Joanna Adams, Ymgynghorydd Adnoddau Dynol gyda chwmni Darwin Gray, yn ystyried cyfrifoldebau cyflogwyr a hawliau eu staff.
Mae iechyd meddwl yn cael cryn sylw ar hyn o bryd. Yn ddiweddar, bu’r cyflwynydd Sean Fletcher yn bwrw golwg ar drybini gwasanaethau iechyd meddwl plant mewn rhaglen Panorama ar BBC1, a’r actor Ioan Gruffudd yn cyfaddef yn gyhoeddus ei fod yn dioddef o orbryder.
Tynnu sylw a thorri ar y stigma yw effaith ymgyrchoedd o’r fath ac mae’n digwydd ar adeg helbulus o ran ystadegau iechyd meddwl ein gwlad. Yng Nghymru fe ddywed ein meddygon teulu bod 40% o’u hapwyntiadau yn delio ag achosion yn ymwneud â iechyd meddwl.
Yn wir fe fydd un o bob pedwar o’r boblogaeth yn dioddef o gyflyrau salwch meddwl ac, ar unrhyw adeg, mae un o bob chwech o’r gweithlu yn dioddef o straen, gorbryder neu iselder.
Beth yw cyfrifoldebau cyflogwyr am iechyd meddwl eu gweithwyr?
Mae gan gyflogwyr ddyletswydd gofal tuag o ran iechyd eu gweithwyr ac mae hyn yn cynnwys iechyd meddwl y gweithlu.
Sut felly all gyflogwyr hyrwyddo iechyd meddwl da?
- Codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl. Egluro i bawb yn y busnes bod iechyd meddwl da yn bwysig i iechyd y busnes ei hun.
- Danfon neges glir fod rhoi gwybod am salwch meddwl yn iawn.
- Casglu data am resymau am salwch drwy wneud cyfweliadau dychwelyd i’r gwaith yn gyson ac yn drwyadl. Heb adnabod y rhesymau am salwch does dim modd i’r busnes helpu’r unigolyn yn iawn na deall os oes rhywbeth sy’n deillio o systemau gwaith yn achosi neu ychwanegu at y symptomau.
- Bod yn weithredol drwy apwyntio ‘Hyrwyddwyr Iechyd Meddwl’ i godi ymwybyddiaeth am ffyrdd o wella cyflwr iechyd meddwl gweithwyr.
- Hyfforddi staff fel ‘Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl’ i adnabod yr arwyddion a delio â staff sy’n dioddef.
- Ystyried defnyddio meddygon a nyrsys iechyd galwedigaethol yn fwy buan nag o’r blaen fel modd i ddeall y broblem ac estyn help llaw yn gynt.
- Ystyried addasiadau rhesymol, dros dro neu barhaol. i hwyluso profiad gweithwyr sy’n dioddef o anhwylder neu afiechyd meddwl.