Byw ac astudio trwy’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae’r cyfleoedd a’r bywyd sydd gan Brifysgol Aberystwyth i’w gynnig yn gwbl unigryw, ac ers ail agor Neuadd Pantycelyn, Aber yw’r lle i fod i fyfyrwyr Cymraeg. Mae yma gymuned o fyfyrwyr sy’n gyfeillgar a chroesawgar, ac mae myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth yn byw bywydau cyffrous a boddhaus.

Graddau a modiwlau

Rydym yn cynnig llawer o gyfleoedd i astudio trwy’r Gymraeg, ac mae ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg ymhlith yr ehangaf yng Nghymru. Rydym yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr sy’n rhugl yn ogystal â’r rhai sy’n llai hyderus neu’n ddysgwyr. Mae’r ddarpariaeth israddedig yn amrywio o gyrsiau sy’n cynnig ambell fodiwl trwy gyfrwng y Gymraeg, i eraill lle mae modd astudio’r cwrs cyflawn yn Gymraeg. Mae’n bosib i chi astudio modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg hyd yn oed os ydych yn astudio yn Saesneg yn bennaf.

Ysgoloriaethau

Mae ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio trwy’r Gymraeg.  Hefyd, bydd myfyrwyr sy’n astudio dros bum credyd y flwyddyn drwy’r Gymraeg yn derbyn Ysgoloriaeth Astudio drwy’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth yn awtomatig.

Ysgoloriaethau Prif Ysgoloriaeth – £1,000 y flwyddyn

Mae’r cynllun Prif Ysgoloriaethau ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau gradd sy’n cynnwys o leiaf 240 credyd o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg – sef o leiaf 80 credyd drwy’r Gymraeg ym mhob blwyddyn.

Ysgoloriaethau Cymhelliant – £500 y flwyddyn

Mae’r cynllun Ysgoloriaethau Cymhelliant ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau gradd sy’n cynnwys o leiaf 120 credyd o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn pwnc cymwys, o leiaf 40 credyd drwy’r Gymraeg ym mhob blwyddyn.

Lleoliad

Heb amheuaeth, mae Aberystwyth yn un o drefi harddaf Cymru ac mae’r lleoliad hwn yn rhan mawr o beth sy’n gwneud Aber yn Aber. O fynd am farbeciw ar y traeth yn eich wythnos gyntaf i neidio i’r môr ar eich noson olaf, mae lleoliad Aberystwyth yn un o’r atyniadau mwyaf. Mae nifer o’r myfyrwyr yn cymryd mantais o’r lleoliad hwn trwy drefnu tripiau i drefi cyfagos, ond yn bwysicach oll mae’r lleoliad yn fantais i nifer o’n cyrsiau. Mae mynd allan i wneud gwaith maes yn ran hollbwysig o’r graddau yn Aberystwyth.

Taith maes Bioleg IBERS yn Ynyslas ger aber yr afon Dyfi

UMCA a Pantycelyn

Yn 2020 fe fu ail-agor neuadd Pantycelyn yn lety arlwyo rhannol i fyfyrwyr Cymraeg Aberystwyth. Mae yno 200 o ystafelloedd en-suite, gofod cymdeithasol cyffrous, cyfleusterau gemau ac ystafelloedd astudio gyda’r offer diweddaraf. Mae hefyd yn gartref i UMCA – Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth – timau chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol Y Geltaidd, ac Aelwyd Pantycelyn.

Mae neuadd Pantycelyn a’r cymdeithasau sydd wedi eu lleoli yno yn sicrhau fod myfyrwyr yn cael profiad croesawgar a chyfeillgar wrth ddechrau eu cyfnod yn y Brifysgol. Mae’n wir fod UMCA fel un criw mawr gyda’r aelodau o’r flwyddyn gyntaf i’r olaf yn mwynhau cymdeithasu ac astudio ochr yn ochr. Dyma un o flaenoriaethau Llywydd UMAC eleni, Dafi;

“Un o ‘mlaenoriaethau i eleni yw sicrhau eich bod yn mwynhau eich cyfnod yma yn Aberystwyth ac yn creu atgofion bythgofiadwy a ffrindiau am oes. Os ydych yn ansicr o unrhyw beth dewch i’m gweld i. Mae gen i swyddfa yn yr Undeb a hefyd ym Mhantycelyn. Peidiwch â bod ofn dod i ddweud helo. Cofiwch fy mod i, aelodau UMCA a’r Undeb ehangach yma i’ch cefnogi a’ch helpu trwy gydol eich amser fel myfyriwr.

O ran digwyddiadau cymdeithasol gallaf ddweud â hyder y bydd calendr pob un myfyriwr sy’n ymuno â UMCA yn llenwi’n syth gyda gwahanol nosweithiau, megis SWN, steddfodau tafarn, tripiau a digwyddiadau fwy ffurfiol fel y Loddest flynyddol sy’n esgus i bawb wisgo’n grand. Rydym ni hefyd yn falch iawn mai yma yn Aber y mae’r Ddawns Ryng-gol yn cael ei chynnal pob blwyddyn, ac yn mwynhau cymdeithasu gyda’r myfyrwyr o weddill prifysgolion Cymru, cyn mynd ati i baratoi ar gyfer cystadlu yn eu herbyn yn yr Eisteddfod Ryng-golegol.

Y gwir amdani yw fod dewis Aberystwyth nid yn unig yn rhoi cyfle i chi ddod i adnabod pobl o bob cwr o Gymru ond yn eich galluogi i amgylchynu eich hun gyda darlithwyr, ffrindiau, cyd-fyfyrwyr, a staff cyfrwng Cymraeg.”

 

Darganfod mwy

Y ffordd orau o ddod i wybod mwy am Brifysgol Aberystwyth yw mynychu Diwrnod Agored. Bydd modd i chi sgwrsio â staff, ymweld â llety a dysgu mwy am fywyd Cymraeg yn Aberystwyth trwy’r sesiwn Aber, y Gymraeg a Ti!

Cofrestrwch nawr ar gyfer Hydref 8 neu Tachwedd 12.