natur a Ni yn croesawu unrhyw un yng Nghymru sy’n awyddus i ymuno, ond rydym yn arbennig o awyddus i glywed barn pobl ifanc, sef cenhedlaeth y dyfodol sydd â chyfle i siapio’r modd y mae cymdeithas yn ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur yr ydym ni’n eu hwynebu fel cenedl ac fel planed.
Am ragor o fanylion ac i gymryd rhan, ewch i www.naturani.cymru