Adeilad wedi chwalu (Schwede 66 CCA 3.0)
Mae Maer dinas Christchurch yn Seland Newydd wedi cyhoeddi sefyllfa o argyfwng wedi’r daeargryn brynhawn ddoe, ac mae’n galw ar bobol i adael canol y ddinas am y tro, er mwyn hwyluso’r gwaith achub.

Yn ôl Bob Parker, mae o leia’ 65 o bobol wedi marw hyd yn hyn ond mae disgwyl rhagor gyda mwy na 100 o bobol yn dal yn gaeth o dan y rwbel.

Mae tîmau achub wedi bod yn gweithio drwy gydol y nos i geisio rhyddhau pobol sydd wedi eu dal o dan weddillion adeiladau yn ail ddinas fwya’ Seland Newydd, ac mae cymaint o gleifion nes bod y gwasanaeth ambiwlans yn methu gofalu am bawb.

Mae nifer o drigolion y ddinas, sydd â phoblogaeth o 350,000, wedi bod yn helpu’r tîmau achub trwy wneud stretshers dros dro o ddarnau o garped a rwbel, er mwyn mynd â’r cleifion i’w ceir, a’u gyrru at ofal meddygol.

Mae rhai hefyd wedi bod yn helpu twrio trwy’r rwbel â’u dwylo er mwyn rhyddhau pobol sy’n dal yn gaeth.

Mae milwyr wedi cael eu galw i mewn erbyn hyn, er mwyn cau rhannau o’r ddinas sy’n parhau’n beryglus, ac mae cŵn achub wedi cael eu hanfon i helpu’r tîmau achub ddod o hyd i bobol o dan y rwbel.

Dim arwydd o wella

Digwyddodd y daeargryn o gwmpas amser cinio ddoe, ar adeg prysur iawn o’r dydd yn y ddinas, gan achosi i adeiladau i syrthio i’r stryd ar ben y bobol a’r cerbydau islaw.

Mae tanau yn dal i losgi mewn pentyrrau o rwbel o gwmpas y ddinas, ac mae mwg du, trwchus, i’w weld yn codi i’r awyr dros Christchurch.

Cyngor y Maer i drigolion sy’n parhau yn y ddinas yw i aros yn eu cartrefi neu gyda chymdogion, a chadw stôr o ddŵr a bwyd wrth law i’w cynnal nhw.