Fe wyrodd bws oddi ar ffordd fynydd yng ngorllewin Nepal, gan ladd 30 o bobol ac anafu nifer fawr hefyd.
Mae’r heddlu lleol wedi adrodd fel y gyrrodd y bws oddi ar y ffordd o gerrig mân yn yr ardal fynyddig, anghysbell ger pentre’ Chatiwan.
Roedd hi’n dywyll pan ddigwyddodd y ddamwain, ac roedd niwl trwchus wedi syrthio tros yr ardal.