Francois Hollande
Ffrainc yw’r wlad gynta’ o’r Gorllewin i roi cydnabyddiaeth swyddogol i glymblaid newydd o wrthryfelwyr yn Syria.
Fe gyhoeddodd yr Arlywydd Francois Hollande y bydden nhw’n ystyried rhoi arfau i’r gwrthryfelwyr unwaith y bydden nhw’n ffurfio llywodraeth tros dro a bod sicrwydd ble byddai’r arfau’n mynd.
Mae’r datganiad yn golygu bod Ffrainc yn ystyried mai Clymblaid Genedlaethol Syria yw cynrychiolwyr yr holl wrthryfelwyr a’u bod yn ddarpar lywodraeth ddemocrataidd.
Cefnogaeth
Mae chwech o wledydd y Gwlff hefyd wedi cydnabod y Glymblaid a ddoe fe gafodd gefnogaeth gan y Gynghrair Arabaidd a’r Undeb Ewropeaidd.
Mae Ysgrifennydd Tramor Prydain wedi dweud y bydd y Llywodraeth yn Llundain hefyd yn rhoi mwy a mwy o gefnogaeth os gall y Glymblaid ddangos ei bod yn gweithredu tros yr holl bobol.
Ond, yn ôl gwasanaeth newyddion Al Jazeera, roedd hefyd wedi mynegi rhwystredigaeth at y ffordd yr oedd Rwsia a China yn atal y Cenhedloedd Unedig rhag gweithredu tros Syria.
Argyfwng dyngarol
Yn y cyfamser, mae papur y Times yn rhybuddio bod miliynau o bobol Syria mewn peryg o fod yn ddiymgeledd tros y gaeaf.
Maen nhw’n dweud bod mudiadau dyngarol yn methu â gweithredu mewn rhannau helaeth o’r wlad oherwydd ei bod mor beryglus.