Mae marchnadoedd stoc y byd wedi ymateb yn gadarnhaol heddiw i ail-ethol Barack Obama yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Roedd y marchnadoedd wedi bod ar bigau’r drain ers wythnos dda, wrth i fuddsoddwyr ddal eu gwynt nes y dôi canlyniadau’r ras am y Ty Gwyn.

Mae gwleidyddion yn troi’u golygon yn ôl nawr at fater mwya’r ymgyrch – sef adfer economi America.

Un o’r prif faterion ydi trio atal codi trethi a thoriadau gwario’r llywodraeth – yr hyn sy’n cael ei alw’n “ddibyn ariannol” ac a fydd yn gorfod digwydd o Ionawr 1 ymlaen os na fydd pethau wedi gwella.

Mae economegwyr yn rhybuddio y byddai hynny’n anfon y wlad ar ei phen i ddirwasgiad arall.

Hyd yma, mae’r Gyngres wedi methu â dod o hyd i dir cyffredin rhwng y ddau begwn – trethu a thorri’n ôl.

Y Democratiaid sydd wedi dal eu gafael ar y Senedd, tra bod y Gweriniaethwyr wedi cynnal eu mwyafrif solet yn y Ty.